Cynorthwyydd i Benaethiaid Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau a Stiwardiaeth Tir (Cynorthwyydd Personol)

Dyddiad cau: 25 Awst 2025 | Cyflog: Gradd 4: £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Cymorth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 9 Medi 2025

Rhif swydd: 204034

Y rôl

Wrth wraidd y rôl hon mae angerdd dros yr amgylchedd naturiol ac ymrwymiad i sicrhau bod natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd. Rydym yn chwilio am gynorthwyydd personol dyfeisgar a thosturiol nad yw’n ofni gwneud penderfyniadau beiddgar na dangos blaengaredd yn ddyddiol. Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein tîm a helpu i yrru ein cenhadaeth ymlaen yn effeithlon ac yn ofalus. Mae’r tîm yn cynnwys pedwar cynorthwyydd personol a reolir gan gynorthwyydd gweithredol sy’n cefnogi pump o dîm arwain CNC ac un cyfarwyddwr gweithredol sy’n arwain y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu. 

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Mariella Scott

mariella.s.scott@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cyflawni rôl cynorthwyydd personol i’r cyfarwyddwr gweithredol neu aelod o’r tîm arwain, gan gefnogi a chydlynu llif gwaith eich tîm gweithredol neu dîm arwain i alluogi’r defnydd gorau posibl o amser, gan reoli dyddiaduron, monitro a threfnu i gydlynu â’r timau gwasanaethau gweinyddol ehangach, a threfnu teithio a bwcio llety.
  • Darparu cymorth ysgrifenyddol mewn cyfarfodydd a byrddau amrywiol (gan gynnwys gweithio ar draws cyfarwyddiaethau yn ôl yr angen).
  • Datblygu cydberthnasau gwaith da yn fewnol ac yn allanol gyda’r holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Aelodau o’r Senedd, Aelodau Seneddol ac uwch-swyddogion gweithredol o sefydliadau partner ar lefel leol a chenedlaethol fel y bo angen, er mwyn cydlynu ymatebion cymhleth o fewn eich maes gwaith.
  • Ymdrin ag ymholiadau a gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau mwy cymhleth (yn fewnol ac yn allanol), gan sicrhau cwrteisi a chyfrinachedd a chydymffurfedd â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
  • Ymddwyn fel gweinyddwr busnes eich tîm rheoli, gan gynnwys cydlynu’r gwaith o reoli risg, camau gweithredu, cofnodion penderfyniadau a phroblemau, penderfyniadau recriwtio, a chyfathrebiadau.
  • Rheoli ac arwain y gwaith o gydlynu gwaith penodol ar lefel gorfforaethol neu gyfarwyddiaeth.
  • Gwneud gwaith ymchwil a pharatoi dogfennau a chyflwyniadau a deunyddiau eraill er mwyn cefnogi gwaith eich cyfarwyddiaeth.
  • Dehongli a dadansoddi amrediad o wybodaeth, gan gynnwys sicrhau bod goblygiadau gwleidyddol yn cael eu hystyried lle y bo’n briodol, i gynorthwyo wrth wneud penderfyniadau.
  • Cefnogi’r gwaith o lywodraethu busnes eich tîm rheoli mewn modd effeithiol.
  • Ymdrechu am welliant parhaus i brosesau a gweithdrefnau i gynyddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
  • Fel rhan o’r rhwydwaith staff yn y timau cymorth gweithredol ac arweinyddiaeth ledled CNC, sicrhau cydlyniant effeithiol a chyfathrebu da rhwng meysydd gwahanol y busnes.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Pedair TGAU ar radd A*–C (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg) Neu NVQ Lefel 2 mewn Gweinyddiaeth neu gymhwyster cyfwerth.
  2. Profiad o bob rhaglen Microsoft Office, h.y. Word, Excel, PowerPoint ac Outlook.
  3. Gwybodaeth eang am CNC a’i swyddogaethau a sut mae’r sefydliad yn gweithredu.
  4. Profiad perthnasol o weithio mewn rôl weinyddol neu fel cynorthwyydd personol yn cefnogi rheolwyr lefel uwch a rhanddeiliaid, gan gynnwys profiad o ymdrin â materion hynod sensitif.
  5. Sgiliau trefnu rhagorol gyda’r gallu i gynllunio, trefnu a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol.
  6. Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ar lafar rhagorol, gyda’r gallu i gyfathrebu’n broffesiynol ar bob lefel a meithrin cydberthnasau rhanddeiliaid cryf ag uwch-swyddogion gweithredol, gwleidyddion ac eraill.
  7. Sgiliau ysgrifennu cywir a rhagorol, h.y. drafftio llythyrau ac adroddiadau.
  8. Gwybodaeth ynghylch materion cyfredol lleol a chenedlaethol sy’n ymwneud ag CNC i’r graddau y maent yn effeithio ar y swydd a’r aelod perthnasol o’r tîm gweithredol / tîm arwain.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf