Sut mae pren yn helpu i adfer cynefinoedd afonydd

Nod prosiect Pedair Afon LIFE yw gwella adeiledd cynefinoedd a swyddogaeth pedair afon sy’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, sef afon Teifi, afon Tywi, afonydd Cleddau ac afon Wysg.
O ran afon Wysg, mae Swyddogion Prosiect wedi bod yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ei hystâd Fferm Tŷ Mawr ym Mannau Brycheiniog i adfer yr afon a’i hailgysylltu â’i gorlifdir naturiol trwy ailgyflwyno coed i’r afon.
Yn y blog hwn, mae’r Swyddog Adfer Afonydd Prosiect Pedair Afon LIFE, Peter Jones, yn esbonio sut maen nhw wedi gwneud hyn a phwysigrwydd y gwaith.
Rheoli ein hafonydd
Un o’r heriau mwyaf cyffredin sy’n ymwneud â chynefinoedd afonydd yn y DU yw’r ffaith eu bod wedi cael eu newid i leihau eu deinameg naturiol a’u cyfyngu i’w sianeli.
Yn draddodiadol byddai rheoli afonydd yn cynnwys ‘glanhau sianeli’ yn rheolaidd i gael gwared â phren o’r sianel yn llwyr. Ar y cyd â chyfundrefn o ddraenio’r tir a gwaith peirianneg afonydd, erbyn yr 1980au roedd y rhan fwyaf o’n hafonydd a’n nentydd wedi’u rheoli i fod yn sianeli unigol dyfnach a mwy syth (o’r llyfryn Woody Debris).
Dros y 40 mlynedd diwethaf, mae ymchwil i’r rôl y mae pren yn ei chwarae mewn afonydd bellach yn dangos i ni ei fod yn elfen hanfodol o ecosystem afon iach a gweithredol, gan greu adeiledd amrywiol a chynefin pwysig i’r bywyd gwyllt y mae’n ei gynnal.
Elfen allweddol o ddynameg afonydd yw faint o bren sydd yn y llif (coed wedi cwympo, canghennau, ac ati). Yn hanesyddol, byddai llawer iawn o bren wedi bod yn bresennol yn y mwyafrif o afonydd ond mae wedi dod yn gynyddol brin.
Gall gadael coed sydd wedi cwympo (pan nad ydynt yn peri perygl llifogydd i eiddo) yn sianel yr afon helpu afonydd i ymadfer, gan fod malurion coed yn gatalydd i ddal graean a silt, codi lefelau gwely’r afon, a helpu i greu patrymau llif gwahanol.
Dylai afonydd sy’n gweithredu’n naturiol lifo dros eu gorlifdiroedd yn rheolaidd, gan gynyddu cynefinoedd gwlyptir yn lleol a lleihau’r risg gyffredinol o lifogydd i lawr yr afon.
Gwerth pren a choed mawr mewn afonydd
Mae pren yn chwarae ystod eang o rolau swyddogaethol pwysig mewn ecosystemau afonydd. Mae’n creu clytiau o erydiad a dyddodiad mewn mannau penodol, a thrwy hynny mae’n cynyddu amrywiaeth cynefinoedd (gweler y ddelwedd isod).
Delwedd uchod: Enghraifft o effaith coed mawr ar amrywiaeth cynefinoedd. Yr un yw’r afon yn y ddau lun a dim ond cwpl o gannoedd o fetrau rhyngddynt. Mae un estyniad o’r afon yn cynnwys llawer o ddarnau mawr o goed a’r llall heb ddim coed (lluniau CNC).
Gall pren mewn afonydd ddal symiau mawr o raean a dal llifddwr yn ôl, gan godi lefelau afonydd o gymharu â’u gorlifdiroedd.
Mae hyn yn helpu gyda swyddogaethau’r ecosystemau a gall ddod â manteision o ran rheoli llifogydd i ardaloedd i lawr yr afon.
Mae’r modd y mae’r adeileddau pren yn rhyngweithio â llif y dŵr a gwely’r afon yn ‘gweithio’ y graean, gan achosi i’r gwaddodion mân symud a’i wneud yn fwy addas i bysgod silio ynddo.
Mae pren hefyd yn darparu bwyd i infertebratau’r dŵr fel y pryf hofran Chalcosyrphus eunotus, ac yn cynnig lloches i bysgod ac organebau eraill.
Ychwanegu coed at afon Tarell ger Aberhonddu
Cwblhaodd prosiect Pedair Afon LIFE brosiect adfer cynefinoedd ym mis Hydref 2024 ar afon Tarell, is-afon bwysig yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Wysg.
Canolbwyntiodd y gwaith ar ran o’r afon sy’n llifo trwy Ystâd Fferm Tŷ Mawr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Nod y prosiect oedd adfer prosesau naturiol a mynd i’r afael â llawer o’r problemau sy’n cyfyngu ar werth cynefinoedd ar afon Tarell: toriad yn y sianel, datgysylltu’r gorlifdir, diffyg amrywiaeth yn y sianel, a swbstrad wedi’i gydgrynhoi sydd â llwyth gwaddod uchel.
Datblygwyd cynllun mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Adfer Afonydd a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Delwedd uchod: Cynllun adfer ar gyfer afon Tarell (delwedd Y Ganolfan Adfer Afonydd)
Crëwyd pedwar ar ddeg o adeileddau pren mawr ar hyd estyniad 600 metr o hyd gan ddefnyddio coed oedd ar lan yr afon (gweler yr enghreifftiau isod).
Cafodd coed dethol eu winsio i mewn i’r sianel â’u gwreiddiau ynghlwm, a’u gwasgu i mewn yn erbyn coed byw ar y lan i leihau’r risg y cânt eu dadleoli pan fydd llif y dŵr yn uchel.
Cafodd y coed eu lleoli’n strategol er mwyn annog y dŵr i lifo dros y gorlifdiroedd ac er mwyn cynyddu cynefinoedd yn y sianel.
Mae’r adeileddau wedi’u dylunio fel y gall pysgod symud drwyddynt er mwyn sicrhau nad ydynt yn eu rhwystro rhag mudo.
Lle’r oedd modd, defnyddiwyd coed ynn a oedd yn dioddef yn sylweddol o glefyd coed ynn er mwyn lleihau’r effaith ar y coetir torlannol.
I gyd-fynd â’r gwaith cwympo coed cynhaliwyd gwaith plannu coed ym mis Mawrth 2025 er mwyn annog adferiad y coetir ar draws ystâd Fferm Tŷ Mawr.
Ochr yn ochr â’r gwaith gyda choed mawr, tynnwyd rhannau o arglawdd artiffisial er mwyn gwella cysylltedd ochrol yr afon (gweler isod y ddelwedd uchaf ar y dde).
Delweddau uchod: Enghreifftiau o rai o’r adeileddau pren mawr a osodwyd ar afon Tarell (lluniau CNC).
Mae’r canlyniadau’n edrych yn gadarnhaol
Mae’r cynllun eisoes yn dangos ei fanteision gan fod erydiad a dyddodiad wedi cychwyn mewn mannau penodol ar ôl dim ond chwe mis. Mae hyn yn arwain at nodweddion yn ffurfio, er enghraifft pyllau sgwriad a barrau yng nghanol y sianel.
Mae dyddodion graean sydd newydd eu gweithio hefyd wedi ffurfio, gan wella addasrwydd i eogiaid sy’n silio.
Arsylwyd ar ddŵr wedi llifo dros y glannau mewn tywydd gwlyb (gweler y ddelwedd isod) mewn ardaloedd lle na fyddai hynny wedi digwydd o’r blaen. Yn ystod stormydd Bert a Darragh roedd tua 70% o’r gorlifdir o dan ddŵr, sy’n swm sylweddol o ddŵr nad aeth i lawr yr afon pan oedd y llifogydd yn eu hanterth.
Gyda’r gorlifdir dan ddŵr fel hyn yn aml, dylai mwy o gymunedau naturiol ddatblygu yno.
Delwedd uchod: Dŵr yn llifo dros y gorlifdir yn ystod y glaw sylweddol cyntaf ar ôl cwblhau’r gwaith (llun CNC).
Mae prosiect adfer afon Tarell yn enghraifft ardderchog o sut y gall gwaith adfer cymharol fach sbarduno prosesau naturiol a hybu adferiad ecosystemau.
Mae ecosystemau sy’n gweithredu’n naturiol yn llawer mwy cadarn a gwydn yn wyneb pwysau amgylcheddol yn y dyfodol.
Bydd y prosiect yn parhau i fonitro newidiadau yng nghynefinoedd a chymunedau’r afon dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i asesu manteision y gwaith adfer ymhellach.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith, gallwch ein dilyn ar Facebook, X (Twitter gynt) ac Instagram neu gallwch danysgrifio i’n cylchlythyr yma.