Sut rydyn ni’n creu coetiroedd newydd a gwydn

Mae ar Gymru angen mwy o goetiroedd, o bob math a maint.

Yn y blog yma, Miriam Jones-Walters sy’n egluro sut mae CNC yn cynllunio coetiroedd newydd sy’n edrych tuag at y dyfodol mewn ffordd sy’n rhoi budd i’r amgylchedd, bioamrywiaeth, y gymuned leol a’r economi.

Mae Miriam yn Gynghorydd Arbenigol ar gyfer Stiwardiaeth Tir yn CNC ac mae’n arwain y gwaith o greu coetiroedd newydd i ehangu Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Mae hi’n gweithio gyda chydweithwyr yn CNC i ddod o hyd i barseli o dir y gellir eu plannu â choetiroedd newydd.

Blog Miriam

Pan fyddwn ni’n creu coetiroedd newydd, mae llu o bethau gwahanol y mae’n rhaid i ni eu hystyried, gan gynnwys y ffaith ein bod yn wynebu hinsawdd sy’n newid yn gyflym; ac mae hynny’n golygu niferoedd cynyddol o blâu a chlefydau.

Sut ydyn ni’n sicrhau bod coetiroedd newydd yn gallu gwrthsefyll y bygythiadau hyn?

Yn gyntaf, rhaid i ni sicrhau na fydd coetir newydd yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd lleol a’i bod yn addas creu coetir ar y parsel hwnnw o dir.

Rydyn ni’n pwyso a mesur llawer o wahanol ffactorau. Er enghraifft, rydyn ni’n sicrhau nad oes unrhyw gynefinoedd pwysig a fyddai’n cael eu niweidio yn sgil creu coetiroedd. Bydd coetir newydd hefyd yn cael ei gynllunio i sicrhau amrywiaeth o fanteision yn y dyfodol, fel cysylltu cynefinoedd yn y dirwedd, darparu mannau awyr agored i bobl ymweld â nhw, cynhyrchu pren a thynnu carbon o’r atmosffer.

Ar ôl i ni ddod o hyd i safle addas, mae’r rhywogaethau coed rydyn ni’n eu dewis yn hanfodol i lwyddiant yn y dyfodol. Fel pob peth byw, mae coed wedi esblygu i oroesi yn eu hamgylcheddau, ac mae coed gwahanol wedi addasu i amodau gwahanol. Gall rhai ymdopi â safleoedd oer, gwlyb a gwyntog iawn ac mae’n well gan eraill ardaloedd sy’n fwy sych a chysgodol.

Os na all coed ymdopi ag amodau’r dyfodol – er enghraifft, os yw’r safle’n mynd yn rhy sych ar gyfer rhai rhywogaethau – yna byddant o dan straen ac yn agored i blâu a chlefydau.

Mae rhaid i ni ddeall yr amodau y bydd ein coed yn eu profi nawr yn y coetir newydd, yn ogystal â’r hyn y gallen nhw ei brofi wrth i’r hinsawdd newid. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni feddwl ymhell i’r dyfodol. Er enghraifft, gallai safle sy’n oer a gwlyb nawr fod yn gynhesach a sychach mewn hanner can mlynedd, pan fydd rhai o’r rhywogaethau coed yn dal yn gymharol ifanc.

Mae’n bwysig ein bod yn dewis amrywiaeth o rywogaethau coed. Os na wnawn ni hyn, gallen ni golli cyfran fawr o’n coedwigoedd i fygythiad newydd yn y dyfodol. Mae coetir amrywiol yn fwy gwydn yn erbyn bygythiadau newydd, oherwydd os yw’r bygythiad yn lladd rhai rhywogaethau coed, bydd y coetir yn gallu aildyfu gan ddefnyddio rhywogaethau eraill.

Rydyn ni hefyd yn ystyried o ble ddaw’r coed. Os yw safle wedi’i amgylchynu gan goed sydd wedi addasu’n dda i’r amodau, efallai y byddwn yn gadael i’r coetir newydd ddatblygu’n naturiol o hadau o’r coed hynny sydd eisoes yn bodoli.

Neu, byddwn yn plannu eginblanhigion nad ydynt yn dod o’r ardal gyfagos, ond rydyn ni’n gofalu ein bod yn defnyddio eginblanhigion o feithrinfeydd sy’n dilyn protocolau bioddiogelwch i leihau’r risg o blannu coed a allai gyflwyno pla neu glefyd newydd.

Sut ydyn ni’n gwneud hyn?

Rydyn ni’n mynd allan ac yn asesu’r safle. Er enghraifft, rydyn ni’n edrych ar y priddoedd a’r microhinsawdd, ac rydyn ni’n defnyddio offer sy’n gallu’n helpu ni i ddeall amodau penodol y safle a rhagfynegi sut y gallai’r rhain newid. Yna, gallwn ni baru’r amodau hyn â rhywogaethau addas i’w plannu, gan ddilyn Safon Coedwigaeth y DU a chanllawiau CNC. Gallwn ni hefyd edrych ar y coed o gwmpas y safle i weld pa rywogaethau allai dyfu’n dda.

Darllenwch ein canllawiau ar wneud coetiroedd yn fwy gwydn.

Darllenwch am Safon Coedwigaeth y DU.

Mae cryn ansicrwydd ynghylch hinsawdd y dyfodol, a’r heriau y bydd ein coetiroedd yn gorfod eu hwynebu, ond gwyddwn fod newid yn digwydd. Mae’n bwysig ein bod yn ystyried y pethau hyn nawr ac yn gwneud beth bynnag a allwn i sicrhau y bydd y coetiroedd a grëwn heddiw yno am genedlaethau i ddod.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru