Sut ydym yn gwella ansawdd dŵr yn y Marine Lake yn y Rhyl ac ar draws Sir Ddinbych

Mae ein dyfroedd ymdrochi mor bwysig - i'n hiechyd a'n lles, i'n heconomi ac i'r planhigion a'r bywyd gwyllt y maent yn eu cynnal.

Mae gan Gymru rai o'r dyfroedd ymdrochi gorau yn y DU, ac rydym yn ymfalchïo yn ein record ansawdd dŵr ymdrochi.

Llyn artiffisial yw’r Marine Lake yn Y Rhyl, Sir Ddinbych, sy'n cael ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer chwaraeon dŵr, a hwn oedd yr unig ddŵr ymdrochi drwy Gymru i beidio â chyrraedd safon ‘ddigonol’ yn 2022.

Yn ôl y Dosbarthiadau Dŵr Ymdrochi diweddaraf mae’r Marine Lake wedi gwella o sgôr Gwael i Ddigonol, ac mae hyn yn dilyn llawer o waith y tu ôl i'r llenni i ganfod beth oedd yn achosi’r lefelau uchel o facteria yno yn 2022.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu ein swyddogion a’n cydweithwyr yng Nghyngor Sir Ddinbych yn cynnal ymchwiliad ar y cyd a ddatgelodd nifer o faterion a oedd yn gyfrifol am y dirywiad.

Llwyddodd yr ymchwiliad hwn i ddarganfod fod llifddor yn gollwng a olygai nad oedd lefel y Marine Lake yn cael ei chynnal yn gywir rhwng pob llanw.

Canfuwyd hefyd fod ail-lenwi'r llyn yn wreiddiol wedi golygu bod mwy o ddŵr afon wedi ei gynnwys nag o ddŵr môr o bob llanw uchel. Gall dŵr afon gynnwys mwy o facteria na dŵr môr oherwydd gwaith trin carthion, dŵr ffo trefol ac amaethyddol.

Datgelodd yr ymchwiliad dan arweiniad y bartneriaeth hefyd nad oedd y system awtomeiddio sy'n rheoli'r llyn wedi bod yn gweithredu'n llawn yn ystod 2021. Dylai'r system agor a chau yn awtomatig, ond roedd y broses hon yn cael ei gweithredu â llaw.

Mae cydweithwyr yng Nghyngor Sir Ddinbych wedi bod yn disodli'r system awtomeiddio eleni ac wedi bod yn gweithio gyda Dŵr Cymru i gynnwys cyswllt radio â'r gorlif storm gerllaw. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad yw'r llifddor yn agor o fewn 24 awr ar ôl i orlif storm orlifo yn ystod cyfnodau o law trwm.

Bydd y llifddor sy'n gollwng hefyd yn cael ei disodli yn y flwyddyn newydd cyn tymor y flwyddyn nesaf. Bydd y gwaith hwn yn arwain at gynnal lefelau’r llyn yn well, gan leihau’r dŵr fydd angen ei ychwanegu ato rhwng pob llanw.

Mae ein swyddogion hefyd wedi bod yn brysur yn gwella ansawdd dŵr ar draws ardaloedd eraill yn Sir Ddinbych.

Cwblhawyd gwaith pwysig ddiwedd y llynedd i helpu i wella ansawdd dŵr ac annog bioamrywiaeth yng nghwrs dŵr Dŵr Iâl, un o lednentydd Afon Clwyd.

Gosodwyd ffens newydd 1km o hyd i rwystro da byw, a chrëwyd man yfed newydd drwy gael mynediad at ffrwd danddaearol gan ddefnyddio pwmp solar.

Cwblhawyd gwaith hanfodol hefyd ar Afon Alun yn Llandegla i wella ansawdd ei dŵr a rhoi hwb i boblogaeth ei bywyd gwyllt.

Roedd y gwaith yn cynnwys codi 700m o ffensys gwrth-stoc dwbl i gadw'r holl dda byw allan o'r cwrs dŵr. Crëwyd cyflenwad dŵr yfed newydd ar gyfer y da byw gerllaw diolch i bwmp solar oedd newydd ei osod.

Buom hefyd yn gweithio'n agos â chydweithwyr yng Ngholeg Cambria, coleg amaethyddol yn Sir Ddinbych, i helpu i wella ansawdd dŵr yn yr ardal.

Gwnaethon osod 795m o ffensys newydd ar hyd cwrs dŵr yn Fferm Llysfasi i atal da byw rhag mynd i mewn i'r dŵr ac achosi llygredd. Mae gosod pwmp solar newydd a chwe chafn dŵr hefyd wedi darparu cyflenwad dŵr arall.

Mae rhagor o brosiectau yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd ledled Gogledd Ddwyrain Cymru wrth i ni ymdrechu i wella ansawdd dŵr ar draws yr ardal. Bydd manylion pellach am y prosiectau newydd hyn yn cael eu rhannu dros y misoedd nesaf.

Caiff Dosbarthiadau Dyfroedd Ymdrochi eu hasesu'n flynyddol ac mae’r rhain yn seiliedig ar gyfnod o bedair blynedd i helpu i ddarparu gwell asesiad o ansawdd dŵr. Mae pedwar dosbarth i gyd: rhagorol, da, digonol a gwael. Pan fydd y samplau a gymerir gan swyddogion CNC yn methu â chyrraedd trothwy penodol, dywedir bod y dŵr ymdrochi wedi methu'r meini prawf a amlinellir yn Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi ac yna caiff ei ddosbarthu fel 'Gwael'.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru