Golygfa o'r gors - stori gwirfoddolwr

Gyda'r Nadolig rownd y gornel a'r Flwyddyn Newydd heb fod ymhell, beth am wneud adduned Blwyddyn Newydd eleni a gwirfoddoli peth o'ch amser i helpu prosiect lleol.

Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE yw'r rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd yng Nghymru, ac mae'r prosiect yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i gefnogi ei waith monitro ac arolygu.

Dangosir bod cyfleoedd gwirfoddoli fel hyn yn cynyddu hyder a hunan-barch ac yn gwella'ch sgiliau ar gyfer swyddi posib mewn diwydiannau tebyg. Mae tystiolaeth hefyd yn dangos bod bod yn yr awyr agored a chysylltu â natur yn gwella iechyd a lles.

Mae Chris, recriwt diweddar a gwirfoddolwr y gors, yn siarad â ni yn y blog hwn am y rhesymau pam ei fod yn gwirfoddoli a'r hyn y mae'n ei ennill o'r rôl newydd.

Nid oeddwn erioed wedi ystyried gwirfoddoli o'r blaen gan fy mod wedi bod yn ddigon ffodus i fod mewn cyflogaeth amser llawn ers gadael y brifysgol ac roedd y penwythnosau bob amser wedi bod yn rhy brysur ac yn cael eu hystyried yn fy amser i fy hun.

Fodd bynnag, roeddwn wedi gweld o lygad y ffynnon fanteision gwirfoddoli trwy fy nhad a ddechreuodd wirfoddoli i elusen yn ystod cyfnod o ddiweithdra estynedig yn ystod ei bumdegau. Roedd y lleoliad yn gweddu’n berffaith iddo; roedd yn gyfleus ac yn lleol ile'r oedd yn byw, roedd yn bwnc yr oedd yn teimlo’n angerddol amdano ac roedd at achos da. Hwn oedd y lleoliad delfrydol a ddaeth yn gyflogaeth amser llawn ac yn y pen draw blynyddoedd gwaith mwyaf pleserus ei yrfa. Heddiw, ac yntau yng nghanol ei saithdegau, mae'n dal i wirfoddoli ar nos Fercher a'r rhan fwyaf o benwythnosau trwy gydol yr haf.

Mae fy stori i yn llai dramatig ond yn debyg mewn sawl ffordd. Daeth gostyngiad gorfodol yn fy oriau gwaith gyda fy nghyflogwr presennol ym mis Mehefin gyda’r sylweddoliad bod gen i ddiwrnod sbâr i'w lenwi bob wythnos. Yn hytrach nag eistedd gartref a gwylio'r teledu yn ystod y dydd, penderfynais y byddwn yn gwneud rhywbeth buddiol gyda'r amser ychwanegol hwn a dechrau chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli yn yr ardal.

Rwy'n gweithio i gwmni sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd ac, os oedd yn bosibl, roeddwn i eisiau gwneud gwaith gwirfoddoli a oedd rywsut yn cyd-fynd â'r hyn rwy'n ei wneud ar gyfer bywoliaeth. Cysylltais â nifer o sefydliadau lleol a dechrau gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Maldwyn ar Brosiect Gweilch Dyfi ger Machynlleth. Roedd yr haf yn wych; wrth eistedd ar ddec yr arsyllfa dysgais lawer am weilch y pysgod a chwrdd ag amrywiaeth eang o bobl. Roedd angerdd a gwybodaeth rhai o'r bobl y gwnes i gyfarfod â nhw yn anhygoel.

Yn ystod yr amser hwn y gwnaeth cydweithiwr fy nghyfeirio at hysbyseb am gyfle gwirfoddoli ar Brosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE.

Darllenais y disgrifiad rôl a meddyliais fod ddim i'w golli. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, ac roeddwn yn falch iawn o gael fy hysbysu fy mod wedi cael fy nerbyn ar dîm y prosiect fel gwirfoddolwr.

Rydw i wedi bod yn gwirfoddoli ar Brosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE ers tua chwe wythnos bellach ac rydw i wedi mwynhau'r profiad yn fawr. Rwyf wedi dysgu llawer am gorsydd mawn mewn cyfnod byr o amser a sylweddolais fod cymaint mwy i'w ddysgu. Mae'r ysbryd a'r awyrgylch yn nhîm y prosiect yn creu amgylchedd dymunol i wirfoddoli ynddo ac rwyf wrth fy modd yn mynd allan i Gors Fochno.

Fy uchelgais ar gyfer y lleoliad yw parhau i ddysgu a datblygu sgiliau newydd a allai ddod yn ddefnyddiol ar gyfer cyfleoedd newydd yn y dyfodol. Yn y pen draw, hoffwn weld a mesur yn uniongyrchol fuddion y gwaith sy'n cael ei wneud ar y gors.

Dywed fy ngwraig fy mod i wedi newid (er gwell) ers i mi ddechrau gwirfoddoli ac mae'n ymddangos fy mod yn gyffredinol yn fwy bodlon â bywyd. Mae gwirfoddoli wedi fy ngalluogi i roi rhai pethau mewn gwell persbectif. Rwy'n fwy ffit o lawer ac ychydig yn deneuach nag yr oeddwn chwe mis yn ôl ac edrychaf ymlaen at y diwrnod gwirfoddoli bob wythnos. Felly i gloi, rwy'n credu bod gwirfoddoli wedi bod yn fuddiol ac wedi gweithio i mi.

Mae Chris yn gwirfoddoli ar Brosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE wedi'i leoli yng Nghors Fochno - rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ger Borth.

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan brofiadau Chris ac eisiau gwneud adduned Blwyddyn Newydd i wirfoddoli, darganfyddwch fwy am y prosiect a'i gyfleoedd gwirfoddoli trwy ymweld â'r wefan www.naturalresources.wales/liferaisedbogs

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru