Arbenigwyr morol CNC i siarad yng nghynhadledd Coastal Futures

Wrth i wyddonwyr ac arbenigwyr morol ymgynnull ar gyfer cynhadledd flynyddol Coastal Futures yn Llundain, bydd Nicola Rimington a Lily Pauls o CNC yn rhannu rhywfaint o’r gwaith rydym yn ei wneud i helpu i ddiogelu ein hamgylcheddau arfordirol. Dyma nhw i ddweud mwy.

Mae Coastal Futures yn denu tua 750 o fynychwyr sy’n gallu cymryd rhan mewn cyflwyniadau a dadleuon ar faterion cyfoes a blaengar sy’n effeithio ar ein harfordiroedd a’n moroedd gyda gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr blaenllaw. 

Fel rhan o hyn, byddwn yn cyflwyno ar rai o’r meysydd gwaith y mae CNC yn canolbwyntio arnynt.

Bydd Nicola, sy’n gynghorydd arbenigol arweiniol ar gyfer Polisi a Chynllunio Morol ac Arfordirol, yn siarad am ddulliau CNC ar gyfer rheoli arfordirol integredig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru yn ystod sesiwn un.

“Bydda i’n egluro sut mae CNC wedi sefydlu ein Rhaglen Rheoli Arfordirol Integredig i gydlynu, cynllunio a blaenoriaethu ein gwaith mewn perthynas â rheolaeth ffisegol ar yr arfordir, mewn ffordd sy’n dilyn egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
“Fe fydda i hefyd yn rhannu rhai enghreifftiau o waith diweddar ar wella mynediad at wybodaeth, prosiect Coast Snap a dulliau o ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyfer addasu arfordirol. Bydd yr arfau hyn yn cefnogi CNC a’n partneriaid a’n rhanddeiliaid i weithio tuag at reoli’r arfordir yn gynaliadwy yng ngoleuni newid hinsawdd ac ysgogwyr allweddol megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynychu cynhadledd Coastal Futures. Mae’n rhoi’r cyfle i ni ddangos sut rydyn ni’n ceisio ymateb i risg newid hinsawdd ar yr arfordir, a chlywed a dysgu am y gwaith sy’n cael ei wneud gan eraill,” ychwanegodd.

Yn sesiwn pump, bydd Lily, sy’n arweinydd tîm ar gyfer Prosiectau Morol, yn rhoi cyflwyniad ar feithrin gwytnwch mewn ecosystemau morol trwy Rhwydweithiau Natur.

“Mae’r gynhadledd yn gyfle gwych i rannu rhywfaint o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yng Nghymru i feithrin gwytnwch ar gyfer ein cymunedau, ein cynefinoedd a’n bywyd gwyllt arfordirol.
“Fe fydda i’n siarad am y prosiectau morol rydyn ni’n eu cynnal yn ein rhaglen Rhwydweithiau Natur, sy’n rhaglen wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nod o ddychwelyd safleoedd gwarchodedig i gyflwr ffafriol yn ogystal â chynyddu bioamrywiaeth a gwella gwytnwch a chysylltedd ein cynefinoedd a’n rhywogaethau ar draws amgylcheddau daearol, dŵr croyw a morol.
“Fe fydda i’n rhannu gwybodaeth am ein gwaith sy’n cynnwys cynllunio bioddiogelwch i fynd i’r afael â bygythiad rhywogaethau estron goresgynnol fel y chwistrell fôr Didemnum vexillum a chranc manegog Tsieina.
“Gwaith fel adfer morfeydd heli, ceisio deall effeithiau gwasgfa arfordirol a chasglu abwyd. Rydyn ni hefyd yn edrych ar ddirywiad rhywogaethau fel marchfisglod, mearl a sbyngau er mwyn llywio cynlluniau rheoli yn y dyfodol.
“Ac fe fydda i’n crybwyll prosiectau fel symud ac atal cychod wedi dirywio, deall effeithiau sŵn anthropogenig ar famaliaid morol ac wrth gwrs gwella cyngor ar gadwraeth forol.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd siarad am ein gwaith yn Coastal Futures yn helpu i ysgogi ymdrechion yn ehangach,” ychwanegodd.
  • Cynhelir Coastal Futures 2024 ar 24 a 25 Ionawr yn y Royal Institution, Llundain ac ar-lein

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru