Diwrnod Teithio Llesol Cymru 2023

Mae dydd Iau 29 Medi 2023 yn nodi Diwrnod Teithio Llesol Cymru eleni, diwrnod sy'n hyrwyddo teithio cynaliadwy fel cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Pam mae angen inni newid sut rydym yn teithio 

Yn ôl Teithio Llesol Cymru, mae mawr angen i ni newid sut rydym yn symud o gwmpas er lles y blaned a'n hiechyd.  

Mae ein dibyniaeth ar geir ar gyfer trafnidiaeth reolaidd wedi cyfrannu at ffyrdd o fyw eisteddog, llygredd aer, ynysu cymdeithasol, ac argyfwng yr hinsawdd, ac mae’n hollbwysig ein bod yn newid y drefn. 

Mae gostyngiad o ran lefelau gweithgarwch corfforol, cynnydd o ran lefelau gordewdra a diabetes, llygredd aer eang, ynysu cymdeithasol, ac anghydraddoldebau iechyd sy'n gwaethygu i gyd yn faterion iechyd cyhoeddus dybryd. 

Mae newid yn yr hinsawdd yn fygythiad difrifol sydd eisoes yn cael ei deimlo yn y DU ac ar draws y byd. Mae newid o ran y patrymau yn ein ffyrdd o deithio a sut rydym yn dylunio ein hamgylcheddau ar gyfer teithio wedi chwarae rhan sylweddol yn y materion hyn.  

Mae angen camau gweithredu beiddgar yng Nghymru os ydym am wrthdroi'r tueddiadau hyn o ran poblogaeth ac iechyd byd-eang a chreu dyfodol mwy iach a chynaliadwy. 

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae sefydliadau ledled Cymru yn dangos eu hymrwymiad i fathau iachach a mwy cynaliadwy o drafnidiaeth, drwy lofnodi Siarter Teithio Llesol yn gyhoeddus. Mae pob Siarter yn cynnwys cyfres o ymrwymiadau y bydd y sefydliad yn eu gwneud dros 2 neu 3 blynedd i gefnogi eu staff a'u hymwelwyr i gerdded a beicio mwy, mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus, a newid i gerbydau trydan. 

Siarteri Teithio Llesol 

Gyda chefnogaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn ymuno â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflwyno Siarteri Teithio Llesol ledled Cymru.  

Mae pob Siarter yn nodi cyfres o ymrwymiadau y mae’r sefydliadau a lofnododd yn cytuno i'w gweithredu i gefnogi staff ac ymwelwyr i gerdded, beicio a mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus. 

Bellach mae Siarteri ar waith yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Gwent, Bae Abertawe, ac ar gyfer busnesau, ac rydym yn datblygu Siarteri mewn ardaloedd eraill yng Nghymru a gyda sectorau eraill hefyd. ​ 

Mae’r sefydliadau a lofnododd wedi dechrau llenwi map teithio llesol rhyngweithiol ar gyfer eu prif safleoedd, gan ddangos rheseli beiciau, cawodydd, gwefryddion cerbydau trydan ac arosfannau trafnidiaeth gyhoeddus sydd gerllaw, er mwyn helpu pobl i deithio'n gynaliadwy.   

Y llynedd, fe wnaethom lwyddo i gwblhau'r addewidion a wnaethom pan wnaethom arwyddo Siarter Teithio Llesol Caerdydd ac eleni rydym wedi cwblhau ymrwymiadau’r siarter ar gyfer Gwent hefyd. Mae hyn yn golygu ein bod wedi llwyddo i:

  • Leihau cyfran y teithiau i gymudo i’r gwaith ac adref mewn car o 87% i 77%
  • Cynyddu cyfran y staff sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i’r gwaith ac yn ôl adref o 3% i 8%
  • Cynyddu cyfran y staff sy’n gweithio gartref 1 diwrnod neu fwy yr wythnos o 14% i 25%
  • Cynyddu cyfran y cerbydau a ddefnyddir yn ystod y dydd sydd ag allyriadau isel iawn o 1% i 5%

Darganfyddwch beth yw teithio llesol yn yr animeiddiad byr hwn gan Teithio Llesol Cymru.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru