Swyddi newydd sbon ym maes digidol, data a thechnoleg

Hoffech chi weithio mewn swydd ym maes digidol, data neu dechnoleg mewn sefydliad sy’n canolbwyntio ar wella amgylchedd Cymru? 

Os felly, darllenwch ymlaen.

 

Ein huchelgais am well gwasanaethau digidol

Yn gynharach eleni, fe wnaethom ni gyhoeddi ein Strategaeth Ddigidol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gymryd ysbrydoliaeth gan y Strategaeth Ddigidol i Gymru, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, a Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru.

Rydym ni eisiau gwella a symleiddio ein gwasanaethau digidol i ddinasyddion, busnesau a rhanddeiliaid. 

Mae yna angen brys hefyd i sicrhau ein bod yn gwella ein cynnyrch a'n gwasanaethau i helpu ein sefydliad weithio mor effeithlon â phosibl i fynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. 

Er mwyn i ni allu cyflawni ein Strategaeth Ddigidol a’n dyheadau ehangach, mae angen i ni adeiladu timau mewnol cryf. Mae angen i ni hefyd dderbyn risg, ac ymrwymo i ddatblygiad parhaus – gan gydnabod nad oes unrhyw beth yn berffaith ar y tro cyntaf, ac i ymddiried mewn esblygiad.  

Swyddi yn ein timau TGCh, llifogydd a digidol

Rydym ni’n hysbysebu nifer o swyddi newydd, mewn dau dîm newydd – yn gweithio gyda staff presennol CNC a chontractwyr allanol. 

Tîm y platfform cyhoeddi a rheoli cynnwys

Bydd y tîm newydd hwn yn canolbwyntio ar reoli, cynnal a gwella ein prif wefan a’n system reoli cynnwys – gan weithio’n agos gyda’n dylunwyr cynnwys, ymchwilwyr defnyddwyr a swyddogion cyhoeddi.  

Timau platfform ac adnoddau llifogydd

Bydd y timau platfform ac adnoddau llifogydd yn darparu’r Gwasanaeth Rhybuddio a Hysbysu gorau o’i fath i’r cyhoedd yng Nghymru. Byddwch yn datblygu ac yn rheoli’r systemau technegol sy’n cyhoeddi negeseuon llifogydd hanfodol i ddinasyddion a sefydliadau partner, gyda’r nod o sicrhau gwelliant parhaus.

Byddwch yn cydweithio i ffurfio tîm darparu ystwyth newydd a ffyrdd newydd o weithio i gyflawni cynnyrch yn seiliedig ar y dechnoleg ddiweddaraf sy’n cael ei gefnogi gan blatfform Microsoft Azure

Dyma gyfle cyffrous i weithio mewn rôl dechnoleg o fewn ein tîm perygl llifogydd ehangach i gyflwyno systemau penodol sydd ar gael i nifer fawr o bobl mewn sawl rhanbarth, ac sy’n darparu gwasanaeth hanfodol 24 awr y dydd.

Sgrinlun o'n rhybuddion llifogydd

Am bwy rydyn ni'n chwilio?

Rydym yn awyddus i recriwtio grŵp amrywiol o bobl sydd ag ystod o sgiliau a gwybodaeth. Mae gennym ddiddordeb arbennig yn y canlynol:

  • pobl sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth i wasanaethau sy'n effeithio ar fywydau pobl, byd natur, ac amgylchedd Cymru 
  • pobl sy'n hapus wrth weithio mewn timau amlddisgyblaethol
  • pobl nad ydynt ofn rhoi cynnig ar bethau newydd, a herio’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ‘arferol’ 
  • pobl a fydd yn dod ag arferion gorau o leoedd eraill
  • pobl sy'n cymryd rhan mewn cymunedau ymarfer mewnol ac allanol

Eisiau mwy o wybodaeth?

Os ydych chi'n awyddus i wybod mwy, gallwch gysylltu â ni'n uniongyrchol:

 

Heledd Evans - @helivans ar Twitter neu e-bost: heledd.evans@cyfoaethnaturiolcymru.gov.uk

 

Neu

 

Ian Johns – @IanJohnsNRW ar Twitter neu e-bost: Ian.Johns@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru