Cod Ymddygiad Cymru Gyfan ar gyfer casglu abwyd
Yn y blog hwn mae Dewi Evans, ein Swyddog Arbenigol Rheoli Rhynglanwol yn esbonio Cod Ymddygiad Cymru gyfan ar gyfer casglu abwyd.
Mae’r cod ymddygiad yn canolbwyntio ar bum egwyddor allweddol i leihau effaith casglu abwyd byw ar ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru.
Mynegwyd pryderon y gallai casglu abwyd byw, a ddefnyddir ar gyfer genweirio môr, fod yn achosi dirywiad yn iechyd cynefinoedd rhynglanwol gwarchodedig ar hyd rhannau o arfordir Cymru.
Gellir casglu abwyd trwy godi a throi clogfeini i gasglu'r crancod odditanynt, trwy gloddio am fwydod neu drwy gladdu gwrthrychau fel teiars mewn gwaddod i ddenu crancod - proses a elwir yn deilsio crancod.
Mae partneriaeth dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n cynnwys Prifysgol Bangor ac Angling Cymru Sea Anglers, a ariennir gan Brosiect Casglu Abwyd Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, wedi llunio’r cod a fydd yn rhoi gwell cyfle i gynefinoedd yr effeithir arnynt adfer drwy leihau effaith arferion casglu.
Yr egwyddor allweddol gyntaf yw 'cymerwch yr hyn sydd ei angen arnoch yn unig', a chanolbwyntio ar gasglu cynaliadwy.
Hefyd, peidiwch â chymryd crancod ag wyau, neu o dan unrhyw isafswm maint (crancod llygatgoch, hyd cragen o lai na 65mm; crancod cochion llai na 140mm).
Yr ail egwyddor allweddol yw 'gadewch yr ardal fel yr oedd'.
Gadewch yr ardal fel y daethoch o hyd iddi bob amser. Mae hyn yn gwella'r siawns y bydd digon o abwyd ar gyfer eich ymweliad nesaf. Peidiwch ag anghofio llenwi unrhyw dyllau neu ffosydd ydych chi wedi'u cloddio.
Rhowch gerrig yn ôl lle roedden nhw a gosodwch glogfeini y ffordd iawn i fyny, gyda’r gwymon ar y brig. Os bydd gwymon yn cael ei ddal o dan gerrig, bydd yn pydru ac yn difetha'r cynefin i grancod.
Y drydedd egwyddor allweddol yw 'gwarchodwch y draethlin'.
Gall eich gweithredoedd wneud gwahaniaeth mawr wrth helpu ein glannau. Gall casglwyr abwyd helpu drwy: Edrych, Golchi, Sychu. Edrychwch ar eich offer am fwd a bywyd morol.
Golchwch a sychwch yn drylwyr cyn ei ddefnyddio eto. Gall rhywogaethau niweidiol oroesi hyd at bythefnos os yw’r offer yn llaith. Yr arfer gorau yw cael gwared ar ddeunyddiau pacio a storio naturiol ymhell o'r lan.
Diogelu cynefinoedd sensitif ac ardaloedd sy’n feithrinfeydd pysgod. Gwarchodwch gynefinoedd ac ardaloedd sy’n feithrinfeydd pysgod drwy beidio â difrodi ecosystemau bregus, gan gynnwys morwellt, morfeydd heli, graean lleidiog a riffiau llyngyr diliau.
Trapio ystyriol Byddwch yn feddylgar wrth osod trapiau crancod, a chofiwch fynd i’w nôl nhw. Gellid camgymryd fod unrhyw beth sydd wedi’i adael ar ôl wedi’i dipio’n anghyfreithlon.
Glanhau’r traeth wrth i chi fynd Ceisiwch fynd ag unrhyw sbwriel adref gyda chi, ynghyd â'ch sbwriel eich hun. Cefnogi'r adar Peidiwch â tharfu ar adar sy'n bwydo, gorffwys neu nythu.
Y bedwaredd egwyddor allweddol yw 'byddwch yn ymwybodol o’r gyfraith'.
Ymchwiliwch a dilynwch y rheolau a'r cyfyngiadau sy'n berthnasol. Ystyriwch y tirfeddiannwr, gan drefnu i gael caniatâd pan fo angen.
Mae hyn yn angenrheidiol os ydych yn casglu'n fasnachol, a gall cyfyngiadau mynediad fod yn berthnasol i unrhyw un.
Y bumed egwyddor allweddol yw 'byddwch yn graff, cadwch yn ddiogel'.
Gwnewch y lle’n ddiogel i bawb: peidiwch â gadael peryglon fel tyllau neu drapiau crancod ag ymylon miniog.
Peidiwch â chloddio yn agos at strwythurau ac angorfeydd: gadewch i ni wneud yn siŵr bod pawb yn gallu mwynhau'r traeth trwy fod yn ystyriol ac osgoi tyllu ger eu heiddo.
Edrychwch ar amseroedd y llanw. Os nad ydych chi'n gwybod, peidiwch â mynd. Os ydych yn ansicr, ewch cyn y llanw isel.
Gwiriwch y tywydd. Byddwch yn ymwybodol y gallwch fynd ar goll mewn niwl a gadewch y traeth os oes mellt.
Cariwch chwiban, cwmpawd a ffôn symudol mewn bag neu focs sych. Gwnewch yn siŵr bod rhywun yn gwybod ble ydych chi a'ch amser dychwelyd.
Gwyliwch rhag mwd meddal a rhigolau. Gall hyd yn oed gwastadeddau tywod gyda phantiau ysgafn lenwi y tu ôl i chi yn gyflym.
Bydd dilyn y cod hwn yn helpu i sicrhau bod y cynefinoedd hyn yn aros mewn cyflwr da er mwyn darparu ffynhonnell gynaliadwy o abwyd gwyllt ar gyfer y dyfodol.