Monitro adferiad Mynydd Llantysilio dilyn difrod tân

Dioddefodd Mynydd Llantysilio, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Berwyn a Mynyddoedd De Clwyd, dân gwyllt dinistriol yn 2018, ac mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers hynny i helpu i adfer yr ardal.

Ym mis Mawrth 2023, fe wnaethom ni rannu manylion ystod o waith rheoli rhostiroedd a wnaed dros dymor y gaeaf. Ariannwyd y gwaith drwy Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru a’i gyflawni mewn cydweithrediad agos â thirfeddianwyr lleol a chydweithwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Prosiect Rheoli Rhostir ac Atal Tanau Gwyllt Sir Ddinbych.

Yma mae Bathilda Hilton-Maynes, Swyddog Amgylchedd CNC ym mhrosiect Natura 2000 Rheoli Cynaliadwy Berwyn, yn ymuno â ni i roi cipolwg gwerthfawr wrth i ni barhau i gadw golwg fanwl ar adferiad y mynydd.

--

Yn ddiweddar, mae Swyddogion Amgylchedd CNC o Dimau Amgylchedd Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint a Gogledd Powys wedi bod yn gweithio gyda'r Tîm Asesu a Chynghori Amgylcheddol i wneud gwaith archwilio hanfodol ar Fynydd Llantysilio i asesu ei adferiad yn dilyn y difrod a achoswyd gan y tân yn 2018.

Buom yn defnyddio synwyryddion metel, monitro lluniau a GPS manwl i adleoli is-set o’r 60 pwynt samplu a gofnodwyd yn wreiddiol yn 2021 a 2022.

Fe wnaethom ni dynnu mwy o luniau monitro ar bob pwynt samplu, a chofnodi gwybodaeth am gyfansoddiad, strwythur a gorchudd llystyfiant. Mae'n bwysig iawn monitro'r rhostir yn dilyn y tân er mwyn deall sut mae pwysau allanol, ynghyd â ffactorau naturiol, yn effeithio ar yr adferiad.

Swyddogion CNC yn defnyddio synwyryddion metel, monitro lluniau a GPS manwl i adleoli is-set.

Mae monitro cynnydd mynydd Llantysilio yn ein galluogi i gadw golwg i weld a ydym yn llwyddo i ailsefydlu rhostir iach. Bydd hyn yn helpu i adfer bioamrywiaeth y safle gwarchodedig hwn, yn ogystal â chynnig buddion ehangach, megis gwytnwch i allu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd, gwella ansawdd y dirwedd, dal a storio carbon, ffermio a rheoli rhostiroedd y rugiar.

Mae’r gwaith archwilio’n cael ei wneud bob blwyddyn, gyda 50% o samplau yn cael eu hail archwilio o fewn tymor penodol. Ein nod yw ailedrych ar bob sampl erbyn diwedd mis Medi 2024. Bydd hyn yn ein galluogi i asesu adferiad ar draws yr ardal gyfan a effeithiwyd gan y tân i helpu i lywio’r gwaith o reoli’r safle rhostir pwysig hwn at y dyfodol.

Mae'r canlyniadau cychwynnol yn dangos bod rhannau o'r mynydd a ddaeth i gysylltiad â thân dwysedd is yn 2018 yn dechrau gwella, gyda grug a llus yn ailymddangos ac yn sefydlu gorchudd da ac adar cysylltiedig fel grugieir coch a phibydd y ddôl yn bridio ac yn bwydo yno eto.

Fodd bynnag, lle'r oedd y tân yn boethach ac yn ddwysach, llosgodd arwyneb uchaf y pridd, gan dynnu'r banc hadau, a datguddio creigwely ac isbridd, gan arwain at erydiad, colled ac effeithiau hirdymor ar ecoleg a bioamrywiaeth y rhostir.

Bum mlynedd ar ôl y tân, mae'r ardaloedd hyn yn cael eu dominyddu gan rywogaethau planhigion arloesol sy'n nodweddiadol o dir sydd wedi cael ei aflonyddu neu ei losgi. Mae’r gwaith archwilio wedi dangos bod cyfanswm y tir moel wedi lleihau ers 2021, ac mae glaswelltir a mwsoglau i’w gweld yn cynyddu, a ddylai helpu i leihau’r risg o erydiad pridd pellach, ond mae rhywogaethau sy’n nodweddiadol o rostir iach yn brin, ac mae angen rheolaeth adferol barhaus i sicrhau y gall y rhostir a’r bywyd gwyllt cysylltiedig wella.

Swyddogion CNC yn arolygu Mynydd Llantysilio.

Hoffem hefyd achub ar y cyfle hwn i ofyn i aelodau'r cyhoedd barhau i ddilyn y cod cefn gwlad a pheidio â defnyddio barbeciws, cynnau tanau, gollwng bonion sigaréts neu wydr er mwyn osgoi tanau a allai fod yn ddinistriol.

Os hoffech drafod unrhyw ran o'r gwaith sy'n digwydd ar Fynydd Llantysilio, e-bostiwch denbighshireenvironmentteam@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru