Penodi Dominic Driver yn bennaeth stiwardiaeth tir
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi penodi pennaeth o stiwardiaeth tir newydd a fydd yn goruchwylio ac yn helpu i ddatblygu ei ystâd.
Bydd Dominic Driver yn ymuno â CNC ym mis Gorffennaf 2019 i arwain agweddau pwysig ar waith CNC gan gynnwys rheoli a defnyddio'r coedwigoedd, gwarchodfeydd natur a'r holl dir arall y mae'n berchen arno neu'n ei reoli.
Bydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod ystâd CNC yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r amgylchedd ac yn rhoi budd i bobl a'r economi nawr ac am genedlaethau i ddod.
Mae'n ymuno â CNC o Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban ac mae ganddo gyfoeth o brofiad ym maes coedwigaeth a defnydd tir, ar ôl gweithio yn flaenorol i'r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru a Lloegr.
Mae'n Fforestiwr Siartredig ac yn Amgylcheddwr Siartredig.
Dywedodd Dominic Driver am ei benodiad:
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â CNC yn y rôl newydd gyffrous a heriol hon.
"Rwy'n teimlo’n angerddol ynglŷn â rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei gael yn iawn os ydym yn mynd i ddelio â newid hinsawdd yn ogystal â newidiadau eraill yn ein cymdeithas ac yn ein heconomi.
"Mae rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn elfen allweddol o hynny, yn enwedig i Gymru a CNC.
"Rwy'n credu bod yr holl wahanol fathau o adnoddau naturiol Cymru yn bwysig. Gall coedwigaeth ddysgu o fathau eraill o reoli tir a gall mathau eraill o reoli tir ddysgu o goedwigaeth.
"Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â chydweithwyr CNC a'r sector coedwigaeth a rheoli tir ledled Cymru."