Adfywio ein twyni tywod
Rydym yn rheoli llawer o brosiectau anhygoel ledled Cymru, gan warchod llawer o safleoedd a helpu'r bywyd gwyllt sy'n eu galw’n gartref. Danny Wyn Griffith, Swyddog Cyfathrebu a Dehongli Twyni Byw, sy’n dweud mwy wrthym am un o'n prosiectau cyfredol a'r cynefin arbennig mae'n ei helpu...
Wrth feddwl am system twyni tywod iach, dychmygwch fyd gwahanol i'r un rydyn ni’n ei adnabod. Mae'n fyd sy’n newid yn gyson; lle mae twyni'n cael eu ffurfio, eu chwythu ymaith a'u hailffurfio eto. Yng nghanol y broses anhygoel hon mae gennych degeirianau, gwenyn, glöynnod byw ac adar yn byw wrth ochr ei gilydd. Mae rhai rhywogaethau prin, fel tegeirian y fign galchog, yn manteisio ar y dirwedd yma sy'n newid yn barhaus drwy ail-gytrefu’r twyni'n gyson. Cymaint yw'r gyfradd ryfeddol o newid, mae'n bosib mai dim ond ychydig o flynyddoedd oed yw rhai o’r twyni, tra gallai systemau twyni eraill ddyddio’n ôl filoedd o flynyddoedd.
Yn anffodus, mae ein twyni tywod rhyfeddol wedi bod yn wynebu bygythiadau niferus. Dros yr 80 mlynedd diwethaf mae bron i 90% o'r tywod agored wedi diflannu, gyda glaswellt a phrysgwydd trwchus yn cymryd eu lle. Mae hyn wedi achosi i'r twyni fynd yn rhy sefydlog, gan wneud i fywyd gwyllt prin ddioddef a diflannu. Achoswyd y newid hwn gan ffactorau fel plannu moresg, cyflwyno rhywogaethau anfrodorol, diffyg pori traddodiadol, gostyngiad ym mhoblogaeth cwningod a llygredd yn yr aer – dyddodiad nitrogen yn benodol.
Mae’r Prosiect Twyni Byw wedi ei ariannu i adfywio twyni tywod ar 10 safle gwahanol ledled Cymru. Ar ôl dechrau ym mis Awst 2018 ac i fod i’w orffen ym mis Rhagfyr 2022, ein nod yw ail-greu symudiad naturiol yn y twyni ac adfywio'r cynefin pwysig hwn sy'n gartref i rai o'n bywyd gwyllt prinnaf.
Yn ddiweddar rydym wedi bod yn brysur yn cynllunio gwaith ac yn meithrin cysylltiadau allweddol a fydd yn caniatáu i'r prosiect lwyddo. Nawr, serch hynny, rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfnod cyffrous pan fydd ein cynlluniau yn cael eu rhoi ar waith.
Beth ddigwyddodd dros y gwanwyn a'r haf?
Ddiwedd mis Mehefin, cynhaliwyd gweithdy rhyngwladol 'Cynnal Twyni Tywod Symudol' ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a fynychwyd gan arbenigwyr twyni tywod o bob cwr o ogledd Ewrop. Roedd y digwyddiad yn cynnwys ymweliadau â safleoedd Cynffig a Merthyr Mawr – gyda'r bywyd gwyllt trawiadol oedd i’w weld a’r gwaith diweddar i adfer symudedd y twyni yn creu argraff arbennig ar ein gwesteion.
Roedd y gweithdy'n gyfle i ni rannu syniadau cyffrous â'n gilydd, rhannu ein gwybodaeth a chael cynghorion pwysig ar reoli twyni tywod.
Rydym hefyd wedi bod yn cynnal gwaith monitro ecolegol a ffisegol pwysig ar dwyni tywod ar raddfa na welir yng Nghymru fel arfer. Mae JBA Consulting wedi cael contract i gyflawni'r gwaith, a gwnaethant gynnal arolwg llystyfiant cyflawn o'r twyni yn ardal y prosiect – y cyntaf ers y 1980au!
Bydd arolygon 'cyn’ ac ‘ar ôl' eraill o infertebratau, planhigion a phriddoedd yn olrhain effaith ein gwaith. Bydd teithiau awyr yn cynhyrchu delweddau LiDAR 3-D o'r twyni a bydd lefelau'r dŵr yn cael eu hasesu. Mae lleoliadau rhywogaethau a warchodir, fel madfall y tywod a’r fadfall ddŵr gribog, hefyd wedi'u cofnodi er mwyn sicrhau y bydd ein gwaith yn eu diogelu ac nid yn achosi unrhyw niwed iddynt.
Beth nesaf?
Wrth i'r dail ddechrau disgyn ac i’r dyddiau fynd yn fyrrach, mae'r hydref yn gyfnod perffaith i ni ddechrau ein gwaith cadwraeth ymarferol a helpu i adfywio twyni tywod ledled Cymru.
Un o'r tasgau pwysig y byddwn yn ei wneud yw torri gwair. Mae glaswelltir y twyni yn enwog am ei garpedi o flodau a thegeirianau prin. Fodd bynnag, os na fyddwn yn cadw gweiriau tal a phrysgwydd dan reolaeth, gallant achosi difrod i’r cynefin pwysig hwn ac atal planhigion arbenigol y twyni rhag ffynnu.
Byddwn yn torri mewn mannau yn Niwbwrch, Arfordir Pen-bre, Twyni Whiteford, Cynffig a Merthyr Mawr. Bydd hyn yn galluogi planhigion twyni sy'n tyfu'n isel i ffynnu tra hefyd yn cefnogi pryfed peillio ac infertebratau.
Rhan hanfodol arall o'r gwaith y byddwn yn ei wneud fydd cael gwared ar brysgwydd. Ydy, mae prysgwydd yn darparu fflach o wyrddni, ond mae gormod o brysgwydd yn mygu'r twyni tywod a gall gael effaith ddinistriol ar y planhigion arbenigol a'r infertebratau sy'n byw yno, sydd angen amodau agored. Mae rhywogaethau anfrodorol, fel rhafnwydd y môr a chotoneaster, yn ymledol iawn ac yn ymledu ymhellach bob blwyddyn. Os nad yw prysgwydd yn cael ei reoli, gallem golli ein holl dwyni deinamig.
Byddwn yn cael gwared ar brysgwydd mewn mannau yn Nhywyn Aberffraw, Niwbwrch, Morfa Harlech, Morfa Dyffryn, Twyni Lacharn - Phentywyn ac Arfordir Pen-bre. Bydd hyn yn helpu i ail-greu glaswelltir twyni naturiol sy'n darparu cartref i’n bywyd gwyllt sydd dan fygythiad.
Byddwn hefyd yn ffensio. Er bod twyni tywod yn fannau gwyllt, naturiol, mae angen i ni ymyrryd o hyd i'w hatal rhag tyfu'n wyllt gyda glaswelltau a phrysgwydd trwchus. Mae pori traddodiadol gan wartheg neu ferlod yn cadw'r twyni tywod yn agored. Mae hyn wedyn yn creu amodau perffaith er mwyn i fywyd gwyllt a phlanhigion arbenigol y twyni ffynnu.
Byddwn yn ffensio ardaloedd penodol yn Niwbwrch y gaeaf hwn. Bydd hyn yn diogelu ac yn rheoli'r da byw sy'n cyflawni'r dasg bwysig o bori glaswelltir y twyni.
Sut allaf gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect?
Mae llawer o opsiynau ar gael i chi! Ewch draw i’n tudalen we newydd i gael yr holl newyddion diweddaraf am y prosiect a gwybodaeth am ganlyniadau a chanfyddiadau. Neu beth am ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol? Mi fydd ein ffrydiau Twitter, Instagram a Facebook yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, gan roi cipolwg o'r cynnydd wythnosol, ffotograffau gwych sy’n gysylltiedig â thwyni a phytiau byr o gyfweliadau. Gallwch hefyd danysgrifio i'n cylchlythyr.