Economegydd
Dyddiad cau: 25 Awst 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Grŵp Tystiolaeth Integredig / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 12 Medi 2025
Rhif swydd: 204037
Y rôl
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a blaengar i ymuno â ni i ymgorffori tystiolaeth amgylcheddol mewn cynllunio economaidd – o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a chyda’n partneriaid allanol.
Yn y rôl hon, byddwch yn darparu cyngor arbenigol sy’n helpu i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch buddsoddi, polisi a datblygu yn arwain at ganlyniadau gwell i natur a phobl fel ei gilydd. Byddwch chi ar flaen y gad o ran cefnogi trawsnewidiad Cymru i economi adfywiol, gan gyfrannu’n uniongyrchol at Nod 4 Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.
Os yw’r syniad o alinio cynnydd economaidd â chydnerthedd amgylcheddol yn eich gyrru, a’ch bod eisiau bod yn rhan o sefydliad sy’n arwain y newid hwnnw, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Michael Gerardo
michael.gerardo@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Yn CNC, rydym wedi ymrwymo i feithrin dyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd. Mae ein cynllun corfforaethol, ‘Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’n Gilydd’ hyd at 2030, yn rhoi tystiolaeth wrth wraidd popeth a wnawn. Credwn fod casglu, dehongli, delweddu a rhannu gwybodaeth a thystiolaeth o ansawdd uchel yn hanfodol i gyflawni canlyniadau gwell i bobl Cymru a’i hamgylchedd naturiol.
Fel sefydliad blaengar, rydym yn cydnabod nad yw dulliau traddodiadol yn unig yn ddigon. Mae cofleidio dulliau tystiolaeth arloesol a meithrin cydweithio cryf yn hanfodol i fynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol a chymdeithasol cymhleth yr ydym yn eu hwynebu. Drwy’r ymdrechion hyn, rydym yn ymdrechu i gefnogi datblygu cynaliadwy, cadwraeth bioamrywiaeth a chydnerthedd hinsawdd ledled Cymru.
Mae ymuno ag CNC yn golygu dod yn rhan o dîm dynamig sy’n ymroddedig i wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth lunio polisi, llywio penderfyniadau, a diogelu treftadaeth naturiol Cymru am genedlaethau i ddod.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Bod yn bennaeth proffesiwn ac arweinydd busnes mewnol ar gyfer economeg yn CNC.
- Bod yn arweinydd ar draws y busnes i ymgorffori meddwl economaidd ecolegol megis asesu amgylcheddol-economaidd integredig, cynllunio economaidd natur-bositif, gwasanaethau ecosystemau a gwerthfawrogi’r amgylchedd.
- Arwain, datblygu a hwyluso methodolegau economaidd arloesol ac adnabod tystiolaeth i gefnogi cyflawni canlyniadau CNC, megis cyllido atebion ar sail natur.
- Cynnal dadansoddiad cost a budd ac asesiadau effaith sy’n estynedig o ran yr amgylchedd i lywio cynllunio a rheoli.
- Cymryd rôl arweiniol wrth ddylanwadu ar randdeiliaid allweddol, gweithio ar y cyd ac adeiladu partneriaethau i ddatblygu dulliau a thystiolaeth economaidd (e.e. gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth Cymru, DEFRA, awdurdodau lleol, cwmnïau dŵr, ymgyngoriaethau a’r gymuned academaidd).
- Bod yn gyfrifol am ddehongli ac adrodd ar ddata amgylcheddol-economaidd, gan ei droi’n dystiolaeth, ac yna lledaenu gwybodaeth a data technegol cymhleth i amrediad o gynulleidfaoedd, yn amrywio o rai sy’n hyddysg yn dechnegol i rai nad ydynt felly.
- Gweithio’n agos gydag arbenigwyr eraill, yn enwedig yn y Grŵp Tystiolaeth Integredig, trwy ddull rheoli matrics, i fynd i’r afael â materion tystiolaeth cymhleth.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad o weithio gydag adrannau’r llywodraeth yn trosi ei pholisi/deddfwriaeth neu strategaeth sefydliadol yn ddulliau ymarferol ar faterion amgylcheddol-economaidd.
- Gallu amlwg mewn cyfrifo cost a budd a gwerth presennol net sy’n cydymffurfio â’r Llyfr Gwyrdd.
- Gradd mewn Economeg.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
- Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.