Sicrhau diogelwch Llyn Tegid
Mae cynlluniau ar y gweill i sicrhau bod llyn naturiol mwyaf Cymru yn parhau i fod yn ddiogel yn y tymor hir.
Mae'r gwaith wedi'i gynllunio i sicrhau y gall Llyn Tegid yn Y Bala barhau i wrthsefyll tywydd eithafol nawr ac yn y dyfodol.
Mae gan y cynllun agweddau hamdden ac amgylcheddol hefyd.
Bydd sesiwn galw heibio yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Hamdden Penllyn LL23 7YE ddydd Mawrth 17 Rhagfyr 2019 rhwng 2pm - 7.30pm i drafod y cynlluniau.
Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru ar gyfer CNC:
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda phobl yn lleol dros y 18 mis diwethaf i archwilio syniadau ar gyfer lliniaru a chyfleoedd cymunedol ehangach y gellir eu datblygu ochr yn ochr â'r gwaith diogelwch llyn.
“Rwy’n gobeithio y bydd llawer o bobl yn galw heibio i’n gweld ar 17eg Rhagfyr i drafod y cynlluniau, gweld argraffiadau’r artist ar gyfer y cynllun, a rhoi eu barn i ni.”
Yn y Flwyddyn Newydd, bydd CNC yn gwneud cais i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am ganiatâd cynllunio ar gyfer y cynllun.
Mae argloddiau'r llyn yn rhoi amddiffyniad hanfodol rhag llifogydd i dref y Bala ac mae gan CNC gyfrifoldeb i sicrhau bod y dref yn parhau i fod yn ddiogel.
Bydd y gwaith yn cynnwys cryfhau'r argloddiau a gwella amddiffyniad tonnau cerrig glan y llyn.
Os rhoddir caniatâd, bydd y gwaith yn cynnwys dymchwel coed, ynn yn bennaf, sy'n tyfu yn argloddiau'r llyn a'u gwanhau.
Pe digwydd hyn, mae CNC yn addo cadw coed aeddfed lle bynnag y bo modd a phlannu o leiaf cymaint o goed yn lleol ag y mae'n rhaid eu colli ar gyfer y gwaith diogelwch.
Ymhlith yr awgrymiadau cymunedol eraill sy'n cael eu datblygu mae:
- Gwella llwybrau troed ar gyfer pob gallu;
- Creu ardaloedd eistedd newydd;
- Adfer cynefinoedd gan gynnwys gwelliannau sensitif i faes parcio'r llyn;
- Creu dolydd blodau gwyllt;
- Cynhyrchu adnoddau i ysgolion lleol eu defnyddio ar gyfer addysg amgylcheddol.
Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn Hydref 2020.
Bydd CNC yn gweithio'n agos gyda'r gymuned i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosib yn y cyfnod adeiladu.
Mae CNC yn parhau i weithio gyda Rheilffordd Llyn y Bala er mwyn gweld sut y gellid rheoli eu estyniad arfaethedig ochr yn ochr â'r gwaith hwn.
Bydd gweithredwr y rheilffordd hefyd yn y sesiwn galw heibio i ateb cwestiynau.
Ychwanegodd Sian Williams:
“Bydd gwerth amgylcheddol enfawr yr ardal a’i phwysigrwydd i’r gymuned leol, ar gyfer hamdden a thwristiaeth yn cael ei ystyried yn llawn trwy gydol y cynllun o’r dechrau I’r diwedd.”