‘Llongddrylliad yn Costa Del Sychdyn’ – disgyblion yn goroesi gyda dim ond y Cwricwlwm i Gymru i’w cefnogi

Yn ddiweddar, rhoddodd Megan Hughes, athrawes Blwyddyn 4 o Sychdyn, Sir y Fflint, y gweithgareddau a rannwyd yn ystod ein hyfforddiant ‘Llongddrylliad’ ar waith gyda’i dysgwyr. Cafodd Ffion o’n tîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol sgwrs gyda hi i gael gwybod sut aeth ei morwyr ati i roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith er mwyn cael eu hachub.

“Roeddwn i’n gwybod y byddai’r 27 o blant yn fy nosbarth yn mwynhau’r thema Llongddrylliad. Maen nhw i gyd wrth eu bodd yn yr awyr agored ac yn gwerthfawrogi pob profiad dysgu sy’n digwydd yn ein hamgylchedd naturiol. Ar ôl derbyn yr hyfforddiant ‘Llongddrylliad’, roeddwn i’n gwybod bod y cynllunio yn hygyrch, yn hawdd ei ddilyn ac yn gallu cael ei addasu er mwyn diwallu anghenion a dymuniadau fy ngharfan bresennol. Gan wybod y byddai staff addysg CNC ar ben arall neges e-bost pe bai gennyf unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, penderfynais fynd amdani a chynnal y senario yn ystod Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn gynharach eleni.”

“Canolbwynt yr wythnos oedd achos o longddrylliad a’n gadawodd ni i gyd yn sownd ar ynys Costa Del Sychdyn! Rhannwyd yr wythnos yn 3 diwrnod damcaniaethol a rhannwyd fy nosbarth yn dri llwyth fyddai’n cystadlu. Treuliwyd y diwrnod cyntaf yn crwydro’r ynys; adnabod y coed a fyddai’n dynodi ble yn y byd roeddem yn debygol o fod a darganfod pa ddefnydd allai fod iddyn nhw, astudio lliwiau a nodweddion y dirwedd naturiol a cheisio canfod ein hunion leoliad drwy ddefnyddio What3Words a chyfeirnodau grid. Anfonwyd negeseuon i’r byd y tu allan gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu amrywiol er mwyn ceisio cael cymorth. Roedd yr ail ddiwrnod ar yr ynys yn ymwneud â goroesi, cydweithio i adeiladu lloches a chasglu a chadw dŵr, a dysgu am ei bwysigrwydd fel adnodd naturiol. Bu’r plant yn cystadlu mewn amrywiaeth o heriau i ennill cardiau bwyd a chardiau cyfnewid i’w gwario ar eitemau yn siop yr ynys a allai fod o help iddyn nhw oroesi. Diwrnod tri ar yr ynys oedd diwrnod yr achub. Yn ffodus, daethpwyd o hyd i’r neges botel roedd un o’r llwythau wedi’i hanfon, ac fe ‘rybuddiodd’ rhywun yr Heddlu. Creodd a chanodd y plant ein ‘Llwythgan’ nerth eu pennau er mwyn helpu swyddog PCSO lleol i ddod o hyd iddyn nhw a chychwyn ar y dasg o’u ‘hachub’.”

“Rwy’n teimlo bod y cynlluniau ‘Llongddrylliad’ yn taro pob un o’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad. Roedd yna nifer helaeth o weithgareddau llythrennedd a rhifedd; roedd pob un ohonyn nhw’n drawsgwricwlaidd. Er enghraifft, roedd angen i’m dosbarth i gario dŵr dros lyn yn llawn pysgod pirana gan ddefnyddio dewis cyfyngedig o ddeunyddiau. “Mwya’r brys, mwya’r rhwystr” oedd trefn y dydd, gan y byddai’r llwyth a fyddai’n cwblhau’r her gan arbed y swm mwyaf o ddŵr yn cipio’r clod. Roedd yn rhaid i’r dysgwyr gyfathrebu, datrys problemau a gweithio’n dda fel tîm er mwyn bod â siawns o ennill yr her. Yn ogystal â hyn, roedd y senario ‘Llongddrylliad’ hefyd yn taro pob un o’r Pedwar Diben Craidd. Ar ddiwedd yr wythnos, bu’r plant yn meddwl am eu profiadau ac yn eu croesgyfeirio yn erbyn y Pedwar Diben.”

“Roedd llawer o fanteision i fynd â’r plant allan i’r amgylchedd naturiol i ddysgu. Roedd yn cynnig cyfleoedd lluosog ar gyfer dysgu trwy brofiad, yn annog ymarfer corff, ac yn cyfrannu at eu datblygiad emosiynol, cymdeithasol a gwybyddol. Yn syml, mae fy nosbarth yn ffynnu pan fyddan nhw y tu allan ac maen nhw wedi datblygu cysylltiadau cryf â natur o ganlyniad. Rwy’n teimlo po fwyaf o amser y mae plant yn ei dreulio yn yr awyr agored, y mwyaf tebygol y maen nhw o’i werthfawrogi.”

“Drwy fod yr wythnos wedi’i neilltuo i thema benodol, roedd y plant wedi ymgolli’n llwyr, yn cymryd rhan ac yn gyffro i gyd ar gyfer y gweithgaredd nesaf. Wedi’u cyffroi i ddod i’r ysgol, roedden nhw’n gofyn yn gyson pryd roedden nhw’n mynd yn ôl i’r awyr agored. Roedd yna wefr go iawn, a braf oedd gweld y plant yn siarad â dosbarthiadau eraill am eu dysgu. Ar ddiwedd yr wythnos, buom yn rhannu beth ddysgon ni gyda gweddill yr ysgol mewn gwasanaeth dathlu. Yn yr un modd, cawsom sylwadau hyfryd gan rieni pan ofynnwyd iddyn nhw roi adborth drwy Google Forms. Er i ni ddewis rhedeg y senario ‘Llongddrylliad’ dros gyfnod o wythnos, fe allai hyn yn hawdd gael ei ymestyn dros dymor.”

Dysgwch fwy am sut y rhoddodd Megan ein hyfforddiant ‘Llongddrylliad’ ar waith – edrychwch ar ein fideo byr ‘Llongddrylliad’ ar ein rhestr chwarae yn YouTube.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru