Dod ag Afonydd yn Fyw: Ysbrydoli meddyliau ifanc ar hyd afon Wysg

Eleni, mae Tîm Addysg Bannau Brycheiniog wedi bod yn cyflwyno diwrnodau newydd Ymchwilio i Afonydd mewn ysgolion lleol o amgylch Aberhonddu ac afon Wysg.

Cyflwynir Diwrnodau Ymchwilio i Afonydd ar ran prosiect Pedair Afon LIFE gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o afon Wysg a rhai o'r heriau y mae'n eu hwynebu.

Mae'r blog hwn, gan Dîm Addysg Bannau Brycheiniog, yn esbonio mwy am y gwaith hwn a'i bwysigrwydd.

Cydweithio

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn un o bartneriaid prosiect Pedair Afon LIFE ac mae wedi gweithio'n agos â'r prosiect i gyflawni nifer o'i amcanion, o reoli rhywogaethau estron goresgynnol i addysg amgylcheddol.

Ar ran prosiect LIFE, mae'r Tîm Addysg wedi cyflwyno wyth Diwrnod Ymchwilio i Afonydd i saith ysgol, gan ymgysylltu â 210 o ddisgyblion i gyd.

Mae'r Tîm Addysg yn cynnwys tri Swyddog Addysg, ac mae pob un ohonynt yn cael y dasg o ddarparu allgymorth i ysgolion o fewn ardal Bannau Brycheiniog.

Mae'r Diwrnodau Ymchwilio i Afonydd yn dod ag afonydd yn fyw drwy gyfuniad o sesiynau ystafell ddosbarth ac archwilio awyr agored, gan roi cyfle ymarferol i ddisgyblion ddysgu am systemau afonydd, bywyd gwyllt lleol, a phwysigrwydd diogelu ein hamgylchedd naturiol.

Llun: Disgyblion Ysgol Pont Senni yn mesur lled yr afon (diolch i BCBB)

Gyda ffocws arbennig ar ACA (Ardal Cadwraeth Arbennig) Afon Wysg nod y gweithdai oedd ysbrydoli chwilfrydedd, dyfnhau dealltwriaeth o sut mae afonydd yn gweithio, ac annog cysylltiad parhaol â natur.

O’r ystafell ddosbarth i lan yr afon

Drwy gydweithio, nod Tîm Addysg Bannau Brycheiniog a phrosiect Pedair Afon LIFE oedd helpu disgyblion i ddeall sut mae afonydd yn gweithio a pham y mae’n nhw’n bwysig i fywyd gwyllt ac i bobl.

Amlygodd y sesiwn y modd y mae afonydd yn siapio tirweddau, yn cefnogi bywyd gwyllt ac yn wynebu heriau.

Archwiliodd disgyblion brosesau afonydd gyda Model Afon 3D, a dysgu am fudo eogiaid trwy chwarae gemau rhyngweithiol, a darganfod bywyd gwyllt gan ddefnyddio gêm arddull 'Top Trumps'.

Ar ddiwedd y sesiynau cafwyd taith i afon Wysg, lle casglodd y disgyblion samplau, a darganfod y creaduriaid sy'n byw yno.

Llun: Disgyblion Ysgol Pont Senni yn nodi eu darganfyddiadau yn yr afon (diolch i BCBB)

Adeiladu afon

Un o uchafbwyntiau o'r gweithdai oedd Model Afon 3D, lle rhoddwyd cyfle i ddisgyblion greu afon, siapio gwely'r afon a gwylio sut yr oedd yr afon yn symud. Gallent arsylwi sut mae erydiad yn newid cwrs afonydd, sut mae ystumiau neu ddoleniadau a gorlifdiroedd yn cael eu creu.

Roedd y model hefyd yn caniatáu i ddisgyblion ddysgu sut y gellir adfer afonydd yn naturiol, er enghraifft drwy blannu coed ar hyd y glannau er mwyn arafu llif y dŵr, lleihau erydiad, a chreu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Roedd y gweithgaredd hwn yn eu helpu i gysylltu dysgu yn yr ystafell ddosbarth â phrosesau afonydd go iawn ar eu Hafon Wysg.

Llun: Disgyblion Ysgol Gynradd Llanfaes gyda model afon 3D (diolch i BCBB)

Manteision allgymorth addysgol i blant

Mae gweithdai wedi cael derbyniad da iawn gan athrawon a disgyblion. Dyma beth oedd ganddynt i'w ddweud.

Meddai Tom Edwards o Ysgol Gynradd Llangatwg:

“Cawsom fore ardderchog yn cymryd rhan yng ngweithdy 'Afonydd LIFE’. Llwyddodd y sesiwn ar bysgod mudol i hoelio sylw’r disgyblion, ac fe wnaeth yr efelychydd afon eu helpu i weld sut mae rhwystrau yn effeithio ar siâp a llif afon Wysg.
Roedd y daith gerdded at yr afon a chasglu data yn uchafbwyntiau go iawn — roedd y disgyblion dangos diddordeb gwirioneddol, yn gofyn cwestiynau meddylgar, ac yn dysgu cymaint heb hyd yn oed sylweddoli hynny. Roedd yn brofiad cofiadwy i bawb.”

Meddai Anne-Marie Thomas, Athrawes Blwyddyn 6 yn Ysgol yr Eglwys Priordy yng Nghymru:

“Ar ran staff a disgyblion Ysgol y Priordy, hoffem ddiolch o galon am y diwrnod allgymorth bendigedig i'n dosbarth Blwyddyn 6. O'r daith dywys ar hyd afon Wysg i'r sesiwn samplu dŵr ac adnabod rhywogaethau, roedd pob gweithgaredd yn ysbrydoli chwilfrydedd ac yn dyfnhau dealltwriaeth.
Cafodd y plant eu swyno gan y cyfle i archwilio eu hamgylchedd afon lleol a daethant oddi yno ag ymdeimlad llawer cryfach o'r rhywogaethau sy'n byw yno. Roedd pa mor berthnasol oedd y diwrnod i'n cwricwlwm yn rhagorol, ac roedd y gweithgareddau ar y thema afon yn ôl yn yr ysgol yn atgyfnerthu'r dysgu ymhellach ac yn cynnal diddordeb y plant  ac yn eu hysbrydoli.”

Y camau nesaf

Rydym yn hynod o gyffrous o gael gweithio gyda mwy o ysgolion dros y misoedd nesaf ac rydym yn bwriadu cynnwys ysgolion uwchradd fel rhan o'n sesiynau allgymorth.

Rydym hefyd yn brysur yn gweithio ar adnoddau ar-lein newydd y gellir eu lawrlwytho gan ysgolion a byddant yn parhau i gael eu defnyddio ar ôl diwedd y prosiect LIFE.

Rydym wrth ein bodd gyda'r ymateb gan ysgolion yn ardal Aberhonddu ac rydym yn credu bod y sesiynau wedi helpu disgyblion i archwilio afonydd a'u hecosystemau a datblygu ymdeimlad o gyfrifoldeb dros y byd naturiol.

Cysylltwch â ni

Hoffech chi ddod ag afonydd yn fyw i'ch disgyblion yn ardal Bannau Brycheiniog? Mae croeso i chi gysylltu â Thîm Addysg Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog drwy e-bost : educationemail@beacons-npa.gov.uk

Er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Pedair Afon LIFE gallwch ein dilyn ar Facebook, X (Twitter gynt) ac Instagram neu danysgrifio i'n cylchlythyr yma

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru