Swyddog yr Amgylchedd – Ansawdd Dŵr x 2
Dyddiad cau: 31/08/2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Plas yr Afon, Llaneirwg, Caerdydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm yr Amgylchedd Caerdydd a'r Fro / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol tan 31/03/2027
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 15/09/2025
Rhif swydd: 204036 & 204054
Y rôl
Fel swyddog yr amgylcheddol yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth wella ansawdd dŵr mewn traethau ymdrochi dynodedig ar draws Bro Morgannwg. Eich prif ffocws fydd ymchwilio i achosion ansawdd dŵr gwael a chymryd camau wedi'u targedu i ysgogi gwelliannau ystyrlon.
Mae hon yn rôl amrywiol ac effeithiol sy'n cynnwys archwiliadau safle rheolaidd, ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol, a dadansoddi data ansawdd dŵr i nodi tueddiadau a meysydd problemus. Byddwch yn gweithio'n agos â phartneriaid lleol, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid eraill i ddarparu atebion cynaliadwy – a lle bo angen, byddwch yn defnyddio pwerau gorfodi i sicrhau cydymffurfedd.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Dai Walters Dai.walters@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb yn swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru, Plas yr Afon, Llaneirwg, Caerdydd.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Mae’r tîm yn dîm amlswyddogaethol ac mae’n gyfrifol am reoleiddio dŵr, ymchwiliadau llygredd, cadwraeth a gwaith pysgodfeydd. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o gyflawniad integredig y swyddogaethau hyn wrth ganolbwyntio ar wella ansawdd dŵr ymdrochi yn yr ardal.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Gweithio gydag amrywiaeth eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan gynnwys deiliaid trwyddedau, tirfeddianwyr, busnesau, cyrff cyhoeddus, grwpiau hamdden, gwirfoddolwyr a sefydliadau’r trydydd sector, er mwyn galluogi eraill i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
- Sefydlu, cynnal a chynghori partneriaid i gefnogi’r gwaith o ddatblygu prosiectau a chynlluniau partneriaeth o’r cysyniadau cychwynnol i’r adeg pan gânt eu rhoi ar waith. Bydd y prosiectau hyn yn darparu canlyniadau sydd wedi’u halinio â blaenoriaethau’r lle.
- Asesu cydymffurfedd â deddfwriaeth berthnasol ac amodau trwyddedau neu gydsyniadau. Pan nodir achos o beidio â chydymffurfio, penderfynu ar yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol a’i roi ar waith er mwyn dychwelyd i gydymffurfedd cyn gynted â phosibl. Cymryd camau gweithredu priodol ar gyfer casglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Llunio caniatadau a chydsyniadau dilys ar gyfer gweithrediadau sy’n effeithio ar safleoedd gwarchodedig. Ar gyfer yr holl feysydd gwaith, llunio’r cyngor, ymchwiliadau, dogfennau ac adroddiadau gofynnol i safonau ansawdd cytunedig, er mwyn cefnogi penderfyniadau gweithredol a rheoli, hysbysiadau safleoedd gwarchodedig, ymchwiliadau cyhoeddus, achosion llys ac ati, fel bod gwybodaeth, tystiolaeth a buddiannau CNC yn cael eu cyflwyno’n fanwl gywir ac yn effeithiol.
- O fewn eich maes arbenigedd, darparu cyngor ac ymatebion proffesiynol lleol mewn perthynas ag ymgynghoriadau gan dimau cynllunio a thrwyddedu. Cynnal cydberthnasau gwaith gyda’r timau hyn trwy gysylltiadau rheolaidd.
- Monitro cynnydd gwaith, a all gynnwys dehongli data, rheoli contractwyr, cyflwyno prosiectau, neu sicrhau cydymffurfedd â chytundebau rheoli neu hysbysiadau cyfreithiol statudol. Nodi a chefnogi unrhyw gamau adfer er mwyn sicrhau y cyflawnir canlyniadau.
- Chwarae rôl o fewn gwasanaeth rheoli digwyddiadau gwydn yn CNC sy’n dilyn prosesau’r sefydliad, er mwyn sicrhau ymatebion effeithiol, amserol a diogel i ddigwyddiadau.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth ymarferol dda am ddulliau rheoli’r amgylchedd, neu o feysydd amaethyddiaeth, pysgodfeydd, cadwraeth neu fioamrywiaeth, gyda phrofiad penodedig yn un o’r meysydd penodol hyn o gylch gwaith y tîm.
- Dealltwriaeth o sut y gall y timau amlswyddogaethol hyn gyfrannu at reoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy.
- Sicrhau datblygiad, arbenigedd a chymhwysedd proffesiynol a phersonol parhaus, trwy ddulliau dysgu ffurfiol ac anffurfiol ac ardystio.
- Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol.
- Y gallu i ddylanwadu, trafod ac ennyn cydweithrediad gan eraill. Mae meddu ar brofiad o ymdrin yn llwyddiannus â phobl/sefyllfaoedd anodd yn bwysig.
- Y gallu i ddefnyddio systemau TG arbenigol, megis systemau gwybodaeth ddaearyddol neu gymwysiadau CNC sydd wedi’u haddasu.
- Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm.
- Meddu ar drwydded ddilys lawn a chyfredol y DU i yrru cerbydau fflyd CNC (ceir a faniau).
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.