Diddordeb mewn gyrfa sy'n helpu i gynnal a gwella'r amgylchedd trwy reoleiddio? Dysgwch am gyfleoedd yng Ngwasanaeth Trwyddedu #TîmCyfoeth

Rydym yn recriwtio! Ydych chi'n meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i ymuno â'n Gwasanaeth Trwyddedu; gwneud penderfyniadau dyddiol sy’n helpu i wneud gwahaniaeth i amgylchedd, pobl ac economi Cymru?

Cyn bo hir bydd gennym rai cyfleoedd cyffrous iawn i bobl ddod i ymuno â'n tîm trwyddedu a gweithio gyda'n staff talentog, gweithgar ac ymroddedig ledled Cymru.

Beth mae Gwasanaeth Trwyddedu CNC yn ei wneud?

 Fel prif reoleiddiwr amgylcheddol Cymru, mae rôl CNC yn arwyddocaol ac yn eang ei chwmpas. Mae rheoleiddio a thrwyddedu yn sail i lawer o’r hyn a wnawn i warchod, cynnal a gwella ein hadnoddau naturiol nawr ac ar gyfer y dyfodol, fel y gall pobl fyw bywydau gwell ac iachach a bod ein bywyd gwyllt yn gallu ffynnu. 

Mae’r Gwasanaeth Trwyddedu yn cyfrannu at hyn drwy leihau’r risg o niwed i’r amgylchedd a phobl Cymru, cefnogi twf economaidd cynaliadwy, a hybu ymddygiad cyfrifol, drwy ein hasesiad cadarn o geisiadau am ystod eang o weithgareddau a chaniatâd.

Cwrdd â'r Timau

Mae gan ein Gwasanaeth Trwyddedu gylch gwaith eang ac mae’n cynnwys sawl tîm sydd â’r dasg o asesu ceisiadau ar gyfer ystod eang o weithgareddau ledled Cymru gyfan:

  • Tîm Adnoddau Dŵr (tynnu a chronni dŵr).
  • Tîm Ansawdd Dŵr (carthffosiaeth annibynnol a gollyngiadau masnach, gollyngiadau i ddŵr daear, a gwasgaru cynnyrch dip defaid ar y tir).
  • Tîm gwastraff (gweithgareddau gwastraff ar y safle, cynlluniau adfer gwastraff ar gyfer gollwng gwastraff mewn/ar dir, a pheiriannau symudol ar gyfer gwasgaru ar y tir a gweithgareddau adfer tir).
  • Tîm rheoliadau safleoedd a sylweddau ymbelydrol (gweithgareddau o fewn sectorau diwydiant mawr gan gynnwys; hylosgi, puro, prosesu, gwastraff a ffermio dwys, ynghyd â gweithgareddau sy'n defnyddio sylweddau ymbelydrol).
  • Tîm Trwyddedu Morol (gweithgareddau o fewn yr amgylchedd morol yng Nghymru sy'n cynnwys y glannau a'r môr)
  • Tîm Trwyddedu Rhywogaethau (gweithgareddau a all effeithio ar rywogaethau a warchodir neu weithgareddau lle mae gan rywogaethau effaith iechyd a diogelwch neu economaidd).
  • Tîm coedwigaeth (gweithgareddau cwympo ac ailstocio mewn coetiroedd preifat).
  • Tîm Darparu Trwyddedau (derbyn trwyddedau, cefnogaeth trwyddedu ar draws yr holl dimau trwyddedu a thrwyddedu ansawdd dŵr yn seiliedig ar brosiectau).

Rydym yn rhagweld cyfleoedd amrywiol ym mhob un o dimau’r Gwasanaeth Trwyddedu dros y misoedd nesaf. Felly, beth bynnag yw eich diddordeb, sgiliau a phrofiad, rydym yn gobeithio y bydd gennym ni'r cyfle i chi!

Os oes gennych ddiddordeb yng ngwaith unrhyw dîm penodol ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth – cysylltwch â permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Pam gweithio yng Ngwasanaeth Trwyddedu CNC?

Rydym yn adran gymharol fach gydag amrywiaeth o geisiadau diddorol sydd yn aml yn gymhleth. Mae'r timau o fewn y Gwasanaeth Trwyddedu yn gyfeillgar, yn gymwynasgar ac yn gefnogol. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd ar draws timau i rannu gwybodaeth, arfer gorau a phrofiadau.

Mae gwaith y Gwasanaeth Trwyddedu yn waith desg, felly gallwn fabwysiadu lleoliad hyblyg a dull gweithio hybrid. Mae'r llwyth gwaith yn brysur, gan y byddwch yn asesu sawl cais ar unrhyw un adeg, gan wneud penderfyniadau cadarn ar sail risg o fewn terfynau amser tynn. Ond gyda chynllunio rhagweithiol, ceisio cymorth ac uwchgyfeirio materion fel y bo'n briodol, gall staff reoli eu hamser ac elwa ar gydbwysedd hyblyg rhwng bywyd a gwaith.

Yn CNC rydym yn angerddol am helpu ein staff i ddatblygu. Wrth i chi dyfu i'ch rôl bydd digon o gyfle i ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad ymhellach, gan eich helpu i symud ymlaen o fewn y Gwasanaeth Trwyddedu.

Beth yw'r cyfleoedd presennol?

Mae cyfleoedd yn codi'n rheolaidd ar draws yr holl dimau o fewn y Gwasanaeth Trwyddedu ar gyfer Swyddogion Trwyddedu lefel 1 'mynediad' a Swyddogion Trwyddedu lefel 2 gyda pheth gwybodaeth a phrofiad blaenorol yn y maes perthnasol.

Cyn bo hir byddwn yn recriwtio ar gyfer:

Swyddog Trwyddedu 1 'lefel mynediad'

Swyddog Trwyddedu 2 'profiadol'

Gallwch weld y disgrifiadau rôl yma: 

Cyfoeth Naturiol Cymru / Swyddog Trwyddedu 1 (naturalresources.wales)

Cyfoeth Naturiol Cymru / Swyddog Trwyddedu 2 (naturalresources.wales)

Byddwn yn diweddaru'r blog hwn wrth i gyfleoedd newydd ddod ar gael, felly edrychwch eto a chadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau newydd neu   tanysgrifiwch i'n cylchlythyr   

Mae gen i ddiddordeb – sut mae cysylltu?

 Os ydych chi wedi edrych ar y disgrifiadau rôl trwyddedu ac yn meddwl bod gyrfa yng Ngwasanaeth Trwyddedu #TîmCyfoeth yn addas i chi, mae gennym ddiddordeb mewn derbyn eich Datganiad o Ddiddordeb cyn i’r cyfleoedd hyn gael eu cwblhau.

Defnyddiwch y canllawiau isod i greu eich Datganiad o Ddiddordeb. Dylid anfon hwn at   Applications@naturalresourceswales.gov.uk gan ddyfynnu'r rôl y mae gennych ddiddordeb ynddi.

Datganiad o Ddiddordeb

 Dylai eich datganiad o ddiddordeb gynnwys y 3 elfen ganlynol:

  1. Datganiad Personol (uchafswm o 500 o eiriau)

Defnyddiwch yr adran hon i ddweud wrthym amdanoch chi'ch hun. Beth yw eich sgiliau, rhinweddau a phriodweddau perthnasol y gallwch chi eu cyfrannu at y rôl? Eglurwch sut rydych chi'n bodloni cymwysterau’r swydd a'r wybodaeth a nodir yn y disgrifiad rôl. Dywedwch wrthym os na fyddech yn ystyried contract cyfnod penodol. Byddwn ond yn ystyried eich gwybodaeth hyd at yr uchafswm cyfrif geiriau.

  1. Profiad Gwaith (uchafswm o 750 o eiriau)

Rhowch drosolwg o'ch hanes gwaith, gan ddechrau o'r diweddaraf yn gyntaf. Cynhwyswch y swydd yn y cwmni a disgrifiad byr o'r rôl. Byddwn ond yn ystyried eich gwybodaeth hyd at yr uchafswm cyfrif geiriau.

  1. Rhestr o addysg a chymwysterau perthnasol.

Rhestrwch y cymwysterau yr ydych wedi'u hennill, ynghyd â'r marc llwyddo os yw'n berthnasol a'r sefydliad y buoch yn astudio ynddo.

Sylwer: Ni fyddwn yn ystyried eich datganiad o ddiddordeb os nad yw'n cynnwys pob un o'r 3 elfen. Ar gyfer adrannau 1 a 2, byddwn ond yn ystyried eich gwybodaeth hyd at yr uchafswm cyfrif geiriau, ni fydd unrhyw eiriau ychwanegol yn cael eu hystyried.

Am unrhyw ymholiadau eraill am y rolau cysylltwch â   permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru