Cyflwr ein dŵr daear yng Nghymru - pam rydym yn ei fonitro a beth mae’n ei ddweud wrthym am lefelau dŵr daear

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o ddiddordeb wedi bod yng nghyflwr ein hafonydd a’n moroedd, ond beth am y dyfroedd sy’n llifo yn y creigiau o dan ein traed?

Mae dŵr daear yn adnodd gwerthfawr, yn amsugno llawer iawn o ddŵr i'r tir yn ystod tywydd gwlyb ac yn darparu cyflenwad dŵr y mae mawr ei angen yn ystod cyfnodau hir o sychder.

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am reoli a diogelu dŵr daear yng Nghymru rhag gorddefnydd a llygredd. I wneud hyn, rydym yn monitro ac yn mesur dŵr daear ac yn defnyddio'r data hwn i asesu cyflwr dŵr daear, gan nodi lle mae angen gweithredu. 

Yn y blog hwn, byddwn yn trafod ein hasesiad diweddar o adnoddau dŵr daear yng Nghymru. Mewn blog dilynol, byddwn yn canolbwyntio ar ansawdd dŵr daear.

Beth yw adnodd dŵr daear?

Mae adnodd dŵr daear yn cyfeirio at gyfanswm y dŵr daear a geir o dan y tir.

Mae lefelau dŵr daear, a elwir hefyd yn lefel trwythiad, yn cyfeirio at y lefel y mae'r pridd neu'r graig yn llawn dŵr oddi tani. 

Yn union fel y mae lefelau afonydd yn newid, mae lefelau dŵr daear yn newid hefyd. Pan fydd glaw neu eira yn disgyn, mae peth yn llifo dros y ddaear i afonydd a nentydd, ond mae peth yn suddo i'r ddaear ac yn dod yn ddŵr daear. Rydym yn galw'r broses hon yn ail-lenwi dŵr daear.

Pan fydd dŵr yn cael ei storio mewn mannau mandyllog bach mewn tywod, graean a holltau yn y graig, rydyn ni'n galw hyn yn ddyfrhaen. Gall dŵr adael y ddyfrhaen naill ai trwy arllwysiad naturiol i afonydd, nentydd a tharddellau, neu drwy dynnu dŵr gan ddynion trwy bwmpio tyllau turio.

Mae lefelau dŵr daear yn cael eu monitro gan ddefnyddio tyllau turio monitro dŵr daear.  Mae gennym bron i 130 o dyllau turio monitro sy’n mesur lefelau dŵr daear yng Nghymru, ac mae rhai ohonynt wedi’u monitro ers 40 mlynedd.  Mae dyfnder cyfartalog ein tyllau turio monitro tua 50 metr, gyda'r dyfnaf yn 212 metr.

Diagram showing how boreholes are used to monitor groundwater

Pam rydym yn monitro lefelau dŵr daear?

Rydym yn dadansoddi ein data ar lefelau dŵr daear i chwilio am dueddiadau a monitro faint o ddŵr daear sy'n cael ei storio.

Er ei fod yn adnodd gwydn, gall lefelau dŵr daear ddod o dan straen os bydd lefelau ail-lenwi yn gostwng dros gyfnod hir, neu os cynyddir lefelau tynnu dŵr. Gall hyn arwain at sychder dŵr daear.

Gall sychder dŵr daear gael ei nodi gan lefelau dŵr daear sy’n gyson isel, llai o lif mewn afonydd a tharddellau sy'n cael eu bwydo â dŵr daear, a thynnu dŵr daear yn dod yn annibynadwy. 

Mae cymariaethau o lefelau dŵr daear a fesurwyd â chyfartaleddau hirdymor yn rhoi syniad o statws adnoddau dŵr daear. Mae arsylwi dros gyfnodau hir yn ein galluogi i asesu ymatebion dŵr daear i amodau tywydd, tynnu dŵr, a newid yn yr hinsawdd.

Beth mae ein monitro yn ei ddweud wrthym?

Yn ein dosbarthiad o statws maint dŵr daear diweddaraf (2021), ystyriwyd bod pob un o’r 39 o gyrff dŵr daear â statws da.

Ond mae ymarfer gydag Arolwg Daearegol Prydain yn dangos bod tueddiadau dŵr daear yn newid ac yn dod yn fwy amrywiol.

Mae Arolwg Daearegol Prydain wedi gweithio gyda ni i ddatblygu Mynegai Dŵr Daear Safonol yn nalgylchoedd afon Clwyd, afonydd Sir Benfro, ac afonydd Wysg a Gwy.

Offeryn yw hwn i nodi amseroedd pan fo lefelau dŵr daear yn uwch ac yn is o gymharu â chyfartaleddau neu normau hanesyddol hirdymor ac mae'n pennu rhif yn unol â hynny. Er enghraifft, mae rhif Mynegai Dŵr Daear Safonol positif yn dangos bod lefelau dŵr daear yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer yr adeg honno o'r flwyddyn, a gwerth negatif yn dangos bod lefelau islaw'r arferol.

Mae'r data cysylltiedig yn dangos nifer y misoedd y mae lefelau dŵr daear wedi'u treulio ym mhob un o'r categorïau hyn ar draws dau gyfnod gwahanol o 20 mlynedd, sef 1980 i 2000 a 2001 i 2021.  Mae’r sylwadau a ganlyn wedi’u gwneud:

  • Mae nifer y misoedd cyfartalog wedi gostwng 20% o 228 (1980 i 2000) i 180 (2001 i 2021).
  • Ym mhob lleoliad ac eithrio un, mae nifer y misoedd a dreuliwyd mewn sychder cymedrol wedi cynyddu 30 mis rhwng 2001 a 2021 o gymharu â 1980 i 2000.
  • Nid oedd unrhyw fisoedd wedi'u dosbarthu fel sychder difrifol ac eithafol rhwng 1980 a 2000. Fodd bynnag, rhwng 2001 a 2021, nodwyd un mis o sychder eithafol a chwe mis o sychder difrifol.
  • Ym mhob lleoliad a ddadansoddwyd, cofnodwyd mwy o fisoedd gwlyb yn y cyfnod ugain mlynedd olaf.

Ledled Cymru, y duedd gyffredinol yw bod lefelau dŵr daear yn dod yn fwy amrywiol. Mae llai o fisoedd yn cofnodi lefelau cyfartalog ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn gyda mwy o dystiolaeth o ddigwyddiadau eithafol (sychder neu wlypter). Mae hyn yn awgrymu bod gwytnwch yr adnoddau yn newid ac y gallai effeithiau ar gyfraniadau at lif afonydd a chyflenwadau dŵr fod yn fwy difrifol yn y dyfodol.

A sampling point in the lower Wye catchment illustrating shifting groundwater trends

Cynllunio i’r dyfodol

Byddwn yn parhau i olrhain tueddiadau lefel dŵr daear ac yn defnyddio’r rhain i nodi a deall sychder dŵr daear yn well. Bydd hyn yn ein helpu i reoli adnoddau dŵr daear yn gynaliadwy i ddiwallu anghenion yr amgylchedd a phobl.

Rydym wedi defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd drwy'r gwaith hwn i helpu i ddatblygu cyfres o flaenoriaethau ar gyfer adnoddau dŵr daear ac ansawdd dŵr daear. Gobeithiwn y bydd y rhain yn ein helpu i ddeall lefelau dŵr daear yn well ac i arsylwi ar newidiadau parhaus.

Ar gyfer adnoddau dŵr daear, byddwn yn blaenoriaethu adolygu ein rhwydweithiau monitro. Mae ein gwaith monitro presennol yn canolbwyntio ar ddŵr daear dyfnach, ond rydym yn cydnabod bod dŵr daear bas yr un mor bwysig. Gall ein hadolygiad gynnwys cael mwy o fonitorau dŵr daear bas er mwyn deall y lefelau dŵr daear bas hyn yn well a sut y byddant yn newid yn y dyfodol.

Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar gael gwell dealltwriaeth o'r bygythiadau a achosir gan newid yn yr hinsawdd.

Wrth i'r hinsawdd newid, rydym yn debygol o weld newidiadau pellach mewn dŵr daear.  Disgwyliwn weld cynnydd mewn ymwthiad dŵr môr i ddŵr daear ger yr arfordir. Gall llifogydd o ddŵr daear ddod yn fwy cyffredin mewn rhai mannau. Mewn mannau eraill, mae newidiadau mewn patrymau glawiad yn golygu bod tarddellau a ffynonellau bas eraill o ddŵr daear yn debygol o sychu'n amlach. Mae angen i ni ddeall lle gallai hyn ddigwydd a chynghori ar ba fesurau lliniaru, os o gwbl, sy'n bosibl.

Mae'r galw am ffynonellau gwresogi ac oeri adnewyddadwy fel pympiau gwres o'r ddaear yn debygol o gynyddu'r pwysau ar ddŵr daear mewn amgylcheddau trefol. Mae angen i ni asesu lle gallai cynnydd yn y galw am ddŵr daear godi a sicrhau bod gennym ni ffyrdd priodol o reoleiddio'r defnyddiau hyn.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru