Diweddariadau tywydd sych

Diweddariadau ar y tywydd sych a'r effeithiau y mae'n eu hachosi ledled Cymru.

2 Awst 2023 – Cymru wedi’i symud i statws ‘Arferol’ yn dilyn y mis Gorffennaf gwlypaf namyn dau ers dros ganrif

Ein statws

Mae amgylchedd naturiol Cymru wedi elwa o’r glawiad diweddar a’r tymheredd oerach a brofwyd ledled y wlad dros yr wythnosau diwethaf. Mae’r gwelliannau a welsom yn ein dangosyddion hydrolegol a dangosyddion eraill, gan gynnwys rhai amgylcheddol, wedi cadarnhau y gallwn yn awr symud Cymru gyfan o statws cyfnod estynedig o dywydd sych i statws arferol (o ran statws sychder).  

Mae statws arferol yn golygu bod y rhan fwyaf o'n dangosyddion o fewn yr ystodau disgwyliedig ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn ac nad oes unrhyw bryderon uniongyrchol ar gyfer cyflenwad dŵr neu ddefnyddwyr dŵr, yr amgylchedd, tir neu amaethyddiaeth mewn perthynas â chyfnod estynedig o dywydd sych / sychder. 

Fodd bynnag, mae’r cyfnod estynedig o dywydd sych a phoeth a gafwyd ym mis Mai a mis Mehefin yn golygu y gallai rhai problemau amgylcheddol lleol barhau, ac nid yw effaith dymor yr amodau cynhesach hynny ar ein cynefinoedd a’n rhywogaethau, ac ar sectorau fel amaethyddiaeth, wedi’u deall yn llwyr eto.

Cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd i gael eu safbwynt diweddaraf ar gyfer dalgylchoedd trawsffiniol yn Lloegr.

Sefyllfa o ran Dŵr

Er gwaethaf dechrau sych i fis Gorffennaf, mae Cymru wedi cael 208% o’i glawiad cyfartalog hirdymor (1981-2010) ar gyfer mis Gorffennaf.  Yn dilyn un o’r cyfnodau sychaf o ddau fis o fis Mai-Mehefin a gofnodwyd erioed, rydym bellach wedi profi’r trydydd Gorffennaf gwlypaf mewn dros 100 mlynedd, gyda dim ond 2012 a 1998 yn wlypach. Mae hyn yn golygu, o fis Mai-Gorffennaf (y tri mis diwethaf wedi’u cyfuno), ein bod bellach wedi cael 112% o'r glawiad cyfartalog hirdymor ar gyfer y cyfnod cyfatebol.

O ystyried natur ein systemau hydrolegol yng Nghymru, mae glawiad mis Gorffennaf yn golygu fod y rhan fwyaf o lifoedd afonydd wedi aros o fewn ystodau llif arferol i rai eithriadol o uchel dros yr ychydig wythnosau diwethaf, gyda chynnydd mewn lleithder pridd ac o ran ail-lenwi ein cronfeydd dŵr.  Er bod y rhan fwyaf o'n safleoedd dŵr daear o fewn yr ystodau arferol ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn, rydym yn dal i weld rhai lefelau dŵr daear yn is na'r lefelau arferol yn lleol (fel dalgylch Clwyd) gan ei bod yn cymryd peth amser i ddyfrhaenau ymateb i lawiad diweddar.

Ein hymateb

Byddwn yn lleihau ein hymateb (yn unol â’n cynllun sychder). Fodd bynnag, byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos, ac yn ymateb i unrhyw broblemau a allai godi pe bai'r amodau sych a phoeth yn dychwelyd yn y dyfodol.

Mae CNC yn parhau i annog pobl a busnesau i ddefnyddio dŵr yn ddoeth bob dydd, ac i fod yn ofalus wrth ymweld â’r awyr agored wrth i ni gydweithio i warchod ein hamgylchedd naturiol.

Parhewch i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol i'n llinell gymorth digwyddiadau 24/7 ar 0300 065 3000.

Dim ond os bydd newid arall mewn statws y bydd diweddariadau pellach yn cael eu gwneud i'r blog hwn. 

Rhagolwg

Mae'n debygol o aros yn ansefydlog trwy wythnos gyntaf mis Awst gyda systemau gwasgedd isel pellach yn dod â chyfnodau o law, cawodydd a gwyntoedd cryfion o'r Gorllewin. Wrth i ni symud i ganol mis Awst bydd yn dod ychydig yn fwy sefydlog wrth i wasgedd uchel adeiladu o'r De Orllewin. Mae stormydd mellt a tharanau trwm yn bosibl ar adegau trwy gydol mis Awst.

Gall pobl weld eu perygl llifogydd o afonydd neu’r môr ar wefan CNC a chael gwybod beth i’w wneud os ydych mewn perygl.

Os bydd pobl yn canfod eu bod mewn perygl o lifogydd o afonydd neu’r arfordir, gallant gofrestru ar gyfer y gwasanaeth rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim ar ein gwefan a chanfod pa gamau y gallant eu cymryd i baratoi.

Ewch i www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd am yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

 

20 Gorffennaf 2023 – Cymru yn aros ar statws cyfnod hir o dywydd sych, er gwaethaf rhywfaint o law

Ein statws

Er bod Cymru wedi profi cyfnodau o law dros yr wythnosau diwethaf, rydym heddiw (20 Gorffennaf 2023) wedi cadarnhau y bydd Cymru gyfan yn parhau ar statws ‘cyfnod hir o dywydd sych’ wrth i’r amgylchedd naturiol barhau i ddangos effeithiau yn dilyn y cyfnod sychaf rhwng Mai a Mehefin a gofnodwyd ers 1975.

Sefyllfa o ran Dŵr

Yn ôl y sefyllfa ar 17 Gorffennaf, mae Cymru wedi cael 85% o’r glawiad cyfartalog hirdymor ar gyfer mis Gorffennaf. Mae'r glawiad wedi amrywio o 58% yn nalgylch Dwyfor (gogledd-ddwyrain Cymru), i 109% yn nalgylch Conwy (gogledd Cymru). Mae lefelau lleithder y pridd hefyd wedi gwella ledled Cymru.

Yn dilyn glawiad diweddar, mae’r rhan fwyaf o lifoedd mewn afonydd wedi dychwelyd i’r lefel normal neu'n uwch na'r arfer, ac eithrio Clwyd, Erch, Cleddau Wen a rhannau o Afon Gwy sy'n is na'r disgwyl. O ran yr afonydd lle mae’r lefelau’n normal ar hyn o bryd, dim ond yn ystod y dyddiau diwethaf y maent wedi cyrraedd y lefelau hynny.

O ystyried bod dŵr daear yn ymateb yn arafach i law, mae gennym rai pryderon o hyd am lefelau mewn rhai ardaloedd ledled Cymru, yn enwedig yn nalgylchoedd Dyfrdwy Isaf, Clwyd a’r Cymoedd/Bro Morgannwg. 

Pryderon

Mae'r glawiad diweddar a'r tymheredd oerach wedi gwella'r sefyllfa gyda llai o bryderon am yr amgylchedd a thir, yn enwedig ar gyfer pysgodfeydd a pherygl tân. Fodd bynnag, mae'r cyfnod hir o dywydd sych a phoeth a gafwyd ym misoedd Mai a Mehefin yn golygu ein bod yn dal i brofi problemau mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys safleoedd/rhywogaethau gwarchodedig fel yn Ffeniau Ynys Môn. Mae lefelau dŵr daear yn dal yn isel mewn llawer o ardaloedd a gallai gymryd peth amser i’r lefelau adfer os nad yw Cymru’n cael digon o law dros y misoedd nesaf. Mae pryderon hefyd am amaethyddiaeth.

Ein hymateb

Mae ein timau sychder ledled Cymru yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd, gan ddilyn y camau gweithredu yng nghynllun sychder CNC. Rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac unrhyw effeithiau neu broblemau a allai ddod i'r amlwg pe bai'r amodau sych a phoeth yn dychwelyd dros yr wythnosau nesaf. Mae CNC hefyd yn annog pobl a busnesau i barhau i ddefnyddio dŵr yn ddoeth wrth inni symud i gyfnod gwyliau haf yr ysgolion.

Rhagolwg

Rydym yn disgwyl amodau oerach ansefydlog dros yr wythnos nesaf, a ddylai barhau i helpu’r sefyllfa.  Fodd bynnag, efallai y bydd amodau sychach a chynhesach yn dychwelyd o ddiwedd mis Gorffennaf ac i mewn i fis Awst. 

Er gwaethaf glawiad diweddar – os bydd yr amodau sychach/cynhesach yn dychwelyd, gallem weld effeithiau fel llifoedd isel mewn afonydd a thymheredd uchel ledled Cymru a chynnydd pellach o ran camau gweithredu yn unol â’n cynllun sychder.

Mae'r rhagolygon hydrolegol yn nodi bod llifoedd yr afonydd yn debygol o fod yn normal neu'n is na'r arfer dros fisoedd yr haf.

Rydym yn gweld tymereddau poethach nag erioed ar y tir ac yn nŵr y môr ledled Ewrop a rhannau eraill o’r byd. Teimlir yr effeithiau byd-eang hyn ar lefel leol, gan gyfrannu at y newidiadau yn ein patrymau tywydd ac effeithio ar yr amgylchedd yng Nghymru.

Rydym yn parhau i annog cydweithwyr ac aelodau’r cyhoedd i gymryd gofal ychwanegol tra byddant yn yr awyr agored, defnyddio dŵr yn gall bob dydd a gwneud newidiadau i’n bywydau bob dydd sy’n lleihau ein heffaith amgylcheddol.

Parhewch i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol i'n llinell gymorth digwyddiadau 24/7 ar 0300 065 3000

Dolenni defnyddiol:

www.ccw.org.uk/drought

Adnoddau dŵr | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)

Lefelau cronfeydd dŵr | Amdanom Ni | HD Cymru

6 Gorffennaf 2023 – Cymru’n profi’r mis Mai a Mehefin sychaf (cyfnod o ddau fis) ers 1975

Ein statws

Heddiw (6 Gorffennaf 2023) rydym wedi cadarnhau bod Cymru gyfan yn parhau i fod ar statws ‘cyfnod hir o dywydd sych’, yn dilyn y cyfnod Mai - Mehefin sychaf ers 1975.

Sefyllfa o ran Dŵr

Tra bod rhannau o Gymru wedi profi peth tywydd ansefydlog yn ddiweddar, rydym yn parhau i brofi cyfnod hir o dywydd sych.

Ym mis Mehefin, cafodd Cymru 55% o’i glawiad cyfartalog hirdymor (1981-2010). Roedd cyfanswm y glawiad ar gyfer mis Mehefin yn amrywio o 27% yn nalgylch Cymoedd y De-ddwyrain a Bro Morgannwg i 96% yn nalgylch Gogledd-orllewin Dysynni.

Roedd gan fis Mai a mis Mehefin gyfanswm cyfunol o 48% (cyfanswm cronnus dau fis) o’r glawiad disgwyliedig ledled Cymru – y cyfnod sychaf sy’n cyfateb i ddau fis ers 1975 a’r trydydd sychaf a gofnodwyd ers dros 100 mlynedd.

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi adrodd mai mis Mehefin oedd y poethaf a gofnodwyd erioed: Climate change impacts June temperature records - Met Office

Mae rhai llifoedd yn ein hafonydd wedi gwella o ganlyniad i'r tywydd ansefydlog diweddar - yn enwedig yn nalgylchoedd Gwynedd a Cheredigion.  Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o afonydd ar draws rhannau eraill o Gymru’n parhau’n isel am yr adeg o’r flwyddyn, ac mae Cleddau Wen, Tywi, Nedd, Wysg, Ebwy, Taf, Erch a Chlwyd yn eithriadol o isel.

Mae lefelau dŵr daear yn parhau i ostwng gyda rhai safleoedd fel Llanfair (dalgylch Clwyd) a Phont-hir (Cymoedd y De-ddwyrain a Bro Morgannwg) yn is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn.  Prin fu effaith unrhyw law a gafwyd dros yr wythnos ddiwethaf o ran ail-lenwi ffynonellau dŵr daear gan nad yw wedi para’n ddigon hir i oresgyn anweddiad a'r defnydd gan blanhigion, sy’n golygu nad yw wedi ymdreiddio’n effeithiol i'r ddaear.

Pryderon sy'n dod i'r amlwg

Rydym yn parhau i bryderu am y pwysau y mae’r cyfnod hir o dywydd sych yn ei roi ar yr amgylchedd, tir ac amaethyddiaeth ledled Cymru. 

Rydym yn parhau i gynghori pysgodfeydd a genweirwyr i gymryd gofal arbennig wrth bysgota am eogiaid pan fo tymheredd yr afon yn uchel ac i stopio pan fydd tymheredd y dŵr yn cyrraedd 20 gradd celsius. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: cyngor i bysgotwyr.

Rydym yn parhau i bryderu am y risg o danau gwyllt ac am safleoedd gwarchodedig, megis ffeniau, rhostiroedd, mawndiroedd a gwlyptiroedd (yn sychu) a'r rhywogaethau bregus hynny sy'n byw yn y safleoedd hyn.  Yn ogystal, mae gennym bryderon am golli coed ifanc a blannwyd y llynedd.

Os ydych chi’n gweld tân gwyllt, ewch i le diogel, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân.

Rydym yn annog ffermwyr i ddilyn y cyngor a ddarperir ar ein gwefan os oes ganddynt unrhyw bryderon yn ymwneud â thywydd sych.

Mae cwmnïau dŵr yn adrodd bod lefelau eu cronfeydd dŵr yn parhau’n dda ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn (gweler gwefannau eich cwmnïau dŵr lleol am eu sefyllfa ddiweddaraf). Rydym yn llwyr gefnogi eu cyngor i bawb ddefnyddio dŵr yn ddoeth drwy helpu i ddiogelu cyflenwadau dŵr a’r amgylchedd.

Mae gwefan Waterwise yn rhoi manylion ar sut i ddefnyddio dŵr yn ddoeth a byddant yn cynnal ymgyrch 'Gorffennaf Sych' gan nodi'r camau y gall busnesau a thrigolion eu cymryd.

Mae cwmnïau dŵr Cymru, Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) a Hafren Dyfrdwy (HD), hefyd yn cynnig cyngor i gwsmeriaid ar eu gwefannau ar sut i ddefnyddio dŵr yn ddoeth.

Pan fyddwch allan yn mwynhau'r awyr agored, cofiwch fod bywyd gwyllt ac ecosystemau dan fwy o straen. Dylai aelodau’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol i’r llinell gymorth 24/7 ar 0300 065 3000.

22 Mehefin 2023 – Cyhoeddwn dywydd sych estynedig ar gyfer Cymru gyfan

Ein statws

Heddiw (22 Mehefin 2023) rydym wedi cadarnhau symud o statws ‘normal’ i ‘dywydd sych estynedig’ ledled Cymru, yn dilyn y mis Mai sychaf ond un a gofnodwyd mewn 25 mlynedd.

Mae ein penderfyniad yn seiliedig ar ffactorau hydrolegol ac amgylcheddol ar yr adeg hon. Cafodd ein penderfyniad i gyhoeddi statws tywydd sych estynedig ei rhannu gyda Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, dan gadeiryddiaeth Llywodraeth Cymru ac sy’n cynnwys uwch benderfynwyr o CNC, y Swyddfa Dywydd, cwmniau dŵr a phartneriaid eraill.

Yr ardaloedd yng Nghymru y mae’r newid statws heddiw yn effethio arnynt yw:

  • Dyfrdwy
  • Hafren Uchaf
  • Gogledd Gwynedd (Conwy, Môn, Arfon, Dwyfor)
  • De Gwynedd (Meirionnydd)
  • Gogledd Ceredigion (Rheidol, Aeron, Ystwyth)
  • Teifi
  • Sir Benfro (Dwyrain a Gorllewin Cleddau)
  • Caerfyrddin (Tywi, Taf)
  • Abertawe a Llanelli (Tawe a Llwchwr)
  • Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr (Nedd, Afan ac Ogwr)
  • Afon Gwy
  • Afon Wysg
  • Y Cymoedd (Afonydd Taf, Ebwy, Rhymni, Elái)
  • Bro Morgannwg (Afon Ddawan)

Rydym yn ymgysylltu’n agos ag Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch y dalgylchoedd trawsffiniol.

Sefyllfa Dŵr

Ym mis Mai, derbyniodd Cymru 41% o’i glawiad cyfartalog tymor hir (CTH) (1981-2010), y mis Mai sychaf ond un yn y 25 mlynedd diwethaf, gyda 2020 yn unig yn sychach..  Gwnaeth y cyfansymiau glawiad ar gyfer mis Mai amrywio o 25% i 54% yn nalgylchoedd Conwy a Llŷn ac Eryri, yn y drefn honno.

At ei gilydd, derbyniodd misoedd Ebrill a Mai 65% (dau fis cronnol) o’r glawiad disgwyliedig – gan ein rhoi mewn sefyllfa debyg i’r llynedd o ran y cyfnod cyfatebol hwn. Derbyniodd y cyfnod o fis Mawrth i fis Mai (tri mis cronnol) 110% o’r CTH, o ganlyniad i fis Mawrth gwlyb yn 2023 yn torri record.

Hyd at 18 Mehefin 23, bu glawiad mis Mehefin 29% o’r hyn a ddisgwylir ar gyfer y mis hyd yma.

Er gwaethaf stormydd taranau diweddar, mae llifoedd afonydd ar draws Cymru hefyd yn isel gan gynnwys Tywi, Castell-nedd, Brynbuga, Ebwy, Dwyfor, Conwy a Chlwyd. Mae lefelau dŵr daear yn cilio gyda rhai safleoedd fel Llanfair (dalgylch Clwyd) yn is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn.

Mae gwybodaeth am lefelau cronfeydd dŵr ar gyfer Dŵr Cymru, ar gael yma ac ar gyfer Hafren Dyfrdwy, yma.

Pryderon

Rydym yn pryderu am y pwysau mae tymereddau uchel a diffyg glawiad sylweddol wedi’u rhoi ar afonydd, lefelau dŵr daear, bywyd gwyllt a’r amgylchedd naturiol ehangach ledled Cymru. Rydym eisoes yn delio ag effeithiau tywydd sych estynedig ar yr amgylchedd, gan gynnwys adroddiadau o ordyfiant algâu a physgod yn dioddef. Mae pryderon am bysgod yn cael eu dal mewn pyllau mewn rhannau isaf afonydd oherwydd llifau isel a thymereddau uwch afonydd. Rydym yn cynghori pysgodfeydd a physgotwyr i gymryd gofal ychwanegol wrth bysgota am eogiaid mewn tymereddau uchel, ac i stopio pan fo tymereddau’r dŵr yn cyrraedd 20 gradd celsiws. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: cyngor i bysgotwyr

Rydym yn rhoi cefnogaeth i wasanaethau tân ac achub i fynd i’r afael â digwyddiadau lluosog o danau gwair a thanau gwyllt ar y tir mae’n ei reoli. Gall rhai ardaloedd hefyd fod â risg uwch o danau. Os gwelwch chi dân gwyllt, ewch i le diogel, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân.

Mae pryderon hefyd am y sector amaethyddol gan fod y tywydd sych estynedig yn effeithio ar dyfiant cnydau a gwair. Rydym yn argymell ffermwyr i ddilyn y cyngor ar ein gwefan os oes ganddyn nhw bryderon gyda’r tywydd sych.

Yn dilyn gaeaf gwlyb, mae cwmniau dŵr yn adrodd bod lefelau eu cronfeydd dŵr mewn cyflwr da ar gyfer adeg y flwyddynMae  gwefan  Waterwise yn rhoi manylion ar sut i ddefnyddio dŵr yn ddoeth. Mae cwmniau dŵr Cymru, Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) a Hafren Dyfrdwy (HD), hefyd yn cynnig cyngor i gwsmeriaid ar eu gwefannau ar sut i arbed dŵr.

Wrth fwynhau eich amser yn yr awyr agored, cofiwch fod bywyd gwyllt ac ecosystemau o dan fwy o straen. Dylai aelodau’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol i’r llinell gymorth 24/7 drwy ffonio 0300 065 3000.

Os byddwch yn mynd i gyrsiau dŵr i badlo, ystyriwch y cyngor gan Canŵ Cymru https://www.canoewales.com/drought-advice-to-paddlers

Diffinio sychder

Tra bo gwahanol lefelau, graddfeydd a diffiniadau o sychder, caiff pob sychder ei nodweddu gan brinder glawiad i ryw radd. Mae pob sychder yn wahanol a’i natur, ei amseriad a’i effeithiau yn amrywio yn ôl y lleoliad a pha sectorau yr effeithir arnynt. Rydym yn diffinio tri math o sychder (a all ddigwydd yr un pryd):

  • Sychder amgylcheddol – llifau isel a gostyngiad mewn lleithder pridd yn effeithio ar ystod o gynefinoedd a rhywogaethau. Gall sychderau o’r math hwn arwain at effeithiau tymor hir sylweddol os byddan nhw’n para am gyfnod estynedig.
  • Sychder amaethyddol – diffyg dŵr ar gael ar gyfer dyfrhau a gostyngiad mewn lleithder pridd yn effeithio ar gynnyrch (a / neu ansawdd) cnydau a lles da byw.
  • Cyflenwad dŵr – gostyngiad mewn argaeledd dŵr ar gyfer cyflenwad cyhoeddus trwy ostyngiad mewn llifau afonydd, storfeydd cronfeydd dŵr neu ddŵr daear.

Mae gan unrhyw gyfuniad o’r rhain hefyd y potensial o effeithio ar iechyd a lles pobl yn ogystal â chael effeithiau amgylcheddol ac economaidd.

Rhan o’n swydd ni yw monitro’r sefyllfa hydrolegol ac ecolegol, monitro a rheoleiddio cwmniau dŵr a chasglu gwybodaeth am effeithiau ehangach tywydd sych. Gan ddefnyddio hyn, rydym yn dosbarthu sychderau yn bedwar cam:

  • Arferol – Dangosyddion o fewn ystodau disgwyliedig ar gyfer adeg y flwyddyn, gall gynnwys cyfnodau byr o lifau isel a gostyngiad mewn argaeledd dŵr.
  • Tywydd sych estynedig – Dangosyddion yn amlygu lefelau afon a glawiad isel estynedig ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn, gostyngiad mewn lleithder pridd, cynnydd mewn adroddiadau o effeithiau ar ecosystemau, tir, cyflenwad dŵr neu sectorau eraill.
  • Sychder – Cyfnod sylweddol o lefelau afon isel a phrinder glawiad. Effeithiau arwyddocaol ar ecosystemau a phwysau ar y sector amaethyddol. Straen uchel ar y system gyflenwi dŵr gyda chyfyngiadau llym yn bosibl.
  • Adferiad o sychder – Dychwelyd i ystodau arferol ar gyfer adeg y flwyddyn. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y sychder a fu, gall y bydd difrod amgylcheddol, gostyngiad mewn cynnyrch amaethyddol neu gyfyngiadau ar ddefnydd dŵr o hyd.

Mae gan gwmniau dŵr eu cynlluniau sychder eu hunain sydd ar gael i’r cyhoedd. Gall eu statws sychder amrywio hefyd. Yn nodweddiadol, maen nhw’n defnyddio’r camau ‘arferol’, ‘sychder yn datblygu’, ‘sychder’ a ‘sychder difrifol’ a byddan nhw’n defnyddio’u trothwyon eu hunain i ddiffinio’u safle, yn aml yn gysylltiedig â’u safle o ran cyflenwad.

Beth ydym ni’n ei wneud?

Unwaith y caiff tywydd sych estynedig ei gyhoeddi, mae CNC yn cynyddu eu camau gweithredu i helpu i liniaru’r effeithiau ar yr amgylchedd, tir, defnyddwyr dŵr a phobl. Mae’r camau hyn yn cynnwys:

  • Gwella ei waith monitro a chynyddu nifer yr archwiliadau mewn lleoliadau pwysig.
  • Sicrhau bod cwmnïau dŵr yn dilyn eu cynlluniau sychder (wedi eu deddfu) ac yn paratoi at unrhyw fesurau ychwanegol yn ôl y gofyn.
  • Sicrhau bod cynlluniau rheoleiddio yn gweithredu i gefnogi tynnu dŵr a’r amgylchedd.
  • Sicrhau bod tynwyr dŵr yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded, nifer ohonynt yn cyfyngu ar faint y gellir ei dynnu yn ystod cyfnodau llif isel.
  • Ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol a chymryd y camau gorfodi priodol yn ôl y gofyn.
  • Darparu cyngor ac arweiniad megis cyngor tywydd sych i ffermwyr.
  • Ymgysylltu â Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd (trawsffiniol) a phartneriaid eraill.

Os byddwn ni’n mynd i gam sychder, bydd ein camau gweithredu yn cynyddu eto ac yn cynnwys gweithgareddau megis ymateb i geisiadau trwydded a gorchymyn sychder neu weithredu cyfyngiadau pellach ar ddefnyddwyr dŵr, megis dyfrhawyr chwistrellu.

26 Ionawr 2023

Rydym wedi symud o statws 'adferiad o sychder' i statws 'normal' (o ran statws sychder) ar draws Cymru gyfan.

Mae hyn yn golygu bod ein dangosyddion hydrolegol o fewn ystodau disgwyliedig ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn, heb unrhyw bryderon ar hyn o bryd am effeithiau tywydd sych/sychder hir i gyflenwad dŵr, yr amgylchedd, amaethyddiaeth na defnyddwyr dŵr ledled Cymru.

Cyfeiriwch at Asiantaeth yr Amgylchedd am eu safle diweddaraf am ddalgylchoedd ar draws ffiniau o fewn Lloegr.

-----------------------------------------------------------------------------------------

24 Tachwedd 2022
Nid yw’r Hafren Uchaf bellach mewn statws sychder

Rydym ni wedi cadarnhau heddiw bod dalgylch Hafren Uchaf, yr ardal olaf yng Nghymru i fod mewn statws ‘sychder’ bellach wedi cael ei newid i statws ‘adfer ar ôl sychder’. Mae’r newid mewn statws yn adlewyrchu effaith glawiad cyson ar y dalgylch gyda llif afonydd yn parhau i fod ar lefelau cyson yn ôl y disgwyl ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn (gan gynnwys llif sylfaenol), a bod y risg o reoleiddio’r afon dros y gaeaf (rhyddhau dŵr o’r gronfa ar gyfer yr amgylchedd) wedi lleihau’n sylweddol.

Ar gyfer y mis hwn hyd yma (hyd at 21 Tachwedd), mae Cymru wedi derbyn 95.8% o’r glawiad cyfartalog hirdymor, gan amrywio o 75.6% ym Mawddach i 126.9% ym Mrynbuga – mae’r ardal o gwmpas yr Hafren Uchaf wedi derbyn 82.1%. Rydym ni wedi gweld glawiad bron iawn bob dydd yn ystod y mis hwn, ac mae saith o’r dyddiau (allan o 21) wedi derbyn cyfanswm o dros 10mm ar gyfartaledd ar draws Cymru.

Mae’r statws ‘adfer ar ôl sychder’ yn adlewyrchu’r ffaith bod rhai pryderon yn dal i fod mewn ardaloedd lleol (megis lefelau dŵr daear isel), ond wrth i’r pryderon hyn leihau, byddwn yn newid yr ardaloedd yn ôl i’r statws sychder ‘arferol’. Nid yw hynny’n golygu na fydd effeithiau hirdymor ar ecosystemau; yn hytrach, mae’n golygu bod yr achos hwn o sychder wedi do di ben Byddwn yn parhau â’n gwaith monitro hydrolegol ac ecolegol rheolaidd wrth nesáu at y gwanwyn gan fod y misoedd hynny’n gyfnod critigol o ran sychder ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Ni fyddwn yn rhoi rhagor o ddiweddariadau ar y dudalen hon, ac os byddwn yn profi cyfnodau hir o sychder y flwyddyn nesaf, byddwn yn darparu lle ar wahân ar gyfer diweddariadau.

10 Tachwedd 2022
Adferiad i ran fwyaf o ardaloedd Cymru yn dilyn sychder

Rydym ni wedi cadarnhau heddiw ein bod wedi newid statws De Ddwyrain Cymru a Gogledd Cymru, yn ogystal â De Orllewin Cymru, o ‘sychder’ i ‘adfer ar ôl sychder’ – ac eithrio dalgylch Hafren Uchaf. Dalgylch Hafren Uchaf yw’r unig ddalgylch yng Nghymru sy’n dal i fod mewn ‘sychder’. Mae hyn o ganlyniad i bryderon o fewn y dalgylch ac effeithiau trawsffiniol y cyfnod hir o dywydd sych ar y dalgylch, ac rydym yn ymgysylltu gydag Asiantaeth yr Amgylchedd am hyn.

Daw hyn ar ôl cyfnod o law cyson drwy gydol mis Medi, Hydref a mis Tachwedd (hyd yma). Yn ystod mis Medi - Hydref, derbyniodd Cymru 104.3% o’r glawiad cyfartalog hirdymor ar gyfer y cyfnod (gan amrywio o 88.1% yn y Cymoedd a Bro Morgannwg i 139.7% yn Llŷn ac Eryri). Yn ystod yr un cyfnod, cafwyd >10mm o law (ar gyfartaledd ar gyfer Cymru) ar 11.5% o’r dyddiau, gyda’r ffigwr hwn yn fwy arwyddocaol yn lleol (27.9% o ddyddiau yng Nglaslyn / Dwyryd). Ym mis Tachwedd hyd yma (ar 8 Tachwedd), rydym ni wedi derbyn 54.4% o’r glawiad cyfartalog hirdymor ar gyfer Cymru, gan amrywio o 36.6% yn ardal Dyfrdwy i 83.1% ym Mrynbuga.

O ystyried natur ein systemau hydrolegol yng Nghymru, mae’r glawiad parhaus hwn wedi golygu bod llif y rhan fwyaf o afonydd wedi cyrraedd eu lefelau arferol neu’n uwch na hynny’n gyson dros yr wythnosau diwethaf, gyda chynnydd mewn lleithder pridd a’r cronfeydd dŵr yn ail-lenwi. Er ein bod yn dal i weld rhai lefelau dŵr daear isel yn lleol, ceir arwyddion o adferiad - yn dilyn cyfnod mor sych, gall dyfrhaenau gymryd amser i ddychwelyd i ystodau arferol.

Er bod newid statws y rhan fwyaf o Gymru o ‘sychder’ i ‘adfer ar ôl sychder’ yn newyddion calonogol, mae rhai poblemau’n dal i godi mewn ardaloedd lleol, ac nid yw’r effeithiau hirdymor ar gynefinoedd a rhywogaethau wedi’u gwireddu’n llawn hyd yma. Byddwn yn parhau i fonitro ac ymateb i’r sefyllfa lle bo problemau lleol (gan gynnwys ar draws y ffin) ac i ddeall y problemau hirdymor, ond bydd ein sylw nawr heb os yn troi at adolygu sychder eleni.

27 Hydref 2022
Adferiad yn y De Orllewin

Rydym ni wedi cadarnhau heddiw ein bod wedi newid statws De Orllewin Cymru o ‘sychder’ i ‘adfer ar ôl sychder’. Mae hyn yn golygu bod mwyafrif ein dangosyddion yn dangos lefelau arferol neu’n agos ar fod yn arferol am yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o effeithiau/pryderon lleol. Byddwn yn parhau i fonitro ein sbardunau hydrolegol (megis glawiad a llif afonydd) ac unrhyw effeithiau eraill gan adolygu’r wybodaeth a’r rhagolygon diweddaraf.

*Mae hyn yn effeithio ar yr ardaloedd canlynol

 

  • Gogledd Ceredigion (Rheidol, Aeron, Ystwyth)

 

  • Teifi

 

  • Sir Benfro (Cleddau Dwyreiniol a Gorllewinol)

 

  • Caerfyrddin (Tywi a’r Taf)

 

  • Abertawe a Llanelli (Tawe a’r Llwchwr)

Mae gweddill Cymru (De Ddwyrain, Gogledd a’r Hafren Uchaf) yn dal i fod o dan statws sychder.

De Orllewin Cymru oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i gyhoeddi statws sychder ym mis Awst o ganlyniad i effeithiau’r cyfnod estynedig o dywydd sych ar yr amgylchedd, amaethyddiaeth a chyflenwad dŵr ar draws y rhanbarth.

Cafwyd toriad yn y cyfnod sych ym mis Medi gyda glaw yn ystod yr wythnos gyntaf, gyda chyfnod mwy sefydlog i ddilyn. Cafwyd cyfnod o dywydd ansefydlog unwaith eto tua diwedd y mis sydd wedi parhau. Ers 1 Medi, mae’r rhanbarth wedi gweld glaw ar 82% o’r dyddiau, gyda glawiad o fwy na 5mm (ar gyfartaledd ar draws yr ardal) i’w weld ar 33% o’r dyddiau. Gwelodd y De Orllewin 115% o’r glawiad cyfartalog hirdymor ar gyfer mis Medi (cyfartaledd 1981 – 2010), a hyd yma ym mis Hydref (hyd at y 25ain) mae’r ardal wedi gweld 77% o’r cyfartaledd hirdymor.

Mae’r glawiad cyson wedi arwain at gynyddu lleithder y pridd a llif afonydd (gan gynnwys llif gwaelodol), gan gynnig buddion i’r amgylchedd a rheolaeth tir (gan gynnwys llifeiriant i’n hafonydd yn ystod cyfnod allweddol i bysgod sy’n mudo). Mae cronfeydd dŵr yn yr ardal wedi dangos tystiolaeth o ail-lenwi yn ystod y cyfnod. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y cyfnod o sychder yn arwain at effeithiau mwy hirdymor ar yr amgylchedd a sectorau eraill a byddwn yn defnyddio ein rhaglen fonitro i asesu effeithiau posibl o’r flwyddyn hon.

Mae Dŵr Cymru wedi codi’r gwaharddiad defnydd dros dro yn Sir Benfro yr wythnos hon, ond maen nhw’n dal i atgoffa cwsmeriaid i ddefnyddio dŵr yn ddoeth wrth i gronfeydd  ail-lenwi yn yr ardal.

Mae lefelau dŵr daear yn dal i fod yn isel ond gellir gweld tystiolaeth o adferiad ar rai o’r safleoedd, er nid pob un, yn y De Orllewin. Yn ôl y disgwyl, bydd mwy o amser nes y byddwn yn gweld unrhyw adferiad arwyddocaol mewn lefelau dŵr daear, ond mae’r arwyddion yn bositif. Rydym ni’n ymwybodol bod hyn yn effeithio ar gyflenwadau dŵr preifat, ac rydym wedi derbyn tystiolaeth anecdotaidd gan ffermydd lle mae tyllau turio yn dal i fod yn sych. Byddwn yn dal i fonitro hyn drwy gydol y cyfnod adfer gan y bydd yn un o’r dangosyddion a fydd yn llywio’r penderfyniad i ddychwelyd i’r statws Normal. Wrth i lefelau dŵr daear wella, rydym ni’n atgoffa unrhyw un sydd â chyflenwad preifat i gysylltu gyda’r awdurdod lleol os oes unrhyw bryderon.

Mae afonydd y Gogledd a’r Hafren Uchaf wedi ymateb yn dda i lawiad ac mae nifer o gronfeydd wedi dechrau ail-lenwi’n dda – fodd bynnag, mae nifer o’r ffynonellau mawr a rennir yn dal i fod yn isel ac mae rhai dyfrhaenau’n dal i fod yn isel iawn. Mae pryderon ynglŷn â’r amgylchedd a/neu gyflenwadau dŵr yn parhau yn yr ardal hon, yn enwedig ar gyfer dalgylchoedd Clwyd, Dyfrdwy Isaf, Hafren Uchaf ac Ynys Môn.

Mae’n ddarlun tebyg yn Ne Ddwyrain Cymru, sydd wedi derbyn llai o lawiad na gweddill Cymru, gyda lefelau cronfeydd a dŵr daear yn isel (gyda’r ddyfrhaen yn dal heb ddangos adferiad a rhai lefelau ar eu hisafswm misol neu’n symud tuag at hynny). Felly mae pryderon o hyd ynglŷn â chyflenwad dŵr a phryderon lleol am yr amgylchedd. Rydym ni’n annog y cyhoedd i roi gwybod i ni am unrhyw ddigwyddiadau.

5 Hydref 2022

Y cyfnod saith mis sychaf a gofnodwyd erioed

Mae statws sychder o hyd ym mhob rhan o Gymru.

Rhwng mis Mawrth a mis Medi dim ond 63.8% o'i glawiad disgwyliedig gafodd Cymru – y cyfnod saith mis sychaf mewn 150 mlynedd (yn seiliedig ar ddata dros dro). Mae hyn yn golygu bod y saith mis diwethaf gyda'i gilydd wedi bod yn sychach nag unrhyw gyfnod cyfatebol arall, gan gynnwys 1995 a 1976.

Ym mis Medi cafwyd glaw unwaith eto ledled Cymru. Cafodd Cymru 99.5% o'i glawiad misol cyfartalog. Er hynny, roedd dosbarthiad y glaw yn amrywio o 68.9% ar gyfer y Cymoedd a Bro Morgannwg i 133.1% yn Sir Benfro.

Rydym wedi gweld dalgylchoedd mewn rhannau o Gymru, fel Glaslyn, Dwyfor, Teifi, Cleddau, Nedd a Thaf yn ymateb yn dda i'r glaw lle mae'r llif wedi dychwelyd i'r lefel arferol ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn. Fodd bynnag, rydym yn dal i brofi llifoedd hynod neu eithriadol o isel yn nalgylchoedd Clwyd, Dyfrdwy Isaf, Ewenni, Ebwy, Wysg a rhannau o Afon Gwy.

Mae dŵr daear yn parhau i fod yn isel ledled Cymru ac mae'r cwmnïau dŵr yn parhau i fonitro storfeydd eu cronfeydd dŵr.

Pryderon

Er gwaethaf y glawiad dros yr wythnosau diwethaf, nid yw wedi bod yn ddigon i leddfu effeithiau'r cyfnod hir o dywydd sych / sychder dros y misoedd diwethaf ar draws Cymru. O ganlyniad, mae pryderon o hyd am yr ecosystemau a'r cynefinoedd o gwmpas ein hafonydd, cyflenwadau dŵr, rheoli tir ac amaethyddiaeth o amgylch rhannau o Gymru. Mae gennym bryderon penodol ar gyfer dalgylchoedd Hafren Uchaf, Dyfrdwy, Clwyd, Gwy ac Wysg o ran ymfudiad pysgodfeydd.

Beth ydym yn ei wneud?

Rydym yn parhau i ddwysáu ein hymateb i reoli effeithiau sychder ac yn helpu i gydbwyso anghenion defnyddwyr dŵr a'r amgylchedd ledled Cymru. Mae ein timau’n monitro'r sefyllfa'n agos ac yn ymateb i ddigwyddiadau ac yn gweithredu yn ôl y galw. Rydym yn parhau i atgoffa pobl i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau fel afonydd sy'n mynd yn sych neu bysgod mewn gofid i'n llinell gymorth 24 awr ar 0300 065 3000.

Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd agos â Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd o ran materion trawsffiniol, cwmnïau dŵr a sectorau eraill ynglŷn ag unrhyw effeithiau sy'n dod i'r amlwg mewn perthynas â’r amgylchedd, amaethyddiaeth, a chyflenwad dŵr.

Mae nifer o afonydd a reoleiddir yng Nghymru sydd â chytundebau gweithredu gyda'r cwmnïau dŵr (ac Asiantaeth yr Amgylchedd ar afonydd trawsffiniol) i helpu i gefnogi gwaith tynnu dŵr ohonynt. Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn unol â'r cytundebau hyn i amddiffyn yr ecosystemau lle gallwn.

Mae'r Gwaharddiad Defnyddio Dros Dro yn parhau i fod ar waith ar gyfer cwsmeriaid yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin. Rydyn ni'n hoffi atgoffa pobl i barhau i ddefnyddio dŵr yn ddoeth yn ogystal â sicrhau eu bod yn dal i yfed digon. I gael cyngor ar arbed dŵr, cysylltwch â'ch cwmni dŵr lleol.

Os oes gan unrhyw un bryderon am iechyd, cysylltwch â Iechyd Cyhoeddus Cymru neu ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat, cysylltwch â'r cyngor lleol yn gyntaf.

Rhagolwg

Nad oes dangosydd cryf y byddwn yn gweld glaw sy'n agos at y cyfartaledd o fewn Cymru dros y tri mis sydd i ddod.

Bydd angen i ni weld glawiad parhaus neu uwch na'r cyfartaledd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i weld unrhyw wahaniaeth gwirioneddol o ran adfer lefelau afonydd, dŵr daear a chronfeydd dŵr. Os na welwn ni'r glawiad hwnnw, gallwn ddisgwyl i lawer o ardaloedd aros mewn cyflwr o sychder.

22 Medi 2022
Glaw, ond dim digon (am y tro)

Er gwaethaf y glaw diweddar, mae statws Sychder o hyd ym mhob ardal o Gymru. Mae pob rhan o Gymru wedi cael rhywfaint o law dros y tair wythnos diwethaf, gyda Chymru gyfan yn derbyn 62% o’r glawiad cyfartalog tymor hir ar gyfer y mis hyd yn hyn (erbyn yr 20fed). Mae hyn yn amrywio'n sylweddol o 91.6% yn Sir Benfro i 40.6% ar Ynys Môn. Er bod y glaw diweddar wedi gwlychu wyneb y ddaear, ac y bydd rhywfaint ohono wedi mynd i gyrsiau dŵr wyneb, bydd angen cryn dipyn o law cyn i ddŵr ddechrau treiddio i lawr drwy'r priddoedd i adfer lefelau dŵr daear a llifo i afonydd. Rydyn ni wedi gweld hyn dros y pythefnos diwethaf gydag afonydd yn ymateb i'r glawiad ac yn gostwng yn gymharol gyflym gyda mwyafrif yr afonydd yn ôl i'r lefelau sy'n is na'r arfer. Ymhlith y llifoedd sy'n dal i fod yn 'eithriadol o isel' ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn mae Afon Gwy (yn Redbrook), Ogwr (Pen-y-bont), Ewenni (Keepers Lodge), afonydd y Cymoedd, rhannau o afon Dyfrdwy a Chlwyd (Pont y Cambwll).

Mae lefelau dŵr daear a chronfeydd dŵr ar draws Cymru hefyd yn parhau'n isel, a bydd angen cyfnodau rheolaidd o law dros fisoedd yr hydref i ddechrau adfer yn iawn. Bydd yn cymryd peth amser felly cyn i adnoddau adfer yn llwyr yn sgil y sychder. Efallai y byddwn yn gweld rhai sectorau neu ardaloedd yn adfer yn gyflymach; fodd bynnag, bydd eraill yn parhau i deimlo’r effeithiau – bydd cyflenwadau dŵr cyhoeddus yn cymryd amser i adfer yn llawn, mae gwaharddiadau defnydd dros dro yn parhau i fod ar waith, a gallai amodau ar drwyddedau tynnu dŵr i leihau neu roi'r gorau i dynnu dŵr barhau i fod mewn grym am beth amser i mewn i'r hydref. Mae'n bwysig ein bod i gyd yn parhau i ystyried ein defnydd o ddŵr yn ofalus, gan ddefnyddio dŵr yn effeithlon a bod tynwyr dŵr yn tynnu’r dŵr sydd ei angen arnynt a dim mwy.

8 Medi 2022
Statws sychder yn cael ei ymestyn i weddill Cymru

Mae CNC wedi ymestyn ei ddatganiad o statws sychder i weddill Cymru.  Mae hyn yn golygu bod statws sychder ym mhob rhan o Gymru.

Rhwng mis Mawrth a mis Awst, dim ond 56.7% o'r glawiad disgwyliedig gafodd Cymru – y cyfnod chwe mis sychaf ond dau ers dechrau cadw cofnodion ym 1865 (yn seiliedig ar ddata dros dro). Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cadarnhau mai'r haf hwn fydd yr wythfed cynhesaf yng Nghymru ers 1884. 

Ym mis Awst yn unig, dim ond 38% o'i glawiad misol cyfartalog gafodd Cymru. Yn ystod dyddiau cyntaf mis Medi mae glaw wedi dychwelyd ledled Cymru.  Yn ôl y sefyllfa ar 6 Medi, roedd Cymru wedi cael 34% o'r glawiad cyfartalog tymor hir ar gyfer y mis hwn hyd yn hyn (yn amrywio o 14.5% yn nalgylch Clwyd i 56.5% yn nalgylch Cleddau).

Rydym wedi gweld dalgylchoedd ledled Gogledd Cymru yn derbyn rhwng 54.3% (Dyfrdwy) a 75.4% (Dwyfor) o’r glawiad disgwyliedig dros y chwe mis diwethaf.   Er i rannau o Ogledd Cymru brofi glaw trwm yn ddiweddar, mae'r dalgylchoedd dwyreiniol wedi gweld llai nag 20% o lawiad cyfartalog mis Medi hyd yn hyn.  Mae llifoedd yr afonydd yn nalgylchoedd Clwyd a Dyfrdwy yn parhau i fod yn isel ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn, fel y mae lefelau dŵr daear hefyd yn yr ardal hon. Felly, nid yw'r glawiad diweddar wedi bod yn ddigon i leddfu effeithiau'r cyfnod hir o dywydd sych dros y misoedd diwethaf yn y rhannau hyn o Gymru. 

Rydym wedi cymryd yr amser i ystyried effeithiau'r diffyg glaw dros y chwe mis diwethaf ar ein dyfroedd a'r amgylchedd lleol ac mae pryderon am yr ecosystemau a'r cynefinoedd, cyflenwadau dŵr, rheolaeth ar y tir ac amaethyddiaeth yn enwedig yn nalgylchoedd Dyfrdwy a Chlwyd.  Mae sychder o hyd yn y De Orllewin, y De Ddwyrain a’r Canolbarth hefyd.

Mae ein timau ar draws Cymru’n monitro'r sefyllfa'n agos ac yn cyflawni ein camau gweithredu yn unol â'n cynllun sychder. Rydym yn atgoffa pobl i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol fel afonydd sy'n sychu neu bysgod sydd mewn gofid i'n llinell gymorth 24 awr ar 0300 065 3000.

25 Awst 2022

Ymestyn y statws sychder i gynnwys De Ddwyrain Cymru a rhannau uchaf Afon Hafren

Mae CNC wedi ymestyn y datganiad o statws Sychder i ardal De Ddwyrain Cymru a dalgylch uchaf afon Hafren*. Rydym ni’n derbyn ac yn ymateb i nifer cynyddol o adroddiadau o afonydd sych, problemau ansawdd dŵr (megis llai o ocsigen tawdd), pysgod mewn perygl ac effeithiau ar gynefinoedd sy’n ddibynnol ar ddŵr (yn ogystal â chynnydd yn nifer y tanau). Ceir pryder hefyd ar gyfer y sector amaeth yn y tymor byr a’r tymor hir. Mae Dŵr Cymru wedi cyflwyno gwaharddiad dros dro (a elwir hefyd yn waharddiad ar ddefnyddio pibelli dŵr) yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gâr.

Hyd at 23 Awst, roedd Cymru wedi gweld 36% o’r glawiad cyfartalog tymor hir ar gyfer mis Awst i gyd (gan amrywio o 22.1% yn Sir Benfro i 58% yn Ogwen). Mae ardal rheoli sychder CNC yn Ne Ddwyrain Cymru wedi gweld 30.7% o’r glawiad cyfartalog gyda rhan uchaf yr Hafren yn derbyn 31.1%. Er nad yw hynny’n torri unrhyw record ynddo’i hun, mae’n arwyddocaol wrth ystyried ein bod wedi cael pum mis o lawiad is na’r cyfartaledd a dwy don wres. Yn ogystal, mae llawer o’r glawiad wedi bod yn lleol ac yn drwm, gan syrthio ar briddoedd sych ac arwain at ddŵr ffo.

Mae’r glawiad dros yr wythnos ddiwethaf wedi achosi i rai afonydd adfer rhywfaint, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn is na’r disgwyl am yr adeg hon o’r flwyddyn – gyda rhai ohonynt yn dal i fod yn eithriadol o isel gan gynnwys Alyn, Ceiriog, Colwyn, Erch, Gwy, Wysg ac Ebw.

Tra bo Gogledd Cymru a gweddill y Canolbarth yn parhau i fod yn y statws cyfnod hir o dywydd sych, mae CNC yn parhau i fonitro rhannau eraill o Gymru’n agos lle mae pryderon am lif isel ac am yr amgylchedd yn parhau.

*Dyma’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn y De-ddwyrain a’r Canolbarth:

  • Rhannau uchaf Afon Hafren
  • Afon Gwy
  • Afon Wysg
  • Y Cymoedd (Afonydd Taf, Ebwy, Rhymni, Elái)
  • Bro Morgannwg (Afon Ddawan)

18 Awst 2022

Rydym yn datgan statws sychder ar gyfer rhannau o Gymru

Rydym yn monitro ein sbardunau hydrolegol yn barhaus (fel glawiad a llif afonydd) ac effeithiau'r tywydd sych (gan gynnwys ar ein hecosystemau, cyflenwad dŵr, amaethyddiaeth a mordwyo). Wrth adolygu'r holl wybodaeth ddiweddaraf a’r rhagolygon rydym wedi symud i statws 'Sychder' ar gyfer De-orllewin Cymru*. Er bod rhai sbardunau wedi’u cwrdd mewn mannau eraill, rydym o'r farn bod gweddill Cymru’n parhau i fod ar statws 'cyfnod hir o dywydd sych'. Mae ein timau'n parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos, ymateb i ddigwyddiadau a chymryd camau gweithredu yn ôl y galw. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â Llywodraeth Cymru, y cwmnïau dŵr a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd ynglŷn â materion ar draws y ffin.

Am y pum mis diwethaf (Mawrth - Gorffennaf) cawsom 61% o’r glaw cyfartalog yng Nghymru; yr unig gyfnodau sychach eraill yn yr 20fed ganrif oedd 1984 a 1976. Dros y pythefnos diwethaf rydym wedi cael cyfnod o dywydd poeth arall a chawodydd taranllyd sydd wedi achosi rhywfaint o lifogydd dŵr wyneb lleol. Am y mis hwn hyd yn hyn, rydym wedi cael 22.8% o’r glawiad cyfartalog ar gyfer mis Awst (yn amrywio o 8.5% yn Sir Benfro i 45.5% yn Ogwen). Ddechrau'r wythnos roedd afonydd ar draws Cymru'n dal yn eithriadol o isel am yr adeg o’r flwyddyn, gan gynnwys Alun, Conwy, Clwyd, Taf, Teifi, Ewenni, Gwy, Wysg ac Ebwy. Achosodd y glawiad dros y dyddiau diwethaf i rai afonydd godi, ond mae'r rhain eisoes yn cilio. 

Mae gennym bryderon am yr amgylchedd, amaethyddiaeth, mordwyo a chyflenwi dŵr ledled Cymru - yn ogystal â risg uwch i lesiant pobl.  Rydym yn parhau i dderbyn adroddiadau am afonydd yn sychu a physgod sydd mewn trafferthion neu wedi’u ladd megis Hafesp ac Afon Dulyn (Afonydd Dyfrdwy a Chonwy).  Mae rhai ffynonellau dŵr â phroblemau ocsigen toddedig oherwydd llifoedd isel, fel Afon Rhiw. Mae cyfyngiadau tynnu dŵr hefyd mewn grym ar draws Cymru yn unol â'u trwyddedau. Yn ddiweddar, gwnaethom achub pysgod ar afon Ewenni lle diflannodd llif isel i lawr llyncdwll, nodwedd ddaearegol sy'n digwydd yn naturiol. Er bod hwn yn ddigwyddiad naturiol, gwnaethom benderfyniad i achub pysgod oedd yn sownd mewn pyllau a fyddai wedi marw fel arall, a'u symud i ardal lle’r oedd llifoedd.

Rydym wedi cynorthwyo'r gwasanaeth tân gyda sawl tân dros y dyddiau diwethaf gan gynnwys safle ailgylchu gwastraff yn Sir Benfro ger SoDdGA / ACA Dyfrffordd Aberdaugleddau, Tyddewi, Margam a glaswelltir/rhostir ger Niwgwl.

Mae pryderon am gyflenwadau dŵr, yn arbennig mae Dŵr Cymru wedi rhoi rhybudd i'w gwsmeriaid yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin lle maen nhw'n gweithredu gwaharddiad dros dro (gwaharddiad ar bibellau dŵr) o 19 Awst yn yr ardal hon. Rydym yn annog cwsmeriaid i ddilyn cyngor eu cwmni dŵr lleol a defnyddio dŵr yn ddoeth. Edrychwch ar eu gwefannau neu Waterwise am gyngor arbed dŵr.

Mae cwmnïau dŵr yn gyfrifol am ddatblygu cynllun sychder bob pum mlynedd. Yn ystod cyfnod o sychder byddant yn cymryd camau i gynnal cyflenwadau dŵr cyhoeddus, fel sydd wedi’i nodi yn eu cynlluniau. Wrth i'r amodau barhau'n sych rydym yn disgwyl i'r cwmnïau ddefnyddio eu cyflenwadau presennol a lleihau'r galw drwy ymgyrchoedd arbed dŵr a mwy o waith trwsio gollyngiadau. Os yw'r amodau'n parhau'n sych ac yn symud i 'statws sychder' ar gyfer ardal weithredol dylent edrych i ddefnyddio ffynonellau eraill o ddŵr sydd ar gael iddynt (ffynonellau wrth gefn) a dyma lle y gellir gosod cyfyngiadau ar ddefnydd (megis gwaharddiad ar bibellau dŵr). Os bydd amodau sychder yn parhau am gyfnod sylweddol y cam nesaf yw ystyried mesurau eraill fel trwyddedau sychder a gorchmynion sychder a chyfyngu ar ddefnydd nad yw’n hanfodol.

Rhan o reoli'r galw am ddŵr yw i gwmnïau ddefnyddio eu system gyflenwi, gan gynnwys drwy ollyngiadau. Gosododd Ofwat (y rheoleiddiwr economaidd) dargedau ar gyfer lleihau gollyngiadau dros amser gyda gostyngiad o 15% rhwng 2020 - 2025. Mae'r diwydiant yn cynllunio ar gyfer gostyngiad o 50% erbyn 2050. Er nad oes modd cyflawni cyfradd o ddim gollyngiadau, mae pob litr sy’n cael ei golli yn un arall nad oedd angen ei gyflenwi o’r amgylchedd. Felly rydym yn monitro ffigurau cwmnïau’n flynyddol er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu targedau ac yn disgwyl gweithredu cadarn ganddynt yng Nghymru. Gall tywydd sych arwain at fwy o ollyngiadau oherwydd symudiadau pridd a mwy o alw ar y system gyflenwi, felly rydym yn disgwyl i ymdrechion gollyngiadau gael eu targedu yn ystod y cyfnodau hyn tuag at risg uwch.

*Mae hyn yn effeithio ar yr ardaloedd canlynol

  • Gogledd Ceredigion (Rheidol, Aeron, Ystwyth)
  • Teifi
  • Sir Benfro (Cleddau Dwyreiniol a Gorllewinol)
  • Caerfyrddin (Tywi a Thaf)
  • Abertawe a Llanelli (Tawe a Llwchwr)
  • Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr (Nedd, Afan, Ogwr)

 

5 Awst 2022

Sefyllfa bresennol

Rydym mewn ‘cyfnod hir o dywydd sych’ ledled Cymru ar hyn o bryd, er gwaethaf peth glawiad dros yr wythnos ddiwethaf.

Yn ystod mis Gorffennaf, dim ond 56% o'i glawiad disgwyliedig y cafodd Cymru, ac ni chafodd pob rhan o’r wlad yr un faint ohono. Fodd bynnag, yn fwy nodedig na hynny mae’r gyfres o fisoedd sych ers mis Chwefror. Am y pum mis diwethaf (Mawrth - Gorffennaf) cawsom 61% o’n glaw cyfartalog yng Nghymru; yr unig gyfnodau sychach eraill yn y 100 mlynedd diwethaf oedd 1984 a 1976.

Am y rhan fwyaf o fis Gorffennaf, roedd nifer o afonydd yn nodedig neu’n eithriadol o isel am yr adeg o'r flwyddyn, a bu adroddiadau hefyd am rai afonydd yn sychu. Cyrhaeddodd rhai afonydd eu llifoedd isaf erioed ar gyfer mis Gorffennaf, yn arbennig Afon Ebwy yn Rhiwderyn ac Afon Frogwy ym Modffordd. Mae'r glawiad diweddar wedi caniatáu i rai afonydd adfer ar draws rhannau o Gymru.

Dros bedwar diwrnod cyntaf Awst (data dros dro) derbyniodd ardal y Gogledd Orllewin 31.9% o’i glawiad cyfartalog ar gyfer mis Awst a chafodd ardal y De Ddwyrain 7.9% - arweiniodd hyn at rybuddion llifogydd ar gyfer rhai dalgylchoedd yn y Gogledd. Gyda phrinder glaw yn y rhagolygon ar gyfer yr wythnos nesaf rydym yn disgwyl i'r afonydd hynny sydd wedi adfer i gilio eto. O ystyried nad yw’r glawiad diweddar wedi syrthio’n gyfartal dros y wlad, mae rhai afonydd yn parhau i fod yn eithriadol o isel am yr adeg o'r flwyddyn gan gynnwys afonydd Clwyd, Dyfrdwy Isaf, Wysg, Gwy a Ebwy.

Rydym wedi derbyn nifer o adroddiadau am afonydd sych, tanau gwyllt, pysgod yn marw, gordyfiant algâu, a materion ansawdd dŵr eraill. Bu adroddiadau am ddiffyg twf glaswellt a chnydau, yn ogystal â phroblemau o ran cyflenwad dŵr yn y sector amaethyddol. Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi y bydd Gwaharddiad Defnydd Dros Dro, a elwir yn gyffredin yn 'waharddiad ar bibelli dŵr’, yn dod i rym i gwsmeriaid yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin o 19 Awst.  Ewch i dudalen sychder Dŵr Cymru am fwy o wybodaeth.

Y llynedd yng Nghymru defnyddiwyd cyfwerth â 356 o byllau Olympaidd o ddŵr bob dydd. Yn ystod tywydd poeth sych mae'r galw am ddŵr yn cynyddu gan roi pwysau ar ein hadnodd gwerthfawr.   Rydym yn annog pobl i ddilyn y cyngor diweddaraf gan eu cwmnïau dŵr ac i ddefnyddio dŵr yn ddoeth. Bydd gwneud hyn yn helpu i sicrhau bod digon o ddŵr ar gael i ddiwallu anghenion pawb ac i helpu i amddiffyn ein hamgylchedd.

I gael cyngor ar hyn ewch i wefannau eich cwmnïau dŵr neu Waterwise.

Pan fyddwch chi'n mwynhau'r awyr agored, cofiwch fod ein bywyd gwyllt a'n hecosystemau o dan fwy o straen. Dylai aelodau'r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau i'n llinell gymorth 24/7 ar 0300 065 3000.

Yn ogystal mae'n bosib y bydd rhai ardaloedd â risg uwch o danau. Cymerwch sylw o unrhyw arwyddion ar ein tir a chyngor ar hyn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Diffinio sychder

Er bod lefelau, graddfeydd a diffiniadau gwahanol yn perthyn i sychder, nodweddir pob achos o sychder gan brinder glawiad. Mae pob achos o sychder yn wahanol, gyda’i natur, yr amseru a'r effeithiau’n amrywio yn ôl lleoliad a pha sectorau sy'n cael eu heffeithio. Rydym yn diffinio tri math o sychder (sy'n gallu digwydd gyda'i gilydd):

  • Sychder amgylcheddol – llifoedd isel a llai o leithder yn y pridd, sy’n effeithio ar amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau. Gall sychder o'r math hwn arwain at effeithiau sylweddol yn y tymor hir os ydynt yn parhau dros gyfnod estynedig.
  • Sychder amaethyddol – diffyg dŵr ar gael ar gyfer dyfrhau a llai o leithder yn y pridd sy'n effeithio ar faint y cnwd (a / neu ei ansawdd) a lles da byw.
  • Cyflenwad dŵr – llai o ddŵr ar gael fel cyflenwad i’r cyhoedd drwy lifoedd afonydd llai, storfeydd cronfeydd dŵr neu ddŵr daear.

Mae gan unrhyw gyfuniad o'r rhain hefyd y potensial i effeithio ar iechyd a lles pobl yn ogystal ag effeithiau amgylcheddol ac economaidd.

Rhan o'n gwaith yw monitro'r sefyllfa hydrolegol ac ecolegol, monitro a rheoleiddio cwmnïau dŵr a chasglu gwybodaeth am effeithiau ehangach tywydd sych. Gan ddefnyddio hyn rydym yn dosbarthu sychder yn bedwar cam:

  • Normal – Mae’r dangosyddion o fewn terfynau disgwyliedig ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn, sy'n gallu cynnwys cyfnodau byr o lif isel a llai o ddŵr ar gael
  • Cyfnod hir o dywydd sych – Mae’r dangosyddion yn dangos cyfnodau hir o lawiad a lefelau afonydd isel am yr adeg o'r flwyddyn, llai o leithder yn y pridd, mwy o adroddiadau am effeithiau ar ecosystemau, tir, cyflenwad dŵr neu sectorau eraill.
  • Sychder – Cyfnod sylweddol o lefelau isel mewn afonydd a phrinder glaw. Effeithiau sylweddol ar ecosystemau a phwysau ar y sector amaethyddol. Straen uchel ar y system cyflenwi dŵr gyda chyfyngiadau a allai fod yn ddifrifol.
  • Adfer yn sgil sychder – Dychwelyd i lefelau arferol am yr adeg o'r flwyddyn. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y sychder blaenorol efallai y bydd difrod amgylcheddol o hyd, ynghyd â llai o allbwn amaethyddol neu gyfyngiadau ar ddefnydd dŵr.

Mae gan gwmnïau dŵr eu cynlluniau sychder eu hunain sydd ar gael yn gyhoeddus. Gall eu statws sychder amrywio hefyd.  Fel arfer maent yn defnyddio'r camau 'normal', 'sychder sy’n datblygu', 'sychder' a 'sychder difrifol' a byddant yn defnyddio eu trothwyon eu hunain i ddiffinio eu statws – mae’r rhain yn aml yn gysylltiedig â sefyllfa eu cyflenwad.

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru