Ysgol Penrhyn Dewi — gofalu'n ffyddlon am eu Cynefin

Mae Ysgol Penrhyn Dewi yn gwasanaethu dinas hanesyddol Tyddewi a phentref Solfach.  Fel yr Ysgol Eglwys Wirfoddol a Gynorthwyir 3-16 gyntaf yng Nghymru, mae gan yr ysgol ddysgwyr wedi’u gwasgaru dros 3 champws ac ardal wledig helaeth.  Trafodwyd sut mae'r ysgol yn ymgorffori CGM a dysgu awyr agored gyda Cilla Bramley, y Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Addysgu a Dysgu.

“Rydym yn ysgol gwbl gynhwysol ar gyfer disgyblion o bob ffydd a chefndir.  Wrth ddysgu am ffydd, teimlwn fod datblygu ymdeimlad o barchedig ofn, rhyfeddod, parch a gofal tuag at natur yn helpu ein holl ddysgwyr ddatblygu mwy o empathi a gofal tuag at y blaned a thuag at ei gilydd, ac yn eu cefnogi i ddod yn ddinasyddion mwy gwybodus yn foesegol.  Wrth eistedd ar ben clogwyn, ar y traeth, mewn gardd neu goetir, mae rywsut yn haws i ddysgwyr fod yn weddïol, yn ystyriol ac yn fyfyriol; gan ryfeddu at y greadigaeth a theimlo ymdeimlad o heddwch a diolchgarwch o fod wedi’u eu hamgylchynu gan y fath harddwch.”

“Rydym yn ceisio sicrhau bod ein Koinonia, ein cymuned o ffydd a chyfeillgarwch, yn sail i bopeth a wnawn, a'n nod yw darparu Cwricwlwm ysgogol a diddorol.  Rydym yn ceisio cefnogi disgyblion i ymgorffori'r pedwar diben a gwerthoedd Cristnogol yr ysgol, wrth ddatblygu profiadau a sgiliau dilys ar gyfer gyrfa a gwaith.  Mae'r is-lensys sy'n ymwneud ag adnoddau CGM ar-lein yr Eglwys yng Nghymru wedi cefnogi staff i gynllunio gwaith CGM effeithiol, y gellir ei gyflwyno gan ddefnyddio addysgeg dysgu awyr agored.”

“Mae ein dysgwyr Cyfnod Sylfaen yn cymryd rhan mewn sesiynau dysgu awyr agored wythnosol sy’n aml yn canolbwyntio ar y cwricwlwm ar wahân.  Agwedd bwysicaf y sesiynau hyn yw eu bod yn cael profiad uniongyrchol o bethau byw, y tymhorau newidiol a’u bod yn profi'r syfrdandod a’r rhyfeddod o fod yn yr awyr agored yng nghanol byd natur.” 

“Er mwyn annog stiwardiaeth synhwyrol ar gyfer ein hamgylchedd naturiol, mae holl ddysgwyr ein campysau 'Non', 'Aidan' a 'Dewi' yn mynd ati’n rheolaidd i helpu i wneud gwahaniaeth drwy gasglu sbwriel oddi amgylch ein Hardal Ddi-Sbwriel - Caru Cymru - Cadwch Gymru’n Daclus'.  Mae ein dysgwyr, sy’n awyddus i wneud eu rhan i helpu'r amgylchedd naturiol, hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau fel Stroliwch a Roliwch, yr Wythnos Werdd Fawr a Digwyddiad Gwylio Adar yr RSPB.” 

“Mae cysylltu ag ystod eang o aelodau'r gymuned, grwpiau a busnesau yn ddulliau ysgogi allweddol ar gyfer y Cwricwlwm yn Ysgol Penrhyn Dewi.  Trwy gysylltu â grwpiau lleol fel Eco Dewi, Câr Y Môr (fferm wymon gynaliadwy), RSPB Ynys Dewi a ffermydd lleol, mae ein dysgwyr yn cael cyfle i ddysgu am gynaliadwyedd a bioamrywiaeth.  Cynhelir ymweliadau rheolaidd â Gardd Gymunedol Erw Dewi, ac mae ein dysgwyr yn cael profiad uniongyrchol o reoli gardd a dysgu sut mae'n newid gyda'r tymhorau.  Mae disgyblion o'r tri champws wedi cynorthwyo aelodau'r gymuned i blannu coed ym Maes Glasfryn, hafan leol lle gall bywyd gwyllt a phobl fwynhau natur.  Ceir hefyd eco-bwyllgor (Senedd Gwyrdd) yn Senedd yr ysgol sy'n canolbwyntio ar wneud yr ysgol yn fwy ecogyfeillgar.”

“Gyda chefnogaeth yr ymgynghorydd Jayne Etherington, rydym wedi lansio prosiect pontio yn ddiweddar o'r enw SOS - Save our Seas ar gyfer ein clwstwr a'n hysgolion ffydd cynradd. Bydd yr hyn sy’n cael ei ddysgu yn seiliedig ar brosiect Cytgord, sy'n anelu at baratoi pobl ifanc ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol a chymdeithasol yr ydym yn eu hwynebu wrth roi'r sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn byw'n gynaliadwy.  Bydd disgyblion yn cysylltu ag ystod o grwpiau ac unigolion lleol gan gynnwys Surfers against Sewage, Ysgolion Di-blastig, Eco Dewi a Châr Y Môr. Rydym hefyd yn hynod falch o allu gweithio gyda'r awdur arobryn Nicola Davies. Bydd ei llyfr hi 'This is how the change begins’' yn cefnogi disgyblion i wneud addewidion a gweithredu i achub ein moroedd.”

 

“Mae ein dysgwyr yn astudio pererindod ym Mlwyddyn 7, gan gysylltu cynefin a ffydd â'r Cwricwlwm.  Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae disgyblion clwstwr Blwyddyn 6 wedi ymgymryd â phererindod leol fel rhan o'u proses bontio.  Mae ein dysgwyr Blwyddyn 7 hefyd yn astudio safbwyntiau crefyddol, anghrefyddol ac athronyddol amrywiol sy’n gysylltiedig â stiwardiaeth o'r amgylchedd naturiol.  Rydym yn teimlo mai dim ond drwy werthfawrogi ac uniaethu â natur y mae disgyblion yn debygol o ddangos gofal a pharch tuag at ein planed.  Trwy feithrin set gref o werthoedd a moeseg yn ein dysgwyr a'u hannog i weithredu'n ifanc rydym yn gobeithio eu bod yn sylweddoli bod y byd naturiol yn gyfrifoldeb i bawb.  Rydym yn gobeithio y byddwn yn datblygu dysgwyr a fydd yn mabwysiadu’r agwedd hon a’i datblygu yn ystod eu bywydau.  Addysgir disgyblion yn benodol am effaith dyn ar y blaned a'r hyn y gallant ac y dylent ei wneud ynglŷn â hynny.  Trwy gael tîm ymroddedig o ecoryfelwyr, mae'r neges yn parhau ar hyd a lled cymuned yr ysgol.”

“Yn dilyn ein harolygiad diweddar gan Estyn pan nodwyd bod ein dysgu yn yr awyr agored a’r ffaith ein bod yn cysylltu dysgu â'n cynefin yn gryfderau, gofynnodd Prifysgol Abertawe inni groesawu eu myfyrwyr TAR Cynradd am y diwrnod.  Bu disgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn ein campws Non yn arwain y myfyrwyr ar deithiau cerdded dysgu lle gallai’r myfyrwyr weld dysgu yn yr awyr agored yn ymarferol a siarad â’r disgyblion am waith diweddar oeddent wedi'i wneud yn cysylltu â'n cynefin. Yn dilyn hyn cawsant sgwrs am egwyddorion cynllunio ar gampws Non.  Rydym yn defnyddio cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, a rhai sy'n gysylltiedig â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig pan fo hynny'n bosibl.  Gofynnwyd i'r myfyrwyr TAR gynllunio uned waith drawsgwricwlaidd yn seiliedig ar ein hegwyddorion cynllunio. Aethant i ymweld â thraeth Porth Mawr a bu'n rhaid iddynt weithio mewn grwpiau bach i gynllunio sut y byddent yn defnyddio'r traeth fel sbardun dysgu a chysylltu â'r gymuned, cyn dychwelyd i 'gyflwyno' eu syniadau ar gyfer y cwricwlwm. Bu panel a oedd yn cynnwys disgyblion a staff Ysgol Penrhyn Dewi yn beirniadu'r cyflwyniadau ac yn rhoi adborth cyn datgan enw’r enillydd.”

Buom yn holi Cilla a oedd ganddi unrhyw awgrymiadau i rywun sy'n dechrau taith o gysylltu addysgeg dysgu yn yr awyr agored gydag addysgu a dysgu CGM/Cynefin.  “Wrth ddatblygu dysgu yn yr awyr agored ar ein campysau Cynradd, y peth hanfodol yn y lle cyntaf oedd ffurfio grŵp cymunedol o unigolion o'r un anian a oedd yn awyddus i ddatblygu'r ardaloedd awyr agored.  Daeth grŵp cymunedol o ddisgyblion, staff, rhieni/gofalwyr, llywodraethwyr, cynghorwyr dinas a chyfeillion yr ysgol at ei gilydd ar ddiwrnodau cytunedig ar ôl yr ysgol a hefyd ar Sadyrnau achlysurol i ddatblygu cylchoedd boncyffion, ardaloedd coedwig, gwelyau uchel, cynwysyddion plannu, ardaloedd gwyllt, strwythurau gwiail pren helyg, ceginau mwd ac ati. Trwy ddod at ein gilydd fel cymuned gwnaethom gyflawni llawer iawn, a meithrin ymdeimlad rhagorol o undod. Roeddem yn ddigon ffodus o gael staff brwdfrydig yn yr ysgol a ddaeth yn brif ysgogwyr mentrau o'r fath. Cawsom gyllid gan Dysgu Drwy Dirweddau ar gyfer offer awyr agored a hyfforddiant staff a dyrannwyd cyllid pellach i ddatblygu cwrs cyfeiriannu trawsgwricwlaidd a hyfforddiant.” 

“Mae grŵp o staff ar draws yr ystod oedran wedi ffurfio Cymuned Ddysgu Broffesiynol sy'n canolbwyntio ar ddysgu yn yr amgylchedd naturiol, gan rannu'r manteision ac ystod o adnoddau i gefnogi datblygiad addysgeg dysgu awyr agored yn yr ysgol gyda staff eraill.  Mae meithrin cysylltiadau effeithiol gyda rhieni, grwpiau lleol, unigolion gan gynnwys ein coedwigwr a busnesau lleol wedi rhoi cefnogaeth bellach i ddatblygu defnyddio ein cynefin lleol i yrru ein haddysgeg dysgu awyr agored yn ei blaen.” 

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru