Dull newydd o ymateb i ddigwyddiadau llygredd

Mae mis Gorffennaf yn nodi dechrau newid pwysig yn y ffordd rydym yn ymateb i ddigwyddiadau llygredd lefel isel – newid a gynlluniwyd i'n helpu i roi ein hadnoddau lle mae eu hangen fwyaf, a sicrhau y gall ein hymyriadau gael yr effaith fwyaf posibl.
Gyda'r pwysau cynyddol o ganlyniad i newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a llygredd, mae nifer y digwyddiadau sy’n cael eu hadrodd inni yn parhau i gynyddu. Fel pob corff cyhoeddus, rydym yn wynebu'r her o fodloni'r galw cynyddol gydag adnoddau cyfyngedig. Mae hynny'n golygu bod angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion yn y mannau lle gallant wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Mae ein Cynllun Corfforaethol hyd at 2030 yn gwneud ymrwymiad clir: i leihau llygredd a sicrhau bod ein camau gweithredu ataliol ac ymatebol yn amddiffyn yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd. Rhan allweddol o gyflawni'r ymrwymiad hwnnw yw gwella’r modd yr ydym yn asesu ac yn ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol.
Rydyn ni'n gwybod i ba raddau mae'r digwyddiadau hyn yn bwysig - i'r cyhoedd, i'n partneriaid ac i ninnau. Dyna pam y byddwn bob amser yn blaenoriaethu'r rhai sy'n achosi'r perygl mwyaf i bobl a natur. Pan fydd digwyddiadau sylweddol yn digwydd, bydd ein swyddogion yn gweithredu'n gyflym i leihau’r risg o niwed.
Y gwir amdani yw bod tua 95% o'r digwyddiadau rydyn ni'n eu mynychu yn arwain at ychydig o niwed amgylcheddol, neu ddim o gwbl. Ac eto maen nhw'n dal i gymryd cyfran helaeth o'n hamser - amser y gellid ei dreulio yn gwneud gwaith atal a chydymffurfio sy'n helpu i atal llygredd yn y ffynhonnell.
O 1 Gorffennaf, rydym yn symud tuag at ddull ymateb i ddigwyddiadau sy'n fwy seiliedig ar risg. Mae hyn yn golygu efallai na fydd rhai digwyddiadau llygredd risg is yn derbyn ymateb ar unwaith neu na fyddant angen ymyrraeth uniongyrchol. Yn hytrach, byddwn yn mynd i'r afael â nhw drwy ein gwaith rheoleiddio, gorfodi neu atal parhaus — a bydd hyn yn cael ei arwain bob amser gan ddata, gwybodaeth a risg amgylcheddol.
Rydym yn mynd ati’n weithredol i roi gwybod am y newid hwn i randdeiliaid allweddol a Llywodraeth Cymru, ac mae gennym gefnogaeth lawn y Tîm Gweithredol a'r Bwrdd.
Rydym yn gwerthfawrogi'r adroddiadau digwyddiadau a dderbyniwn yn fawr iawn. Maent yn hanfodol i’n galluogi i nodi ac ymdrin ag effeithiau digwyddiadau amgylcheddol, torri rheoliadau a gweithgarwch troseddol, a darparu gwybodaeth werthfawr i gefnogi ein gwaith gorfodi.
Yn unol â sefydliadau tebyg eraill ledled y DU, nid ydym bellach yn darparu adborth unigol ar ein hymateb i adroddiadau am ddigwyddiadau posibl, gan ryddhau amser gwerthfawr i’n swyddogion ganolbwyntio ar y gwaith pwysig a wnawn i atal digwyddiadau rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Rydym yn deall y gallai'r newidiadau hyn godi cwestiynau, yn enwedig i'r rhai sy'n ymgysylltu'n rheolaidd â chymunedau a phartneriaid. Mewn rhai sefyllfaoedd efallai y byddwn yn cysylltu â'r bobl hynny sy'n adrodd am ddigwyddiadau os oes angen rhagor o fanylion arnom.
Ond drwy ail-gydbwyso ein hamser, gallwn gryfhau ein gwaith i atal llygredd rhag digwydd yn y lle cyntaf. Mae hynny'n golygu mwy o gefnogaeth i fusnesau cyfrifol, rheoli tir a dŵr yn well, ecosystemau iachach, a mwy o amddiffyniad i bobl a lleoedd.
Mae'r dull newydd hwn yn ymwneud â sicrhau ein bod yn defnyddio ein harbenigedd a'n hadnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol - i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i amgylchedd Cymru, ac i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Rydym am annog pobl i barhau i roi gwybod am ddigwyddiadau i ni. Mae'r adroddiadau hyn yn hanfodol i'n galluogi i nodi ac ymdrin ag effeithiau digwyddiadau amgylcheddol, torri rheoliadau a gweithgarwch troseddol, a darparu gwybodaeth werthfawr i gefnogi ein gwaith gorfodi. Gall pobl roi gwybod am ddigwyddiadau amgylcheddol i ni 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos drwy ein tudalen ar lein.
Gallwch hefyd ffonio ein rhif adrodd digwyddiadau 0300 065 3000.