Benthyg Penarth – benthyg nid prynu!

Rydym yn gweithio gyda phrosiect arloesol o’r enw Benthyg Penarth – Llyfrgell Pethau.

Nod y prosiect yw ei gwneud yn well benthyg na phrynu. Bydd yn caniatáu i ni reoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy drwy atal deunyddiau rhag mynd i safleoedd tirlenwi, sy’n dilyn egwyddorion craidd yr economi gylchol.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan CNC a CGGC, a hefyd drwy gyfraniadau anariannol gwirfoddolwyr.

Mae model Benthyg yn seiliedig ar ethos cryf o gefnogi ffordd o fyw gynaliadwy a chydnerthedd y gymuned. Bydd hefyd yn lle i bobl gyfarfod i rannu sgiliau, gwybodaeth ac amser er mwyn cefnogi ei gilydd. Ac mae'r rhwydwaith hefyd yn gymorth i bobl yn ystod yr argyfwng costau byw.

Mae Benthyg Cymru yn cefnogi rhwydwaith o Lyfrgelloedd Pethau ledled Cymru – i ddod o hyd i'ch rwydwaith agosaf, ewch i www.benthyg-cymru.org

Dyma Ella Smillie, Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd Benthyg Cymru, i roi mwy o wybodaeth i chi am y prosiect.

Beth yw Llyfrgell Pethau beth bynnag?

Ydych chi erioed wedi gwario’ch arian prin ar rywbeth roedd gwir ei angen arnoch chi – ac wedyn ei ddefnyddio dim ond unwaith ac wedi’i adael yn hel llwch yng nghefn y cwpwrdd? Mae pawb wedi gwneud, o leiaf unwaith.

Dychmygwch y siediau a’r atics lawr eich stryd, pob un yn llawn peiriannau torri gwrychoedd, peiriannau glanhau carpedi, chwistrelli gwasgedd uchel a driliau, sydd o bosib yn cael eu defnyddio ddwywaith neu dair y flwyddyn, os hynny, ond sydd fel arall yn cymryd lle gwerthfawr yn eich cartref chi a chartrefi eich cymdogion.

Mae gan yr holl eitemau hyn ôl troed carbon, sy’n adlewyrchu’r deunyddiau crai a’r prosesau gweithgynhyrchu a chludo y mae eu hangen er mwyn iddyn nhw gyrraedd ein cartrefi, ac eto yn aml nid yw’r defnydd maen nhw’n ei gael yn adlewyrchu hynny; ar gyfartaledd mae dril llaw yn cael ei ddefnyddio am ddim mwy nag 13 munud yn ei oes

Gyda’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng costau byw ar feddyliau pawb, does bosib nad oes ffordd well o ddefnyddio’r holl adnoddau hynny sydd eisoes yn eistedd o fewn ein cymunedau, gan helpu pobl i arbed arian ac achub yr amgylchedd...?

Dyma ble mae gan Lyfrgelloedd Pethau rôl i’w chwarae. Mae Benthyg Cymru yn fenter gymdeithasol a sefydlwyd i gefnogi rhwydwaith o Lyfrgelloedd Pethau ar hyd a lled Cymru, gan helpu cymunedau o amgylch y wlad i gael gafael ar y pethau mae eu hangen arnyn nhw yn rhad. 

Ym mis Ebrill 2021, cafodd Gwyrddio Penarth Greening (GPG) gyllid gan Gyfoeth Naturiol Cymru a CGGC i sefydlu Llyfrgell Pethau ym Mhenarth. Roedd gwaith ymgysylltu â’r gymuned wedi dangos bod gofyn am y cyfleuster hwn ac roedd llwyddiant ysgubol prosiectau lleol fel Repair Café Penarth a’r grŵp Penarth Reuse ar Facebook wedi dangos bod cryn awydd yn y dref. Mae mentrau fel hyn, sydd â chefnogaeth gryf gan y gymuned, yn symbylu Cymru i symud y tu hwnt i ailgylchu a thuag at economi gylchol, ble mae deunyddiau’n cael eu defnyddio mor hir â phosib, a chan adael i effeithlonrwydd adnoddau ymwreiddio yn ein diwylliant.

Benthyg Penarth – yr hanes hyd yma

Ers lansio, ac er gwaethaf yr heriau cysylltiedig â COVID-19, mae’r prosiect wedi cynnull stôr o dros 300 o eitemau i’w benthyg, o bebyll i chwistrelli gwasgedd uchel i beiriannau gwneud smwddis a mwy. Mae 99% o’r rhain wedi’u rhoi gan aelodau’r cyhoedd, gan sicrhau bod y gymuned yn gwneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael.

Yn yr 13 mis cyntaf ers lansio ddiwedd Ebrill 2021, mae’r gymuned wedi gwneud 382 o fenthyciadau (mae un benthyciad yn gyfystyr ag un eitem am un wythnos). Yr eitemau mwyaf poblogaidd yw’r chwistrell gwasgedd uchel, peiriant glanhau carpedi, gasibos, y peiriant torri gwair a’r peiriant torri gwrychoedd. Ers dechrau’r gwanwyn, mae llawer mwy o fenthyciadau wedi’u gwneud, ac amrywiaeth lawer ehangach o bethau’n mynd allan wrth i arferion newydd ddechrau ffurfio o amgylch y gymuned.

Wrth gynllunio’r prosiect, roedd GPG yn awyddus i sicrhau y gallai pawb gael gafael ar beth roedd ei angen arnyn nhw, heb fod gwahaniaeth am eu hamgylchiadau neu leoliad. Ni chodir tâl aelodaeth a gellir benthyg o £1 yr wythnos, ond mae yna bob amser opsiwn i dalu mewn amser gwirfoddoli neu gredydau amser Tempo er mwyn galluogi pawb i gael gafael ar yr eitemau mae eu hangen arnyn nhw ar yr amser mae eu hangen nhw.

Yn ogystal â’r dull prisio hygyrch hwn, mae’r prosiect yn cynnwys beic cargo trydanol sy’n cael ei ddefnyddio i gludo eitemau o amgylch y dref, gan sicrhau mynediad i bobl sydd ddim yn gallu dod i’r lleoliad a chan gwtogi ar deithiau car diangen. Mae wyth gwirfoddolwr wedi cael hyfforddiant i ddefnyddio’r beic yn ddiogel ac wedi dod yn olygfa gyfarwydd wrth iddyn nhw fynd ar neges o amgylch y dref.

Mae’r prosiect nawr yn magu gwreiddiau yn y dref, gan gymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol a chydweithio â mentrau a grwpiau lleol eraill ar bob cyfle.

Yn ystod hanner tymor mis Chwefror hyrwyddodd y prosiect ei gyfres o ddillad gwisg ffansi i blant o flaen Diwrnod y Llyfr a Dydd Gŵyl Dewi, gan ennyn adborth arbennig o gadarnhaol gan deuluoedd a oedd am arbed arian ac osgoi gwastraff. Mae’r prosiect hefyd yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu mewn lleoliadau allweddol o amgylch y dref, fel y ‘Pod Bwyd’ a sefydlwyd gan Cartrefi’r Fro, gan gynnwys digwyddiad ‘cyfnewid anrhegion’ ar ôl y Nadolig, ble gwahoddwyd trigolion i gyfnewid rhoddion heb eu defnyddio – neu roi un yn gyfnewid am fenthyciad am ddim gan Benthyg.

Beth nesaf?

Mae rhwydwaith Benthyg Cymru yn dechrau cynnull data o bob cwr o’r wlad i fonitro’r twf mewn benthyciadau. Mae’r set gyntaf o ddata, ar gyfer Hydref 2021 – Mawrth 2022 yn dangos bod Benthyg Penarth yn arwain y ffordd o ran benthyciadau – yr her nesaf yw cadw’r safle hwn wrth i brosiectau eraill y Rhwydwaith ymsefydlu a dod yn gystadleuaeth gyfeillgar!

Mae’r rhwydwaith hefyd yn dechrau rhoi methodoleg ar y cyd ar waith ar gyfer mesur arbedion carbon i ddangos buddion uniongyrchol benthyg dros brynu. Bydd Benthyg Penarth yn peilota hyn ar y cyd â RE:MAKE Casnewydd cyn ei gyflwyno ar draws y rhwydwaith.

Yn y pen draw, nod y rhwydwaith yw ei gwneud mor rhwydd a normal i fenthyg ag ydy i bicio allan am dorth o fara. Mae hyn wedi’i yrru gan wir frwdfrydedd dros rannu adnoddau a meithrin cydnerthedd economaidd ac amgylcheddol yn ein cymunedau, a dim ond drwy ymroddiad staff a gwirfoddolwyr y bydd y math hwn o newid yn cael ei wireddu. Dyma pam fod cefnogaeth gan gyllidwyr fel Cyfoeth Naturiol Cymru yn hanfodol i’n helpu i wireddu’n gweledigaeth a symud Cymru tuag at economi gylchol, gan warchod adnoddau naturiol ac adfywio’n milltir sgwâr.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru