Troedio Llwybr Coedwig Cymru: taith gerdded drwy natur a gwaith adfer graddol

Pan lansiodd Llywodraeth Cymru ran beilot Llwybr Coedwig Cymru, roedd yn nodi dechrau llwybr cerdded pellter hir newydd sy'n troelli am 76km o Barc Porthceri ym Mro Morgannwg i draphont Pont Walby ger Glyn-nedd. Ar hyd y ffordd mae'n cysylltu 12 safle Coedwig Genedlaethol Cymru a chyfanswm o 24 coetir, gan gynnig cymysgedd cyfoethog o dirweddau.

Mae'r rhan gyntaf hon o'r llwybr wedi cael ei chreu gyda chefnogaeth ac arbenigedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ac mae ein timau wedi helpu i lunio, dylunio a chyflwyno'r llwybr. Mae ein Tîm Coedwig Genedlaethol Cymru ymroddedig wedi cefnogi'r prosiect o'r cychwyn cyntaf, gan sicrhau bod y llwybr yn dilyn hawliau tramwy presennol lle bynnag y bo modd, yn gweithio'n dda ar lawr gwlad, ac yn adlewyrchu uchelgeisiau rhwydwaith Coedwigoedd Cenedlaethol sy'n datblygu.

Mae'r llwybr wedi'i rannu'n adrannau sy’n hwylus i’r rhan fwyaf o ymwelwyr – er y gallai'r rhai sy'n chwilio am her uchelgeisiol gwblhau'r llwybr cyfan mewn tua 24 awr! Gan fod y llwybr yn dilyn y rhwydweithiau hawliau tramwy a beicio presennol, mae llawer o’r rannau eisoes yn addas ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn, beicwyr a marchogwyr.

Mae'r gwaith i ddatblygu'r llwybr peilot hwn wedi'i gydlynu gan ein Tîm Coedwig Genedlaethol Cymru, gan dynnu ynghyd arbenigedd a chefnogaeth o bob rhan o'r sefydliad.

Mae'r llwybr yn adeiladu ar dair blynedd o waith gan y tîm, sydd wedi helpu mwy nag 80 o goetiroedd i ymuno â Choedwig Genedlaethol Cymru sy'n parhau i fod yn tyfu. Wrth i'r rhwydwaith ehangu, daeth y syniad o greu llwybr sy’n cysylltu'r safleoedd hyn yn bosibl. Dyluniodd ein swyddog Canol De Cymru y llwybr, a chynnal arolwg ohono, gyda chefnogaeth cydweithwyr ar draws CNC a phartneriaid yn amrywio o awdurdodau lleol i’r Cerddwyr, Llais y Goedwig a Chymdeithas Ceffylau Prydain.

Gydag oddeutu 30% o Lwybr Coedwig Cymru yn rhedeg drwy goetir a reolir gan CNC, bydd cerddwyr yn pasio tirweddau lle mae ein timau'n rheoli coetir, yn adfer natur, yn gwella cynefinoedd ac yn datgelu straeon ecolegol sydd ond newydd ddechrau dod i’r wyneb.

Mae dau le o'r fath ar hyd y llwybr.

 

Coedwig Hensol

Mae'r llwybr drwy Goedwig Hensol yn gyffredinol hygyrch gyda digon o gyfleusterau ar hyd y llwybr. Mae llawer o'r rhannau'n addas ar gyfer teuluoedd ifanc a phobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn.

A hithau dim ond 15 milltir i'r gorllewin o Gaerdydd,  mae gan Goedwig Hensol stori dawel i'w hadrodd – stori y mae ein cydweithwyr wedi helpu i'w datgelu. Mae’r hyn sy'n edrych fel llannerch syml i'r gogledd-orllewin o'r llwybr mewn gwirionedd yn fan lle mae gwaith gofalus dros mewn blynyddoedd diweddar wedi rhoi lle i natur i adfer. Yma, mae’r tirwedd yn dechrau adfer ei gydbwysedd, ac mae natur unwaith eto yn gwneud yr hyn yr oedd i fod i'w wneud.

Pan gafodd coed llarwydd eu cwympo yma yn 2020, cafodd y tir ei agor a chafodd gyfle i anadlu’n rhydd am y tro cyntaf ers degawdau. Yna, dechreuodd planhigion rhostir ddychwelyd. Nid planhigion cyffredin oedd y rhain, ond rhywogaethau sy'n gysylltiedig â rhostir yr iseldir, sef un o gynefinoedd prinnaf y Deyrnas Unedig. Efallai bod rhai hadau wedi aros o dan y ddaear am hanner canrif a mwy, gan aros am gyfle pan fyddai’r golau’n dychwelyd.

Deallodd ein swyddogion arwyddocâd yr egin cynnar hyn yn gyflym. Yn lle plannu mwy o goed, penderfynwyd helpu'r hen rostir i ennill ei le eto. Cliriwyd y coediach a adawyd ar ôl cwympo’r coed, gwthiwyd prysgwydd yn ôl, a daeth golau’r haul i dywynnu ar lawr y goedwig unwaith eto - yn union yr hyn yr oedd ei angen ar blanhigion bregus y rhostir i ailsefydlu.

Heddiw, mae unrhyw un sy'n cerdded ar hyd y llwybr yn pasio man lle mae'r dirwedd yn ailsefydlu ei hun yn raddol, dan ofal staff chwilfrydig a mentrus ein cydweithwyr.

 

Coedwig Pen y Cymoedd

Mewn cyferbyniad llwyr â Choedwig Hensol, Coedwig Pen y Cymoedd yw'r goron anghysbell a garw ar ddiwedd esgyniad serth, waeth o ba gyfeiriad bynnag y byddwch chi'n mynd ati. Mae'r rhan hon ymhlith y rhai mwyaf anghysbell ar hyd y llwybr, felly byddwch yn barod am lethrau a thaith gerdded fwy heriol.

Mae'r dirwedd yn agor i'r ucheldiroedd eang lle mae ein timau yn gweithio ar y cyd gyda’n partneriaid yn helpu mawndiroedd sydd wedi'u difrodi i wella a ffynnu eto.

Wedi'i gefnogi gan gronfa £3,000,000 o Fferm Wynt Pen y Cymoedd sydd gerllaw, mae'r prosiect adfer hwn a fydd yn para 25 mlynedd yn trawsnewid hen blanhigfeydd conwydd yn fosaig o gynefinoedd ucheldirol sydd wrthi’n adfer.

Yn y mannau lle ceir gorgorsydd, mae’r sbriwsen Sitka anfrodorol yn cael ei chwympo a’i thynnu a hen sianeli draenio yn cael eu blocio i helpu dŵr i godi'n ôl i'r wyneb. Mae hyn yn ail-greu'r amodau claear, gwlyb sydd eu hangen ar fwsoglau migwyn a phlanhigion eraill sy'n ffurfio corsydd, tra’n darparu cynefin gwerthfawr i lygod y dŵr, troellwyr mawr a rhywogaethau eiconig eraill.

Mewn mannau eraill, mae cynefinoedd fel rhostir gwlyb, rhostir sych a glaswelltir corsiog yn cael cyfle i ddychwelyd yn naturiol, dan arweiniad gwaith monitro hirdymor ac ymyriadau ysgafn.

Wrth gerdded ar hyd y rhan hon o'r llwybr caiff ymwelwyr gipolwg ar ucheldiroedd sy’n dysgu sut i anadlu eto - yn araf, yn gyson, a chyda chymorth ein cydweithwyr sydd wedi ymrwymo i’r broses adfer hir.

 

Taith gerdded drwy gwaith adfer

Mae Llwybr Coedwig Cymru yn cynnig mwy na dim ond llwybr pellter hir: mae'n wahoddiad i gamu i dirweddau lle mae natur yn dychwelyd, cynefinoedd yn iacháu a gwaith tawel, gofalus yn datblygu y tu hwnt i'r llwybr. Mae'n ffordd o ddod i adnabod cornel newydd o Gymru – neu weld lle cyfarwydd o safbwynt hollol wahanol.

P'un a ydych chi'n cerdded ar hyd darn byr neu'n troedio’r llwybr cyfan, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n oedi, yn edrych yn ofalus, ac yn caniatáu i'r coetiroedd cyfagos danio'ch chwilfrydedd. Mae byd natur yn brysur wrth ei waith ar hyd Llwybr Coedwig Cymru – ac nid oes ffordd well o'i brofi nag ar droed.

Wrth i ni barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu'r darn cyntaf hwn drwy gydol y flwyddyn, bydd yn gosod y sylfeini ar gyfer camau nesaf y llwybr.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru