Rhyddhau llygod pengrwn y dŵr yn nodi diwedd prosiect pedair blynedd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ynghyd â Chyngor Bro Morgannwg, wedi cwblhau prosiect ailgyflwyno pedair blynedd ar ôl rhyddhau’r grŵp olaf o lygod pengrwn y dŵr i lyn yn gynharach yr wythnos hon.

Mae llygoden bengrwn y dŵr yn rhywogaeth warchodedig yn y DU ac yn 2015 crëwyd rhaglen i’w hailgyflwyno ger Llynnoedd Cosmeston, Penarth, i wrthdroi diflaniad ym Mro Morgannwg.

Dechreuodd CNC ryddhau llygod dŵr wedi eu bridio mewn caethiwed yn 2017 ar ôl dwy flynedd o gynllunio a gweithio i leihau niferoedd eu prif ysglyfaethwr, y minc.

Ers hynny cafodd 400 o lygod pengrwn y dŵr eu rhyddhau yn Cosmeston a disgwylir i’w poblogaeth yn ffynnu.

Mae llygoden bengrwn y dŵr yn rhywogaeth bwysig yn y gadwyn fwyd, ac yn cynnal llawer o ysglyfaethwyr, megis adar ysglyfaethus, carlymod a chrehyrod. Mae’r tyllau mae’r llygoden yn eu turio hefyd yn hybu’r gylched nitrogen gan wella twf planhigion.

Mae’r llygod dŵr hyn wedi cael eu bridio yn neorfa CNC yng Nghynrig ac yn cael eu rhyddhau i’r gwyllt unwaith y byddant yn ddigon hen i ofalu amdanynt eu hunain.

Mae grwpiau sibling o’r llygod dŵr yn cael eu gosod mewn ffaldiau dros dro yn y cynefin newydd am hyd at bum niwrnod er mwyn iddynt ymgynefino â’r arogleuon, y synau a’r golygfeydd newydd.

Yna gall y llygod dŵr symud allan pan fyddant yn barod.

Er hyn, mae rhai anifeiliaid mwy sy’n cael eu gwahanu oddi wrth eu siblingiaid mewn caethiwed yn aml yn cael eu rhyddhau yn syth i’r gwyllt.

Meddai Richard Davies, swyddog meithrin pysgod CNC:

"Mae bywyd gwyllt yn rhan bwysig o'n hamgylchedd, ein treftadaeth a'n diwylliant yng Nghymru, a dyna pam y mae gwarchod y rhywogaethau sydd dan fwyaf o fygythiad yng Nghymru mor bwysig.
"Mae cynefin llygod pengrwn y dŵr yn Ne Cymru yn eithaf tameidiog, fodd bynnag mae gennym bocedi o gynefin rhagorol fel Cosmeston. Yn anffodus, mae safleoedd fel y rhain yn annhebygol o gael eu cytrefu'n naturiol a dyna pam y mae prosiectau ailgyflwyno mor bwysig.
"Mae hyd at 300,000 o ymwelwyr yn dod i Cosmeston bob blwyddyn, ac mae gan bob un ohonynt gyfle da i weld ein llygod dŵr yn y gwyllt, sy’n golygu mai’r rhain yw’r llygod dŵr sy’n cael eu gweld amlaf yng Nghymru.
"Hoffwn ddiolch yn fawr i'n partner prosiect, Cyngor Bro Morgannwg a'r gwirfoddolwyr sydd wedi ein helpu dros y blynyddoedd, gan greu cynefin rhagorol a gwarchod y rhywogaeth ryfeddol hon."

Fel safle gwarchodedig, mae Llynnoedd Cosmeston yn elwa o ymdrech ar y cyd CNC a Chyngor Bro Morgannwg i reoli ei adnoddau naturiol er mwyn creu amgylchedd iachach a mwy gwydn ar gyfer y bywyd gwyllt cyfoethog ac amrywiol sy'n byw yno.

Disgwylir i’r llygod dŵr wasgaru o Lynnoedd Cosmeston wrth i'w niferoedd dyfu, ac o bosibl poblogi rhannau o Nant Sili, rhostir Sili ac unrhyw ddarnau o gynefin addas yn nalgylch Afon Tregatwg.