Canlyniadau dinistriol tanau gwyllt yng Nghymru

Yn yr wythnosau diwethaf, bu tanau gwyllt dwys ar draws rhannau o Gymru, sydd wedi distrywio’r amgylchedd ac wedi gadael llwybr trychinebus o ddinistr a difrod amgylcheddol ar eu hôl.

Yn yr wythnosau diwethaf, bu tanau gwyllt dwys ar draws rhannau o Gymru, sydd wedi distrywio’r amgylchedd ac wedi gadael llwybr trychinebus o ddinistr a difrod amgylcheddol ar eu hôl. 

O fynyddoedd y Berwyn yng Ngogledd Cymru i Goedwig Beddgelert, Cwm Rheidol, Coedwig Tywi, mynydd Dinas Baglan i Faerdy, Rhondda Cynon Taf… dyma ond rhai o’r ardaloedd ble bu diffoddwyr tân o bob cwr o Gymru yn gweithio rownd y rîl i frwydro’n erbyn y fflamau, gyda chefnogaeth cydweithwyr ar draws CNC sy’n gweithio mewn amrywiaeth o wahanol rolau.

Yn ôl y ffigurau, mae criwiau tân yng Nghymru wedi brwydro yn erbyn bron i 1,400 o danau gwyllt eisoes eleni.

Ar y tir sydd dan ein gofal ni, mae dros 90 hectar o goed ifanc wedi’u dinistrio, yn ôl amcangyfrif ein swyddogion. Mae hynny tua’r un faint â 130 o gaeau pêl-droed, ynghyd â channoedd lawer o fetrau o ffensys, sy’n hanfodol i’n helpu i gadw ymwelwyr â’n coedwigoedd yn ddiogel.

Mae’n anodd amgyffred pam, ond mae’r rhan fwyaf o danau gwyllt yng Nghymru yn cael eu cynnau’n fwriadol. Mae rhai yn ganlyniad i ddiofalwch yn sgil defnydd amhriodol o farbeciws.   Ychydig iawn sy’n digwydd yn sgil damweiniau neu achosion naturiol.

Mae’r difrod a achosir gan danau gwyllt yn ddifrifol. Nid oes gobaith gan goed, planhigion a bywyd gwyllt yn erbyn y fflamau ffyrnig. Mae tanau gwyllt hefyd yn effeithio ar ansawdd dŵr wrth i’r lludw a’r pridd olchi i’n hafonydd, ein llynnoedd a’n cronfeydd dŵr. Mae colli’r ecosystemau gwerthfawr hyn yn tarfu ar gydbwysedd bregus byd natur, gan arwain at erydiad y pridd a dinistrio cynefinoedd, ac maent yn gadael craith ar ein tirwedd hyfryd.

Nid yn unig y maen nhw’n arwain at ganlyniadau hirdymor i goedwigaeth a natur, ond maen nhw hefyd yn peryglu bywydau – bywydau’r rhai sy’n ceisio rheoli’r fflamau a chymunedau sy’n byw gerllaw.

At hynny, maen nhw’n gostus iawn, a threthdalwyr Cymru sy’n talu’r bil.

Ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, sydd dan ofal ein timau anhygoel, amcangyfrifir y bydd y gost o ddelio â’r tanau gwyllt yn yr wythnosau diwethaf a’r gwaith i adfer y difrod y maent wedi’i achosi yn tua £420,000 – adnoddau y gellid bod wedi’u gwario’n well drwy eu hailfuddsoddi yn ein coedwigoedd a’n coetiroedd.

Ein hymateb ni

Yn bennaf, un gefnogol yw ein rôl ni – helpu swyddogion tân, gan gynnwys swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig i reoli’r gwaith o ostegu tanau gwyllt, i ddeall y dirwedd lle maen nhw’n gweithio, ble gallai’r cynefinoedd mwyaf bregus fod neu ble gallai fod goblygiadau ariannol neu ecolegol difrifol oherwydd tanau.

Ond lle bynnag y bo’n ddiogel gwneud hynny, rydym yn torchi ein llewys hefyd – ar y Berwyn fe anfonon ni hofrennydd i helpu i ddiffodd tanau am ei fod yn gallu cyrraedd ardaloedd na all peiriannau tân eu cyrraedd. 

Rhwng 21 Mawrth a 13 Ebrill bu tua 23 o danau gwyllt ar dir rydym yn berchen arno neu’n ei reoli, neu wrth ymyl tir o’r fath, ac anfonwyd yr hofrennydd at ddau o’r rhain.

Lle bo’n ddiogel, mae modd i ni ddefnyddio peiriannau i gefnogi’r Gwasanaeth Tân ac Achub i greu bylchau rhag tân a/neu weithio gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub i wneud gwaith llosgi rheoledig i helpu i leihau’r cyflymder y mae’r tanau’n lledu.

Ac unwaith y bydd y tân i bob golwg wedi’i ddiffodd, mae ein swyddogion yn mynd i mewn i fonitro ac i sicrhau nad oes unrhyw fflamau ychwanegol yn cynnau ac i wneud unrhyw ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn ddiogel a chynllunio sut i adfer y safle.

Y canlyniadau i fyd natur

Mae elusennau ac arbenigwyr ym maes cadwraeth wedi siarad am y risg i fywyd gwyllt prinnaf Cymru ac wedi codi pryderon am nifer o rywogaethau ar ôl wythnosau o danau glaswellt dwys. 

Mae llawer o rywogaethau, gan gynnwys adar, mamaliaid, ymlusgiaid a phryfed, yn dibynnu ar goedwigoedd ar gyfer bwyd, lloches a llefydd i fagu. Wrth i danau gwyllt ysgubo trwy eu cynefinoedd, mae anifeiliaid yn wynebu perygl uniongyrchol ac yn aml yn cael trafferth dianc. Rhaid i’r rhai sy’n ddigon ffodus i oroesi ymdopi â cholli eu cartrefi a llai o fwyd.

Mae coed sydd newydd eu plannu yn ildio i’r fflamau, ac mae’r haen amddiffynnol o lystyfiant a ddinistriwyd gan danau yn gadael y pridd yn foel ac yn agored i erydiad. Gall y llystyfiant fod yn araf yn aildyfu, a hynny’n gwaethygu dirywiad ac erydiad y pridd ymhellach.

Mae tanau gwyllt hefyd yn rhyddhau llawer iawn o garbon deuocsid i’r atmosffer, gan gyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwaethygu’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r mwg a’r llygryddion sy’n cael eu rhyddhau yn ystod tanau gwyllt hefyd yn cael effaith andwyol ar ansawdd aer, gan beryglu iechyd pobl hefyd.

Ac yn olaf, ond nid amherthnasol o bell ffordd, beth am y gost ariannol?

Mae tanau gwyllt sy’n cael eu cynnau’n fwriadol yn difrodi’r amgylchedd fel y soniwyd, ond maen nhw hefyd yn llosgi trwy bwrs y wlad. Mae angen adnoddau sylweddol i ddiffodd a rheoli’r tanau hyn. Mae gwaith diffodd tân, gan gynnwys offer, personél a hofrenyddion, yn ddrud ac mae’r baich ariannol yn disgyn ar gyllidebau sydd eisoes dan bwysau. Ac mae hynny heb sôn am y golled o ran incwm o’n cnwd coedwigaeth na chost plannu coed newydd.

Yn y pen draw, y trethdalwr fydd yn talu am yr ymdrechion costus hyn – arian y gellid bod wedi’i wario’n well ar wella cynefinoedd, plannu coed, adfer mawndiroedd neu frwydro yn erbyn llygredd.

Er bod effaith a chost y tanau hyn yn dal i fod yn aneglur, gwyddom y bydd creithiau’r digwyddiadau hyn i’w gweld ar y dirwedd am beth amser.

Yr hyn y gallwn ni i gyd ei wneud

Er ein bod bob amser yn barod i roi’r cymorth hwn i’r gwasanaethau brys i leihau’r effeithiau pan fydd y fflamau’n cydio, mae’r digwyddiadau hyn hefyd yn dangos pwysigrwydd y gwaith a wnawn gyda’n partneriaid – fel prosiect Dawns Glaw a’r gwersi a ddysgwyd drwy’r prosiect RDP a ariannwyd drwy Lywodraeth Cymru, Llethrau Llon – i feithrin gwytnwch yn wyneb tanau gwyllt a datblygu capasiti lliniaru o ran sut rydym yn rheoli tir.

Ond llawer gwell rhwystro tanau rhag cychwyn yn y lle cyntaf, ac mae camau y gall pawb eu cymryd i leihau perygl tanau gwyllt:

 

  • Mae gan bawb ran i’w chwarae wrth atal tanau gwyllt. Os gwelwch fwg neu dân yng nghefn gwlad, ffoniwch 999 ar unwaith a gofynnwch am y gwasanaeth tân. 
  • Os oes tân gwyllt yn agos atoch chi, ffoniwch 999, caewch eich ffenestri, bydd y Gwasanaeth Tân yn eich cynorthwyo i adael os bydd perygl. 
  • Os ydych yn amau ​​bod tân wedi’i gynnau’n fwriadol, gallwch adrodd hynny drwy Crimestoppers ar 0800 555 111 neu i’r Heddlu ar 101. 
  • Peidiwch â chynnau tanau gwersyll, taflu sigarennau na photeli gwydr yng nghefn gwlad, yn enwedig mewn tywydd sych.  
  • Peidiwch â chynnau barbeciw heblaw mewn ardaloedd lle mae arwyddion yn caniatau i chi wneud hynny. 
  • Parchwch arwyddion lleol a rhybuddion tân – ac os ydych yn byw yn agos at ardaloedd sy’n dueddol o ddioddef tân, ymgyfarwyddwch â’r canllawiau sydd ar gael ar atal tanau gwyllt. 

 

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Doeth i Danau Gwyllt yma

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru