Adfer Byd Natur - sut mae ein Rhaglen Rhwydweithiau Natur yn cyfrannu at droi’r llanw ar ein trysorau naturiol

Pan gyhoeddon ni ein hadroddiad sylfaenol ar gyfer safleoedd gwarchodedig yn 2020, daethom i’r casgliad mai dim ond amcangyfrif o 20% oedd mewn cyflwr ffafriol. Ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 2022, fe wnaethom ymrwymo i uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau bod 30% o’r tir a môr yn cael eu diogelu a’u gwella ar gyfer byd natur erbyn 2030.

Ein hymateb i fynd i'r afael â'r uchelgais hwn o 30 x 30 yw cymryd dull rhagweithiol o adfer a chynnal yr ardaloedd pwysig hyn ar gyfer bywyd gwyllt a'u nodweddion daearegol.

Gyda phrosiectau – mawr a bach – ledled Cymru, fe wnaethom ofyn i Chris Lindley, cynghorydd arbenigol arweiniol ar gyfer y rhaglen safleoedd gwarchodedig, ddweud mwy wrthym am gyflawniadau’r rhaglen yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf:

“Wrth galon y rhaglen mae’r nod i gynyddu rheolaeth gadarnhaol ar safleoedd gwarchodedig – ein Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig.

“Mae ein hardaloedd gwarchodedig yn gonglfeini ein gwaith adfer byd natur, ac yn gwarchod ystod, ansawdd ac amrywiaeth ein rhywogaethau pwysicaf.

“Yn ogystal â gwneud gwaith ar y tir rydym yn ei reoli, fe wnaethom drefnu neu adnewyddu 115 o gytundebau gyda ffermwyr a phartneriaid eraill i wneud gwaith ar 160 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a helpu i sicrhau cyflwr gwell iddynt.

“Ariennir y rhaglen waith hon drwy Raglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i atal a gwrthdroi colledion a dirywiad cynefinoedd a rhywogaethau a rhoi sylfaen gadarn i Gymru ar y llwybr i adfer byd natur.

“Ar eu pen eu hunain, mae rhai o’r gweithgareddau hyn yn gwneud i rai o’r gweithgareddau edrych yn fach ac yn ddi-nod, ond gyda’i gilydd maen nhw i gyd yn creu darlun arwyddocaol. Ar gyfer llawer o’n safleoedd, y cyfan sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau bod y rheolaeth gywir ar waith ac mae gweithio gyda thirfeddianwyr yn golygu ein bod yn cyflawni canlyniadau cadwraeth da.” 

Yn ymarferol, roedd hyn yn cynnwys:

  • 48 o brosiectau tynnu planhigion conwydd/anfrodorol – gwaredu rhododendron, cotoneaster, clymog Japan a jac y neidiwr
  • 166 o brosiectau rheoli llystyfiant – torri rhedyn, rheoli brwyn, torri glaswelltir
  • 33 o brosiectau ffensio i helpu gyda rheoli pori
  • 21 achos o brynu offer – blychau adar a phathewod, systemau trin gwartheg a choleri gwartheg
  • 4 achos o wella llwybrau i greu gwell mynediad
  • 8 gweithgaredd llyn a phwll

 

Safleoedd dan y chwyddwydr

SoDdGA Brynna a Wern Tarw, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae'r cytundeb rheoli newydd yma yn caniatáu i ni weithio gyda'r tirfeddiannwr i reoli coed a changhennau sy'n hongian drosodd a rheoli prysgwydd. Fe wnaethom dynnu canghennau isel a thynnu coed a chwythwyd i lawr gan y gwynt ar hyd 150m yn ddiweddar. Yn ogystal, torrwyd rhedwyr mieri a glasbrennau.

A’r gwaith hwn wedi’i gwblhau, gall y tirfeddiannwr gadw at y rheolaeth arferol, gan ganiatáu i laswelltir corsiog dyfu ochr yn ochr â’r prysgwydd a’r cynefin coetir a ddefnyddir gan bathewod yn yr ardal gyfagos.

Brynna a Wern Tarw, Pen-y-bont ar Ogwr

Gwarchodfa Natur Aberderfyn – rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Safleoedd Madfallod Dŵr Johnstown, Wrecsam

Bydd y pwll sydd newydd ei adfer ar y SoDdGA/ACA o fudd i boblogaethau madfallod dŵr cribog, madfallod dŵr cyffredin, madfallod dŵr palfog, brogaod a llyffantod dafadennog – y mae angen pyllau fel hyn ar bob un ohonynt i fridio.

Gan weithio mewn partneriaeth â Wildground, elusen leol sy’n gweithio i ymgysylltu â chymunedau lleol i warchod a gwella bywyd gwyllt, fe wnaethom adfer pwll a oedd wedi methu yn y gorffennol, a gwneud defnydd da o’r hen leinar i ffurfio lloches gaeafgysgu wrth ymyl y pwll, a fydd yn darparu cysgodfan i'r amffibiaid. 

 

Yn flaenorol                                                                 Wedi'r gwaith

yn flaenorol                        wedi'r gwaith/ After

 

SoDdGA Rhosydd Castell Du a Phlas-y-betws, Sir Gaerfyrddin

I rai prosiectau cadwraeth, mae cael anifeiliaid pori yn bwysig iawn, gan eu bod nhw yn cadw glaswelltiroedd yn agored ac yn rhydd o brysgwydd. Yma yn Sir Gaerfyrddin, lle mae gloÿnnod byw brith y gors wedi’u cofnodi, buom yn gweithio gyda’r tirfeddiannwr i ffensio hyd o tua 200m a gosod gatiau ar gyfer rheoli da byw.

SoDdGA Rhosydd Castell Du a Phlas-y-betws, Sir Gaerfyrddin

SoDdGA ac ACA Pen y Gogarth

Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Conwy a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rydym wedi gallu helpu’r gwaith bugeilio cadwraeth ar fan eiconig y Gogarth ger Llandudno. Bydd gosod dau grid gwartheg yng Ngorsaf Dramiau Hanner Ffordd, yn ogystal â ffensio tua 1,180m, yn cadw stoc ar y pentir agored ac yn caniatáu i’r blodau gwyllt – gan gynnwys teim gwyllt, y grogedau, bwrned, clychau’r eos, cor-rosyn a'r blodyn prin y cor-rosyn lwyd – ffynnu.

SoDdGA ac ACA Pen y Gogarth

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru