Un rhwystr ar y tro i eogiaid yr Iwerydd
Mae eogiaid yr Iwerydd dan fygythiad yng Nghymru gyda niferoedd yn gostwng ar gyfraddau digynsail. Mae risgiau y gallent hyd yn oed ddiflannu’n gyfan gwbl o rai o afonydd Cymru o fewn y degawdau nesaf.
Yn y blog hwn ar ran Prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae Stuart Rees o Dîm Amgylchedd y De-orllewin yn sôn am bwysigrwydd eogiaid yr Iwerydd a sut y gall gweithio ar y cyd helpu i gefnogi’r rhywogaeth.
Yn destun pryder, dros y deng mlynedd diwethaf, mae niferoedd eogiaid gwyllt yr Iwerydd sy’n cael eu dal â gwialen wrth ddychwelyd o’r môr wedi gostwng cymaint â 70% yng Nghymru. Heddiw mae pob un o’n 23 o’n prif afonydd eogiaid yng Nghymru bellach wedi’u categoreiddio fel rhai “mewn perygl”.
Nid yw'r duedd hon yn unigryw i Gymru. Y llynedd, cafodd, eogiaid yr Iwerydd eu hailddosbarthu gan yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) o’r categori ‘dan ddim bygythiad’ i’r categori ‘mewn perygl’ ym Mhrydain Fawr, o ganlyniad i ostyngiad o 30-50% ym mhoblogaeth Prydain ers 2006.
Pwysigrwydd eogiaid yr Iwerydd i'r amgylchedd naturiol
Mae eogiaid yr Iwerydd yn chwarae rhan hanfodol yn ein hecosystemau dŵr croyw. Fel rhywogaeth ‘allweddol’, maent yn cyfrannu at strwythur a gweithrediad cyffredinol ein systemau afonydd.
Maent hefyd yn ‘ddangosydd’ amhrisiadwy o iechyd ein hafonydd. Mae eu hangen am gynefinoedd iach a dŵr oer a glân mewn dŵr croyw ac yn y môr yn golygu eu bod yn faromedr go iawn o iechyd a chyflwr yr amgylchedd y maent yn byw ynddo.
Mae'r gostyngiad dramatig yn eu niferoedd yn arwydd bod gennym ni broblemau sylweddol yn y cynefinoedd ac ecosystemau hyn.
Gwarchod y rhywogaeth
Mae eogiaid yr Iwerydd (Salmo salar L.) yn cael yr amddiffyniad uchaf yn y DU ac ar lefel ryngwladol gan nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth.
Yng Nghymru, mae statws y boblogaeth eogiaid yn cael ei fonitro’n flynyddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Yn 2024, dangosodd data monitro fod bron pob poblogaeth afon yn perfformio’n wael. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yma.
Mae eu dirywiad o ganlyniad i sawl ffactor sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd; mae amodau newidiol y cefnfor a goroesiad morol gwael yn effeithio ar bob poblogaeth.
Yn ogystal, mae tymereddau uwch mewn afonydd yn y gaeaf a’r haf yn effeithio ar silio, ac mae llifogydd amlach a mwy eithafol yn golchi wyau ac eogiaid sydd newydd ddeor i ffwrdd, gan achosi sgil-effaith ar oroesiad pysgod ifanc mewn llawer o afonydd Cymru.
Mae effeithiau lleol megis ansawdd dŵr a chynefinoedd hefyd yn cael effaith andwyol ar niferoedd pysgod. Gall mynediad i lwybrau mudo hefyd greu heriau, gyda choredau a rhwystrau o waith dyn yn rhwystro mynediad i fannau silio ymhellach i fyny'r afon.
Er mwyn deall eu hanghenion cymhleth a sut y gallwn eu helpu, mae'n rhaid i ni ddeall eu taith fudo yn gyntaf.
Taith fudo epig
Mae eogiaid yn treulio blynyddoedd cyntaf ac ail eu bywydau mewn afonydd cyn mudo i'r môr fel gleisiaid (eogiaid ifanc). Maent yn treulio tua phedair blynedd yn y môr, yn bwydo ac yn tyfu'n gryfach yn barod ar gyfer y daith anodd sydd i ddod.
Gweler delwedd cylch bywyd eogiaid isod.
Ar ôl pedair blynedd yn y môr ac wrth i'r hydref agosáu, maent yn aros yn reddfol wrth geg yr afon am law gyntaf yr hydref. Mae’r glaw hwn yn codi lefelau afonydd, ac yn ysgogi’r eogiaid i nofio i fyny eu hafon wreiddiol i silio fel oedolion.
Gall rhai eogiaid deithio miloedd o filltiroedd, gan nofio'n ddiflino yn erbyn y cerrynt. Eu prif nod yw dychwelyd i’r union fan lle cawsant eu geni i silio trwy ddefnyddio eu synnwyr arogli.
Mae arogli yn chwarae rhan bwysig trwy gydol oes eog, gydag oedolion yn adnabod eu hafon gartref trwy gofio arogl yr afon yn ystod eu hymfudiad i'r môr fel gleisiaid.
Pan fydd yr eogiaid llawndwf yn cyrraedd eu man silio, mae’r benywod yn cloddio nythod bas, a elwir yn ‘gladdau’, yng ngwelyau graean yr afon trwy ddefnyddio eu cynffonnau. Yna maent yn dodwy miloedd o wyau a ffrwythlonir gan y gwrywod.
Lluniau isod: Claddau (nythod) eogiaid wedi'u dangos gan raean goleuach yn erbyn y graean tywyllach o'i amgylch – diolch i Mark Thomas (CNC).
Yna mae'r fenyw yn gorchuddio'r wyau yn ofalus, ac mae'r eogiaid llawndwf yn gadael, gyda rhai’n marw ar ôl silio.
Mae silio fel arfer yn digwydd o fis Tachwedd i fis Rhagfyr, er y gall ddigwydd yn gynharach neu'n hwyrach yn dibynnu ar ffactorau amrywiol. Gwyliwch fideo LIFE Afon Dyfrdwy o ymddygiad silio.
Ar hyd eu teithiau mudo, gallant wynebu llawer o heriau naturiol a rhai o waith dyn.
Mae dyfrgwn, crehyrod a physgod mwy yn ysglyfaethwyr naturiol, ond mae rhwystrau o waith dyn yn cyflwyno rhai o'r heriau mwyaf.
Gall coredau, er enghraifft, rwystro eogiaid rhag cyrraedd eu mannau silio. Mae'r adeileddau hyn yn gorfodi eogiaid i ddefnyddio egni gwerthfawr wrth geisio neidio drostynt.
Felly mae mynediad rhydd a dirwystr yn hanfodol er mwyn iddynt gwblhau eu taith yn llwyddiannus.
Sut ydyn ni'n eu helpu?
Mae CNC wedi darparu nifer o gynlluniau hwyluso a llwybrau pysgod eleni fel rhan o raglenni amrywiol.
Ers 2022 mae Rhaglen Eogiaid Yfory CNC a ariennir gan Gyfalaf Dŵr gan Lywodraeth Cymru wedi cyflawni 10 prosiect ac wedi agor 159 cilomedr (99 milltir) o gynefin afon o ansawdd da.
Yr haf hwn mae Prosiect Pedair Afon LIFE hefyd wedi cyflwyno sawl cynllun i wella mynediad i bysgod mudo.
Un prosiect o'r fath oedd gosod llwybr pysgod ‘Larinier’ yng nghored Jerwsalem ar afon Clydach, un o lednentydd ACA Afon Tywi. Bydd hwn yn gwella mynediad ar gyfer amrywiaeth o bysgod mudol pwysig fel eogiaid a llysywod pendoll.
I ddechrau, amlygwyd cored Jerwsalem fel rhwystr i ymfudiad pysgod gan Arbenigwyr Pysgodfeydd CNC oherwydd ei chyflwr dirywiol a gwael.
Gan fod y ACA Afon Tywi o fewn dalgylch Prosiect Pedair Afon LIFE, roedd yn gwneud synnwyr i gydweithio i ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd y ddau dîm.
Mae'r math hwn o lwybr pysgod yn lleihau cyflymder y llif ac, o ganlyniad, yn gwneud mynd heibio yn hawdd i eogiaid a brithyllod, yn ogystal ag amrywiaeth o rywogaethau nofio gwannach fel llysywod pendoll a llyswennod.
Er iddo gael ei ddarparu a’i ariannu gan y prosiect LIFE, bydd y llwybr pysgod yn cael ei gynnal a’i gadw a’i fonitro gan weithwyr pysgodfeydd CNC yn y dyfodol.
Rhan bwysig o'r gwaith cynnal a chadw yw cadw llwybrau pysgod yn rhydd rhag dail a rhwystrau'r adeg hon o'r flwyddyn, er mwyn sicrhau mynediad agored a dirwystr i bysgod pwysig fel eogiaid.
Os ydych yn pryderu am unrhyw rwystr ar lwybr pysgod, rhowch wybod i CNC drwy ffonio 0300 065 3000.
Gwelwyd yr eog yn y llun isod ar afon Sawdde ganol mis Hydref a’r gobaith yw y bydd bellach yn defnyddio’r llwybr pysgod newydd yng nghored Jerwsalem ar ei daith fudo.
Llun isod: Eog ar afon Sawdde, diolch i Stuart Rees, CNC
Gobaith am eogiaid yn y dyfodol
Mae gan raglen Eogiaid Yfory CNC gyfres o brosiectau ar draws Cymru gyfan, y mae rhai ohonynt yn hynod heriol a bydd yn cymryd sawl blwyddyn i’w cyflawni ond a fydd yn dod â manteision mawr.
Y flwyddyn nesaf mae mwy o waith yn cael ei wneud i wella mudo pysgod ar ACA Afon Wysg yn Aberhonddu fel rhan o Brosiect Pedair Afon LIFE.
Gan weithio gyda’i gilydd, bydd tîm Pysgodfeydd CNC, Prosiect Pedair Afon LIFE, Bannau Brycheiniog, Glandŵr Cymru a Chyngor Sir Powys yn gosod llwybr gleisiaid newydd ar gored Aberhonddu.
Bydd y gwaith hwn yn helpu gleisiaid (eogiaid ifanc) i fudo i lawr yr afon ar yr afon bwysig hon.
Mae prosiectau fel hyn yn dangos pa mor bwysig yw cydweithio – rydym i gyd eisiau gweld afonydd iachach a gwell ansawdd dŵr a chynefin.
Ni allwn warchod ein hafonydd a’n bywyd gwyllt ar ein pen ein hunain, a rhaid inni ddod at ein gilydd i rannu syniadau a chyfrifoldebau i ddarparu atebion hirdymor ar gyfer ein hamgylchedd naturiol.
I ddarllen mwy am waith adfer afonydd CNC, ewch i’r tudalennau newyddion yma.