Effeithiau dinistriol tanau gwyllt ar amgylchedd naturiol Cymru

Rhigos, Garw, Blaenllechau, Cwm Ogwr, Nant y Moel, Llanwynno, Penhydd, Blaengarw....

Dyma rai o’r llu o ardaloedd lle mae tanau gwyllt wedi rheibio amgylchedd naturiol Cymru dros yr wythnosau diwethaf.  Mae diffoddwyr tân o bob rhan o Dde a Chanolbarth Cymru wedi bod yn gweithio bob awr o’r dydd i frwydro yn erbyn y fflamau, gyda chefnogaeth cydweithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, mewn ymdrech ar y cyd i liniaru’r effeithiau ar gymunedau a natur.

Mae'n anodd dirnad pam y byddai rhywun yn cynnau tân yn fwriadol, ond eto mae'n digwydd. Ar adegau, gall gwreichion o sigarét wedi'i thaflu’n ddiofal neu fflamau o farbeciw sydd allan o reolaeth arwain at effeithiau dinistriol pan fo’r ddaear mor sych ag y bu yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Ers dechrau mis Ebrill eleni mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn unig wedi ymateb i bron i 400 o danau glaswellt a thanau gwyllt bwriadol.

Mae’r difrod yn ddifrifol yn sgil tanau gwyllt. Nid oes gobaith gan goed, planhigion a bywyd gwyllt yn erbyn y fflamau ffyrnig. Mae colli’r ecosystemau gwerthfawr hyn yn tarfu ar gydbwysedd bregus byd natur, gan arwain at erydu pridd a dinistrio cynefinoedd a gadael craith ar ein tirwedd hyfryd.

Nid yn unig y maen nhw’n arwain at ganlyniadau hirdymor i goedwigaeth a natur, ond maen nhw hefyd yn peryglu bywydau – y rhai sy'n ceisio rheoli'r fflamau a’r cymunedau hynny sy’n byw gerllaw. Ar ben hynny, mae gofyn am wario arian sylweddol i drwsio’r difrod a hwnnw’n cael ei dalu gan drethdalwr Cymru.

Ein gweithredoedd

Wrth i Gymru ddioddef effeithiau cyfnod hir o dywydd sych a phoeth, mae ein swyddogion wedi gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Tân ac Achub De Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru ar danau gwyllt ar draws de Cymru.

Ar y cyfan, mae ein rôl yn un gefnogol - gan helpu cynllunwyr tân a Swyddogion Tanau Gwyllt pwrpasol i ddeall y dirwedd lle maen nhw’n gweithio, lle gallai’r cynefinoedd mwyaf bregus fod neu lle gallai fod goblygiadau ariannol neu ecolegol difrifol oherwydd tanau.

Ond lle bynnag y mae’n ddiogel gwneud, rydyn ni’n helpu ar lawr gwlad hefyd – yn Rhigos fe wnaethom gyflogi contractwyr gyda chloddwyr ar draciau i greu parthau atal tân ac yn y pen draw achubodd hyn dŵr Zip World – sy’n atyniad a busnes lleol pwysig.

Rydyn ni wedi defnyddio ein hofrennydd i helpu i ymladd tanau gan eu bod yn gallu cael mynediad i ardaloedd na all yr injanau tân eu cyrraedd. Rhwng 1 Mawrth a 16 Mehefin, bu 36 o danau gwyllt ar neu ger y tir yr ydym yn berchen arno neu’n ei reoli, gyda’r hofrennydd wedi ei alw allan i 14 ohonynt.

Efallai fod yr ardaloedd coediog hyn ymhell o ffynhonnell ddŵr ac, ar rai o’r safleoedd mwyaf anhygyrch, rydym wedi gweithio i ddarparu dŵr ar gyfer pibellau trwy gludo bowseri llawn dŵr i’r diffoddwyr tân lle a phryd bynnag y bo’r angen mwyaf.

Ac unwaith y bydd y tân i bob golwg wedi’i ddiffodd, rydym wedi mynd i mewn i fonitro nad oes unrhyw fflamau ychwanegol yn cynnau ac i wneud unrhyw ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn ddiogel.

Y canlyniadau

Mae llawer o rywogaethau, gan gynnwys adar, mamaliaid, ymlusgiaid, a phryfed, yn dibynnu ar goedwigoedd ar gyfer bwyd, lloches a llefydd i fagu. Wrth i danau gwyllt ysgubo trwy eu cynefinoedd, mae anifeiliaid yn wynebu perygl uniongyrchol ac yn aml yn cael trafferth dianc. Rhaid i'r rhai sy'n ddigon ffodus i oroesi ymdopi â cholli eu cartrefi a llai o fwyd.

Mae coed sydd newydd eu plannu yn ildio i’r fflamau, ac mae'r haen amddiffynnol o lystyfiant a ddinistriwyd gan danau yn gadael y pridd yn agored ac yn agored i erydiad. Gall aildyfiant llystyfiant fod yn araf ac yn heriol, gan waethygu dirywiad ac erydiad pridd ymhellach.

Mae tanau gwyllt yn rhyddhau llawer iawn o garbon deuocsid i'r atmosffer, gan gyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwaethygu'r newid yn yr hinsawdd.  Mae'r mwg a'r llygryddion sy'n cael eu rhyddhau yn ystod tanau gwyllt hefyd yn cael effaith andwyol ar ansawdd aer, gan beryglu iechyd pobl hefyd.

Ac yn olaf, ond yr un mor ddifrifol, gadewch i ni droi ein sylw at y geiniog.

Mae tanau gwyllt sy'n cael eu cynnau'n fwriadol yn difrodi’r amgylchedd fel y soniwyd eisoes, ond maen nhw hefyd yn llosgi trwy bwrs y wlad. Mae angen adnoddau sylweddol i ddiffodd a rheoli’r tanau hyn. Mae gwaith diffodd tanau, gan gynnwys offer, personél, a hofrenyddion yn ddrud ac mae'r baich ariannol yn disgyn ar gyllidebau sydd eisoes dan bwysau. Ac wrth gwrs mae’n rhaid i ni ystyried y gost o golli incwm o’n cnwd coedwigaeth a chost coed newydd ar ben hynny.

Yn y pen draw, trethdalwyr fydd yn talu'r bil am yr ymdrechion costus hyn - arian y gellid ei wario'n well ar wella cynefinoedd, plannu coed, adfer mewndir neu ymladd llygredd.

Er bod effaith a chost y tanau hyn yn dal i fod yn aneglur, gwyddom y bydd creithiau’r digwyddiadau hyn i'w gweld ar y dirwedd am beth amser.

Yr hyn y gallwn ni i gyd ei wneud

Er ein bod bob amser yn barod i roi'r cymorth hwn i'r gwasanaethau brys i leihau'r effeithiau pan fydd y fflamau'n cydio, mae'r digwyddiadau hyn hefyd yn dangos pwysigrwydd y gwaith a wnawn gyda'n partneriaid - fel prosiect Dawns Glaw a Llethrau Llon - i sicrhau bod gwytnwch a lliniaru yn rhannau hanfodol o sut rydym yn rheoli tanau gwyllt ar y tir a reolir gennym.

Ond mae atal tanau rhag cychwyn yn llawer gwell na cheisio mynd i’r afael arnynt ac mae yna gamau y gall pawb eu cymryd i leihau’r risg o danau gwyllt:

  • Peidiwch â defnyddio barbeciws yng nghefn gwlad, dim ond mewn ardaloedd lle mae'n dweud y gallwch chi wneud.
  • Sicrhewch fod sigaréts sydd wedi'u taflu wedi’u diffodd yn llwyr.
  • Stopiwch danau glaswellt bwriadol – addysgwch y rhai o’ch cwmpas a’u gwneud yn ymwybodol o ddifrod a chostau tanau gwyllt – ac os ydych chi’n gwybod am unrhyw un sy’n cynnau tanau bwriadol, ffoniwch 101 neu Crimestoppers ar 0800 555111.
  • Ailgylchwch a chompostiwch eich sbwriel, gan ddefnyddio gwasanaethau'r awdurdod lleol - peidiwch â thipio'ch gwastraff yn anghyfreithlon.
  • Rydym yn cynghori yn erbyn unrhyw losgi rheoledig neu danau gardd yn ystod y tywydd poeth.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru