Mynd i'r afael â'r Afon Teifi – tirfeddianwyr, diwydiannau a rheoleiddwyr yn ymuno ar gyfer prosiect peilot ‘dalgylch arddangos’

Mae’r Afon Teifi yn un o’n naw afon Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) yng Nghymru. Dynodwyd hi oherwydd y rhywogaethau prin y mae’n eu cynnal, gan gynnwys y llysywen bendoll, eog yr Iwerydd, dyfrgwn a llyriad-y-dŵr arnofiol.

Mae’n ymdroelli 122km trwy dri awdurdod lleol – Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro – yn ogystal â thrwy Warchodfeydd Natur Cenedlaethol a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Fel llawer o’n hafonydd ACA eraill, yn anffodus mae’r Teifi mewn cyflwr anffafriol, ac yn 2021 adroddwyd bod ffosfforws yn yr afon dros y targedau o ansawdd dŵr derbyniol.

Mae ymchwil diweddar wedi dangos bod stoc eogiaid yn dirywio'n gyflym yn yr Afon Teifi, gyda modelu’n rhagweld y gallai'r rhywogaeth gael ei cholli o fewn y deng mlynedd nesaf oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd.

Mae data’n awgrymu bod gollyngiadau o weithfeydd trin dŵr gwastraff yn cael effaith sylweddol ar yr afon, yn ogystal â llygredd gwasgaredig o amaethyddiaeth a gweithgareddau coedwigaeth, a llygredd o etifeddiaeth mwyngloddio metel yr ardal.

Mae rhywogaethau ymledol anfrodorol fel Jac y Neidiwr, ac addasiadau hanesyddol, megis coredau, hefyd yn effeithio ar y rhywogaethau gwarchodedig y mae'r afon yn gartref iddynt.

Galwad i weithredu

Oherwydd yr heriau hyn yr ydym yn cydweithio ag eraill ar brosiect i fynd i'r afael â materion ansawdd dŵr ar yr Afon Teifi.

Yr wythnos diwethaf, galwodd Cadeirydd CNC, Syr David Henshaw, gynrychiolwyr o sefydliadau allweddol, diwydiannau a sectorau cymunedol at ei gilydd i geisio ymrwymiad cadarn. Roedd y rhain yn cynnwys: Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, undebau ffermio, Dŵr Cymru, Afonydd Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus, y Cyngor Defnyddwyr Dŵr ac ymgyrchwyr cymunedol Achub y Teifi.

Mae’r fenter, a fydd yn cael ei hadnabod fel prosiect ‘dalgylch arddangos y Teifi’, yn un o’r camau gweithredu sy’n deillio o Gynhadledd y Prif Weinidog i drafod Llygredd mewn Afonydd a fydd yn ailgynnull yn ddiweddarach yr wythnos hon am y trydydd tro.

Ei fwriad yw archwilio ffyrdd newydd a gwreiddiol o weithio, a cheisio atebion amgylcheddol arloesol trwy gydweithio â sefydliadau cyhoeddus a phreifat, cymunedau a sefydliadau trydydd sector.

Yn ogystal â gwella ansawdd y dŵr, bydd y prosiect hefyd yn ceisio gwella gallu'r afon i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd a gwella ei bioamrywiaeth.

Bydd yn ategu ac yn cefnogi’r gwaith da sydd eisoes yn digwydd yn y dalgylch, gan adeiladu ar brosiectau adfer afonydd uchelgeisiol presennol fel ein Prosiect Pedair Afon LIFE a gwaith Bwrdd Rheoli Maetholion Afon Teifi.

Yr uchelgais ar gyfer y prosiect yw datblygu model y gellir ei ehangu a'i ailadrodd mewn dalgylchoedd afonydd eraill yng Nghymru yn y dyfodol.

Dechrau ar y Gwaith

Y digwyddiad cychwynnol hwn i randdeiliaid oedd y cam mawr cyntaf i roi hwb i’r prosiect ac roedd yn gyfle pwysig i adolygu’r gwaith sydd eisoes ar y gweill, ac sydd wedi’i brofi’n flaenorol.

Yn ystod y cyfarfod buom yn trafod gosod set glir o amcanion ac amserlen i sicrhau bod y prosiect yn atebol.

Fe wnaethom ystyried yr heriau a'r pwysau o fewn y dalgylch, gan gynnwys cyfyngiadau cynllunio afonydd presennol yr ACA a sut y bydd newid ymddygiad yn allweddol i lwyddiant.   

Daeth monitro i’r amlwg fel thema gref, a chytunwyd bod angen inni gael llinell sylfaen glir ar gyfer monitro gwelliant dros amser. Cymerwyd camau i adolygu ffynonellau data monitro cyfredol i nodi bylchau a lle gallai fod angen monitro ansawdd dŵr yn fanylach, ac ystyried sut y gellir defnyddio gwyddoniaeth dinasyddion i wneud hyn.

Buom yn trafod sut y gallwn ychwanegu gwerth at raglenni gwaith presennol, a sut mae’r prosiect yn cyflwyno cyfle i fod yn fwy arbrofol ac arloesol yn ein dulliau, efallai gan ddefnyddio pŵer arbrofol CNC ei hun. Ystyriwyd hefyd y posibilrwydd y gallai'r prosiect ddenu cyllid ychwanegol i ddatblygu a chyflawni'r camau gweithredu hyn ar lawr gwlad.

Yn olaf, buom yn trafod yr angen i ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid gan gynnwys cyfathrebu’n glir wrth i’n cynlluniau ddatblygu a symud ymlaen yn ystod oes y prosiect. Rydym yn gwerthfawrogi ac yn croesawu dwyster teimlad y cyhoedd am ein hafonydd ac rydym yn dymuno cynnwys y gymuned leol yn y prosiect hwn.

Cawsom adborth gwych o’r digwyddiad, gan gynnwys gan grŵp cymunedol Achub y Teifi. Maen nhw’n credu bod sefydlu prosiect arddangos Teifi yn gam mawr ymlaen nid yn unig i’r Teifi ond i holl afonydd Cymru. Mynegwyd sut maent yn edrych ymlaen at weithio gyda rhanddeiliaid a grwpiau cymunedol eraill i adfer yr afon er budd byd natur a chymdeithas. 

Y camau nesaf

Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn parhau i gydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid i gytuno ar amcanion clir ar gyfer y prosiect ac i gyd-ddatblygu rhaglen waith ar gyfer cyflawni ar y cyd.

Nid ydym yn diystyru maint yr her yma, a rhagwelwn y gallai oes y prosiect bara hyd at bum mlynedd.

Mae’r cam cychwynnol hwn yn cydnabod maint y newid sydd ei angen i gyflawni gwelliannau sylweddol, diriaethol a hirsefydlog i'r Afon Teifi a’i bywyd gwyllt.

Ac er y gall newid deimlo'n araf, daw'r prosiect ar adeg dyngedfennol i'n hafonydd. Bydd y ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n gilydd – fel rheoleiddwyr, Llywodraeth, tirfeddianwyr, busnesau a chymunedau – yn hollbwysig os ydym am gyflawni’r gwelliannau yn ein hafonydd yr ydym i gyd yn eu ceisio.