Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang

Mae heddiw yn nodi’r 12fed Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang. Mae'n ddigwyddiad byd-eang sy'n taflu goleuni ar gynhwysiant digidol i bobl ag anableddau.

Mae'n ddiwrnod sydd wedi'i gynllunio i gael pawb i siarad, meddwl a dysgu am hygyrchedd digidol.

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod ein gwefannau ac apiau yn bodloni gofynion hygyrchedd.

Hygyrchedd digidol

Rhaid i rywun ag anabledd allu cyrchu ein gwasanaethau ar y we a chynhyrchion digidol eraill. Rhaid iddo allu gwneud hyn gyda'r un canlyniad llwyddiannus â'r rhai heb anableddau.

Mae gan tua 22.7% o boblogaeth Cymru ryw fath o anabledd sy’n cynnwys pobl â:

  • golwg isel a dallineb
  • cyfyngiadau gwybyddol
  • byddardod a cholled clyw
  • anableddau dysgu
  • symudiad cyfyngedig
  • anableddau lleferydd

Mae pobl ag anableddau yn parhau i wynebu heriau dyddiol wrth ddefnyddio gwasanaethau ar-lein. 

Os na allwch ddefnyddio llygoden, yna gall symud o gwmpas gwefan fod yn anodd. Gall fod yn anodd dehongli gwybodaeth a gyflwynir mewn lliw os ydych yn lliwddall. Mae fideos heb gapsiynau yn dda i ddim os ydych chi'n fyddar neu'n byw gyda cholled clyw.

Mae'n bwysig ein bod yn gwneud pethau'n iawn ar ein gwefan i'w gwneud yn gynhwysol i bawb.

Ni all ein cwsmeriaid siopa o gwmpas

Gallwn ddewis siopa mewn siop ar-lein wahanol os byddwn yn gweld gwefan yn anodd i'w defnyddio. Ond nid oes unrhyw opsiwn i bobl siopa o gwmpas am y gwasanaethau rydym yn eu darparu yma yn Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ni all pobl fynd at ddarparwr trwyddedau amgylcheddol gwahanol yng Nghymru. Ni allant fynd i rywle arall i ddarganfod a yw rhywun wedi cofrestru i gasglu eu gwastraff. Ni allant fynd i rywle arall i gael gwybodaeth hanfodol am berygl llifogydd.

Mae effaith Coronafeirws ar ein ffordd o weithio yn golygu mai’r unig ffordd o gyflwyno neu gael mynediad at wybodaeth bellach yw ar-lein. Mae hyn yn gwneud hygyrchedd ar y we hyd yn oed yn bwysicach. 

Mae hygyrchedd i bawb

Mae hygyrchedd ar y we hefyd o fudd i bobl heb anableddau, er enghraifft:

  • pobl sy’n defnyddio dyfeisiau gyda sgriniau bach fel ffonau clyfar
  • pobl hŷn â galluoedd sy’n newid wrth heneiddio
  • pobl sydd ag anableddau dros dro, fel arddwrn wedi torri
  • pobl mewn sefyllfaoedd sy'n cyfyngu ar eu mynediad, er enghraifft mewn man tawel lle na allant wrando ar sain
  • pobl sydd â chysylltiad rhyngrwyd gwael

Ein gwaith hyd yn hyn

Rydym yn gweithio ar wella hygyrchedd ein gwefan, gan ei gwneud yn haws dod o hyd i'n cynnwys, ei ddefnyddio a'i ddeall.

Rydym wedi gwella penawdau tudalennau a rhywfaint o'r gwe-lywio i helpu ein cwsmeriaid i ddod o hyd i wybodaeth yn gyflymach.

Un o'n heriau mwyaf o ran cynnwys yw nifer yr atodiadau ar ein gwefan. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr i drawsnewid cynnwys o ddogfennau i gynnwys gwe a ffurflenni gwe.

Dyma ddechrau proses fwy hirdymor i wella profiad cwsmeriaid a’u teithiau ar draws y safle.  

Gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i wneud ein gwefan yn hygyrch i bawb.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru