Y bedwaredd uwchgynhadledd ar lygredd afonydd yn canolbwyntio ar gadwraeth ac arloesedd er mwyn diogelu afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Cymru

Rwyf wedi cael y pleser aruthrol o gynnal y bedwaredd uwchgynhadledd ar lygredd afonydd ar ran ein Prif Weinidog Mark Drakeford a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.

Mae'r digwyddiadau hyn wedi bod yn hanfodol fel ffordd o ddwyn ynghyd uwch arweinwyr o'r Llywodraeth, rheoleiddwyr, y byd academaidd, cyrff anllywodraethol a diwydiant i ddatgloi'r heriau ac ysgogi gwelliannau i ansawdd dŵr yn ein hafonydd sydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA).

Mae uwchgynadleddau diweddar wedi canolbwyntio'n bennaf ar leihau ffosfforws a  lleddfu’r pwysau ar ddalgylchoedd afonydd ACA sy'n sensitif i ffosfforws i gefnogi'r gwaith o ddarparu tai cynaliadwy a fforddiadwy.

Mae llawer o gynnydd wedi'i wneud yn hyn o beth yn ystod y chwe mis diwethaf.

Mae ein gwaith i adolygu trwyddedau gweithfeydd trin dŵr gwastraff ar raddfa fwy yn cynorthwyo awdurdodau cynllunio lleol i wneud penderfyniadau gwybodus am gapasiti ar gyfer datblygiadau newydd.

Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo, a'n nod yw gosod terfynau ffosfforws newydd ar bob un o'r trwyddedau hynny erbyn mis Gorffennaf.

Rydym yn troi ein sylw nawr at fentrau mewn mannau eraill, ac roeddwn yn falch o allu rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiect Dalgylch Arddangos Teifi.

Ddiwedd mis diwethaf cynhaliwyd digwyddiad Hacathon gyda 40 a mwy o randdeiliaid, yn cynnwys cyfres o weithdai dros ddau ddiwrnod.

Mae cydweithio wrth wraidd Prosiect Dalgylch Arddangos Teifi, ac roedd yn wych gallu dod â phobl ynghyd i rannu eu dyheadau, eu syniadau a'u gweledigaethau ar gyfer y prosiect.

Roedd cyfoeth ac ehangder yr arbenigedd yn yr ystafell yn eithriadol, heb sôn am yr egni a'r brwdfrydedd.

Cafwyd llond gwlad o syniadau a chynigion, ac roedd yr ail ddiwrnod yn canolbwyntio ar leihau'r awgrymiadau i chwe thema a gyflwynwyd i'r ystafell. Roedd y rhain yn cynnwys: -

  • Prosiectau dan arweiniad ffermwyr.
  • Integreiddio a delweddu data.
  • Ymwybyddiaeth o ansawdd dŵr.
  • Cyllid hirdymor cydweithredol.
  • Rheoli glawiad/dalgylchoedd.
  • Newid ymddygiad.

O ran y camau nesaf, byddwn yn parhau i ddatblygu'r chwe thema yn rhaglen waith wrth i ni ymchwilio ymhellach i ffynonellau cyllid posibl.

Roedd eitemau eraill ar agenda'r Uwchgynhadledd yn canolbwyntio ar waith cadwraeth a'r camau gweithredu a oedd yn digwydd ar lawr gwlad i wella ansawdd dŵr a chynefin afonydd.

Rhannwyd cynnydd o'n Prosiect Pedair Afon LIFE uchelgeisiol, sy'n gwneud gwaith adfer afonydd ar raddfa fawr ar Afonydd Teifi, Cleddau, Tywi ac Wysg.

Nod y prosiect yw adfer cyfanswm o 776km o afonydd dros bedair blynedd, drwy amrywiaeth o ymyriadau gan gynnwys cael gwared ar rwystrau i bysgod mudol, ffensio glannau'r afon er mwyn lleihau llygredd amaethyddol ac adfer cynefinoedd sy'n prinhau megis gwlyptiroedd.

Yn garedig iawn, fe aeth Afonydd Cymru ati i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith pwysig sy'n cael ei wneud gan yr Ymddiriedolaeth Afonydd yng Nghymru o dan raglen gyfalaf Llywodraeth Cymru a'u rhaglen ehangach o waith gyda phartneriaid.

Daeth y digwyddiad i ben gyda thrafodaeth adeiladol ar thema 'Sut allwn ni helpu natur i gyflawni'r hyn sydd angen iddi ei wneud – a beth yw'r rhwystrau?’

Daw amseriad yr uwchgynhadledd heddiw wrth i Mr Drakeford gamu i lawr o'i rôl fel Prif Weinidog Cymru.

Diolchwn i'r Prif Weinidog am ei gefnogaeth i wneud amgylchedd Cymru yn flaenoriaeth, ac am gynnull y gyfres hon o uwchgynadleddau amhrisiadwy.

Dymunwn y gorau iddo i’r dyfodol ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y cyflawniadau sylweddol a wnaed eisoes yn ein hafonydd ACA gydag arweinydd nesaf Cymru.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru