Diweddariad ar waith Twyni Byw o’n twyni yn y de

Gyda Phrosiect Twyni Byw yn ei flwyddyn olaf, mae’r tîm yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr holl gamau gweithredu sy’n weddill yn cael eu cwblhau ar draws ein holl safleoedd.

Mae’r Swyddog Prosiect a Monitro ar gyfer y De, Laura Davies, yn rhannu’r camau gweithredu sy’n weddill ar gyfer y pum safle allweddol o dwyni tywod ar hyd arfordir de Cymru.

Gwaith hanfodol 

Bydd llawer o waith hanfodol yn cychwyn tua diwedd yr haf yng Nghynffig. Byddwn yn clirio prysgwydd ymledol, sy’n gallu meddiannu glaswelltir agored y twyni a mygu planhigion arbenigol y twyni. Byddwn hefyd yn torri gwair mewn mannau i helpu i gadw’r llystyfiant yn fyr, rhywbeth y mae rhai planhigion, fel Tegeirian y Fign Galchog, yn dibynnu arno i ffynnu.

Rhywogaeth ymledol Rhafnwydden y Môr

Draw yn Nhwyni Pen-bre a Thwyni Talacharn-Pentywyn byddwn yn parhau â’n gwaith i reoli’r rhywogaeth ymledol Rhafnwydden y Môr. Er gwaethaf fflach danbaid ei aeron oren, nid yw hon yn rhywogaeth frodorol yn ein twyni tywod ac mae’n llowcio’r gofod gwerthfawr y mae ei angen ar blanhigion brodorol i oroesi.

Gwaith torri gwair

Yn Nhwyni Whiteford bydd ein gwaith torri gwair blynyddol ar draws llaciau’r twyni yn mynd rhagddo i wella eu cyflwr. Byddwn hefyd yn torri glasbrennau conwydd sydd wedi’u gwasgaru ar draws y twyni cyn iddynt aeddfedu a lledaenu ymhellach.

Byddwn yn ymgymryd â rhywfaint o waith torri gwair ym Merthyr Mawr a’n bwriad yw gwneud rhywfaint o waith crafu dilynol oddi mewn ac oddi amgylch i’n gwaith adnewyddu blaenorol.

Dilynwch ni

Diben holl waith Twyni Byw yw gwella cyflwr cynefinoedd twyni tywod a rhoi hwb i fflora a ffawna’r twyni. Cadwch lygad ar ein ffrydiau yn y cyfryngau cymdeithasol lle byddwn yn parhau i bostio diweddariadau rheolaidd am ein gwaith. Gallwch ddod o hyd i ni yn @TwyniByw ar Twitter, Instagram a Facebook neu drwy chwilio am Twyni Byw / Sands of LIFE.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein gwaith, mae croeso i chi gysylltu â mi yn uniongyrchol trwy e-bost yn Laura.S.Davies@cyfoethnaturiolymru.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru