Ymateb CNC i Natur a Ni: Y Weledigaeth Gyffredin i Gymru

Gall yr argyfwng costau byw a’r pwysau aruthrol rydym oll yn eu hwynebu ar ein gwasanaethau deimlo’n llethol. Mae mynd i’r afael ag achosion ac effeithiau colli bioamrywiaeth a newid hinsawdd yng nghyd-destun y cyfyngiadau ariannol sydd arnom o hyd yn her aruthrol i bob un ohonom, wrth i ni geisio diwallu anghenion y cenedlaethau presennol o ran lles ar yr un pryd â mynd i’r afael â’r bygythiadau i’n lles yn y dyfodol.

Yn gynharach eleni cyhoeddwyd Gweledigaeth Natur a Ni. Wedi’i chreu gan bobl Cymru, mae’n gosod her ysbrydoledig i’r Llywodraeth, i Gyrff Cyhoeddus ac i’r trydydd sector i weithio gyda’n gilydd a chyda dinasyddion i ddod o hyd i atebion i’r argyfwng natur a hinsawdd, ac i’r heriau i’r gwasanaethau y mae ein dinasyddion yn dibynnu arnynt. Yn fyr, mae’r Weledigaeth yn galw am sefyllfa yn 2050 lle bydd cymdeithas a byd natur yn ffynnu gyda’i gilydd; lle bydd pobl yn cymryd mwy o ran mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar fyd natur.

Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni weithio gyda’n gilydd fel Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru fel y gallwn gyd-ddatblygu atebion mwy cynhwysol ac integredig i oresgyn yr heriau difrifol hyn, ac rydym yn troi at y Weledigaeth hon i roi gobaith i ni ar gyfer y dyfodol.

O’n rhan ni, mae CNC yn ystyried bod ein gwaith yn cyfrannu at y Weledigaeth ac at anghenion cymunedau yng Nghymru o ran lles yn y ffyrdd canlynol:

Ymrwymiad cyffredin

Rhaid i fyd natur fod yn rhan fwy annatod o benderfyniadau ar gyfer lles, a gallwn oll adlewyrchu hyn yn well yn ein gwaith cynllunio busnes. Gan weithio gydag Archwilio Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, byddwn yn helpu i adnabod a dileu rhwystrau ac yn rhannu arferion da mewn perthynas â llywodraethu a’n dyletswydd bioamrywiaeth ar y cyd (i geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer eu swyddogaethau) a helpu i ddangos pam fod hyn yn cefnogi lles.

Cynnwys pobl

Mae Natur a Ni yn dangos i ni pa mor bwysig yw cynnwys pobl mewn gweithredu dros fyd natur. Rydyn ni eisiau ymuno â chyrff cyhoeddus eraill i wella sut rydyn ni’n rhoi llais i bobl ac yn eu grymuso – boed hynny drwy gyfathrebu ein gwaith tystiolaeth neu eiriolaeth, fel hwyluswyr a chynullwyr, neu drwy rymuso cymunedau. O ganlyniad, bydd mwy o bobl yn gallu cymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau i lunio dyfodol positif i fyd natur.

Bydd partneriaethau cryfach gyda’r trydydd sector (er enghraifft rhaglenni ‘Natur Am Byth’ a ‘Cymdogaethau Natur’) yn hanfodol er mwyn cyflawni hyn.

Er bod y sgwrs Natur a Ni yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn pryderu am fyd natur, rydym hefyd yn deall efallai nad yw eraill yn cytuno nac yn cydnabod pwysigrwydd y newidiadau y mae eu hangen i sicrhau dyfodol ble mae cymdeithas a byd natur yn ffynnu gyda’i gilydd. Drwy gynnwys mwy o bobl, byddwn gyda’n gilydd yn deall y safbwyntiau hynny’n well, gan gydnabod y gallai ymatebion i’r argyfwng natur a hinsawdd effeithio’n wahanol ar gymunedau. O wneud hynny, byddwn yn ymdrechu i sicrhau trawsnewidiad cyfiawn a theg.

Rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth

Mae rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws sectorau yn hanfodol. Bydd gwella’r ffyrdd yr ydym yn rhannu gwybodaeth mewn perthynas â’r wyddoniaeth ynghylch yr argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd yn helpu i integreiddio gweithredu dros fyd natur a phobl. Mae gennym rôl hollbwysig yn cefnogi anghenion tystiolaeth Cymru drwy ein Hadroddiad statudol ar Gyflwr Adnoddau Naturiol.

Mynediad at natur

Rydym yn rheoli 7% o’r tir yng Nghymru drwy Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Mae’r tir dan ein gofal yn cynnig cyfleoedd sylweddol i bobl fwynhau byd natur, ac yn cefnogi cymunedau cydlynol a gwydn, a hefyd yn creu lleoedd i fyd natur ffynnu. Rydym am weithio gydag eraill i sicrhau bod amgylcheddau lleol yn parhau i gyfrannu at iechyd a lles pobl mewn hinsawdd sy’n newid.

Mae llawer o’n gwaith rheoleiddio yn canolbwyntio ar atal lefelau niweidiol o lygredd i’r aer, i’r tir a’r dŵr. Byddwn yn chwilio am gyfleoedd i ganolbwyntio ein gwaith rheoleiddio lle bo hynny’n briodol, i helpu i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau y mae cymunedau’n eu hwynebu yn cael mynediad at amgylcheddau iach.

Systemau mwy gwyrdd a bwyd cynaliadwy

Byddwn yn datblygu safbwyntiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer materion sy’n gysylltiedig â’r newidiadau y mae eu hangen i greu dyfodol positif i fyd natur (fel ynni, iechyd, bwyd a thrafnidiaeth), ac yn defnyddio hyn i gefnogi polisïau cyrff cyhoeddus eraill a’r Llywodraeth gan ddangos sut gallant gyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd.

Byddwn yn mynd ati i gefnogi diwydiant i arloesi i ddatgarboneiddio ac addasu i heriau’r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd. Rydym eisoes wrthi’n llunio’r gwaith o weithredu’r

Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru. Byddwn yn cadw ffocws ehangach ar effaith newidiadau byd-eang mewn systemau bwyd a sicrwydd bwyd ar y gymuned ffermio, byd natur a phobl Cymru, i helpu i lunio’r hyn sydd orau ar gyfer lles yn y tymor hir.

Dangos ein hymrwymiad

Fel ymrwymiad i bobl Cymru a gymrodd ran yn y gwaith o ddatblygu’r Weledigaeth, byddwn yn defnyddio ein prosesau adrodd i ddangos y camau yr ydym wedi’u cymryd tuag ei gwireddu, gan gynnwys ble byddwn yn cyflawni mewn partneriaeth ag eraill. Byddwn yn glir ynghylch yr effeithiau a gaiff ein gweithredoedd ar y cyd ar bobl a byd natur, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

Wrth ystyried y penderfynyddion ehangach hynny byddwn yn parhau i weithio drwy nifer o fecanweithiau pwysig ar gyfer cydweithio â gwasanaethau cyhoeddus – yn bwysicaf oll, fel aelodau o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd defnyddio’r mecanweithiau statudol hyn ar gyfer cydweithio arloesol parhaus ar draws gwasanaethau cyhoeddus ac integreiddio canlyniadau ein gwaith.

Diwrnod Amgylchedd y Byd – 5 Mehefin 2024

I ddathlu’r holl ymdrechion sy’n cael eu gwneud ledled Cymru i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd, a chreu dyfodol lle mae cymdeithas a byd natur yn ffynnu gyda’i gilydd, rwy’n bwriadu cynnal digwyddiad ar y cyd â Chomisiwn y Senedd ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd 2024.

Gwn y bydd llawer ohonoch eisoes yn gweithio’n galed ar hyn, a bydd y digwyddiad yn gyfle i arddangos y gorau o ymdrechion y Sector Cyhoeddus i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd a chyflawni mwy dros bobl Cymru.

Bydd y digwyddiad hwn hefyd yn ein helpu i hwyluso dysgu ar y cyd ar draws sectorau ac yn caniatáu i ni nodi synergedd a chyfleoedd am gydweithio pellach rhwng ein sefydliadau. Os hoffai eich sefydliad gymryd rhan neu os hoffech wybod mwy am y Weledigaeth, cysylltwch â Natur a ni.

Gyda’n gilydd, gallwn greu dyfodol lle mae cymdeithas a byd natur yn ffynnu gyda’i gilydd.

Gyda dymuniadau gorau


Clare Pillman
Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru
Chief Executive, Natural Resources Wales

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru