Helpu ein môr a’n harfordiroedd dros Ddiwrnod Bywyd Gwyllt y Byd

Ar Fawrth 3 bob blwyddyn, mae Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd y Cenhedloedd Unedig yn ffocusu ar yr amrywiaeth helaeth o fywyd ar ein planed.

Fel rhan o ymdrechion Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu cynefinoedd a rhywogaethau iachach a mwy gwydn, rydym yn arwain ar wyth prosiect sydd wedi'u cynllunio i helpu gwella cyflwr amgylchedd morol Cymru.

Mae'r hyn sy'n digwydd yn ein moroedd a'n harfordiroedd yn cael effaith eang ar ein bywydau yn ogystal â chefnogi lefel uchel o fioamrywiaeth ond mae nifer o heriau anodd yn wynebu'r amgylcheddau hyn fel llygredd a lefelau'r môr yn codi.

Gobeithiwn y bydd y prosiectau hyn, sy'n rhan o'r rhaglen Rhwydweithiau Natur, yn ein helpu i ddeall a chynyddu bioamrywiaeth ein moroedd ac amgylcheddau arfordirol.

Eu nhôd yw gwella cyflwr safleoedd gwarchodedig, yn ogystal â helpu cynefinoedd a'r bywyd gwyllt sy'n byw ynddynt a'u gwneud yn fwy gwydn yn sgil newid hinsawdd.

Gobeithiwn defnyddio’r wybodaeth hanfodol yma i’n cynorthwyo i gefnogi ein cynefinoedd morol unigryw ac i helpu gynnal mwy ar ein hecosystemau.

Drwy gydweithio rydym am helpu i adeiladu dyfodol sy'n llawn natur, gydag ecosystemau wedi'u hadfer sy'n fwy gwydn i newid hinsawdd ac sydd yn darparu mwy o fanteision i fwy o bobl.

Dysgwch fwy am ein gwaith yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhwydweithiau Natur - gwybodaeth ar brosiectau morol (naturalresources.wales)

  • Mae Rhwydweithiau Natur yn rhaglen tair blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n ceisio mynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru drwy gynyddu bioamrywiaeth, gwella cyflwr safleoedd gwarchodedig a gwella gwytnwch a chysylltedd ein cynefinoedd a'n rhywogaethau.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru