Creu coetiroedd newydd a gwydn

Wrth i effeithiau newid hinsawdd gydio ym mhob cwr o Gymru, mae'r angen i greu coetir newydd a chynyddu gorchudd coed yn dod yn fwyfwy tyngedfennol.

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan a wynebu'r her hon yn uniongyrchol, drwy ein rhaglen i greu ystod o goetiroedd newydd amrywiol, a fydd yn helpu i fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd a sicrhau amrywiaeth o fanteision i'r amgylchedd, bywyd gwyllt a chymunedau lleol.

Yn ein blog diweddaraf, mae ein tîm creu coetir yn mynd â ni allan gyda nhw i rai o'n safleoedd creu coetir yng Nghwmbiga, Cyffylliog a Threfeglwys i esbonio mwy am y rhaglen a'r gwaith sy’n digwydd i ofalu amdanynt.

Helpu coetiroedd newydd i oroesi

Wrth sefydlu coetir newydd, mae'r coed ifanc rydyn ni'n eu plannu yn agored i amrywiaeth o fygythiadau gwahanol a allai gael effaith ar eu gallu i oroesi – o dywydd gwlyb a gwyntog i blâu a chlefydau sy’n bodoli mewn coedwigoedd fel gwiddon coed pinwydd, a hyd yn oed anifeiliaid sy’n pori, fel llygod pengrwn, cwningod, a cheirw.

Er mwyn ein helpu i frwydro yn erbyn hyn ac i roi'r cyfle gorau i'r coetir newydd oroesi, mae ein timau yn plannu coed newydd yn lle unrhyw goed ifanc marw yn ystod misoedd y Gaeaf (mis Tachwedd i fis Mawrth) pan fydd y coed ynghwsg.
Mae ein timau'n cynnal arolygon trwy gydol mis Awst sy'n eu galluogi i benderfynu faint o goed newydd y mae angen eu plannu ac yn ein helpu i ddeall iechyd cnydau coed.

Mae deall cyflwr iechyd ein coetir yn hanfodol, gan ei fod yn ein helpu i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau yn gynnar. Gyda hinsawdd sy'n newid a mewnlifiad clefydau a phathogenau, mae'n bwysig sicrhau nad yw’r ymdrech a’r gost sy’n perthyn i sefydlu coetir yn mynd yn ofer.

Mae canlyniadau'r arolygon plannu yn ein helpu i benderfynu ar nifer y coed newydd y mae angen inni eu harchebu o'r feithrinfa goed i'w plannu yn ystod y tymor plannu i gymryd lle'r rhai a fu farw. Ar ôl dau dymor o arsylwi, mae'n bosib gweld pa rywogaethau sy'n ffynnu ar bob safle a'r rhai a allai fod angen ychydig mwy o help. Mae arolygon plannu’n rhoi cyfle i ni adolygu llwyddiant y cynllun plannu a gwneud unrhyw welliannau yn ôl yr angen, ond er gwaethaf ein hymdrechion, weithiau bydd rhai rhywogaethau'n gwrthod cydio ar safle!
Eleni, gwnaed arolwg o dri safle yng Nghwmbiga a Chyffylliog, a blannwyd yn 2020, a Threfeglwys, a blannwyd ym mis Mawrth 2022.

Cwmbiga

Rydym yn falch iawn o sut mae'r safle hwn yn datblygu. Mae dwysedd y stoc bellach tua 90% o'r hyn rydyn ni'n gobeithio ei gyflawni. Roedden ni'n gallu gweld coed yn codi eu pennau uwchben y glaswellt gyda rhai o'r rhywogaethau llydanddail o gwmpas tua 2m mewn uchder. Fe wnaethon ni hefyd blannu sbriws Sitca a ffynidwydd Douglas, ac mae'r ddau yn edrych yn hapus iawn!

Cyffylliog

Yn y lleoliad hwn sydd ychydig yn fwy agored, plannwyd pedwar math o goed conwydd. Mae rhai, fel sbriws Norwy a sbriws Sitca yn tyfu’n dda. Fe wnaethon ni hefyd blannu pinwydd urddasol a phinwydd yr Alban. Mae pinwydd urddasol braidd yn araf yn cydio gyda chryn dipyn o fethiannau, fodd bynnag ar ôl blwyddyn o edrych braidd yn eiddil mae pinwydd yr Alban bellach yn tyfu’n dda. Gan mai dyma ein hail arolwg plannu, rydyn ni’n ystyried rhoi’r gorau i dyfu pinwydd urddasol a phlannu math gwahanol o binwydd na fydd yn cystadlu am olau gyda'r coed sefydledig. Bydd hyn yn ychwanegu amrywiaeth pellach i'r coetir gan ei wneud yn fwy gwydn. Mae golwg iach ar y coed llydanddail i gyd!

Trefeglwys

Wrth gynnal arolwg plannu, rydyn ni fel arfer yn cyfri nifer y coed marw neu goll mewn llain, ond eleni yn Nhrefeglwys fe wnaed pethau o chwith, gan gyfri’r rhai byw. I unrhyw goedwigwr neu reolwr tir mae hwn yn brofiad digalon. Roedd hi'n amlwg bod y tywydd hynod o boeth a sych y gwanwyn a'r haf yma wedi rhoi hoelen yn arch y coed oedd newydd eu plannu. Roedd arwyddion nodweddiadol straen gwres i’w gweld ar y coed oedd yn weddill. Er gwaethaf ein hymdrechion i roi dechreuad da i'n coed, allwn ni ddim rheoli'r tywydd. O ganlyniad, bydd cryn dipyn o blannu ar y safle hwn y gaeaf hwn i lenwi’r bylchau lle roedd y coed marw.

Mae'n anodd edrych ar fethiant y cnydau a pheidio ystyried effaith ein tywydd ar gyfraddau sefydlu. Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn gwbl amlwg a rhagwelir y bydd digwyddiadau tywydd yn y dyfodol yn dod yn fwy eithafol, gyda thywydd poethach a mwy o law; gall creu coetiroedd helpu i liniaru hyn drwy ddal a storio carbon a lleihau difrifoldeb digwyddiadau llifogydd.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru