Cyfoeth Naturiol Cymru yn dechrau ailagor meysydd parcio’n raddol

Delwedd o gerbyd Cyfoeth Naturiol Cymru ar ffordd yng nghefn gwlad

Fel rhan o’r dull gofalus a gynlluniwyd o ailagor cefn gwlad Cymru ar ôl cryn aros, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau heddiw y bydd yn dechrau agor rhai meysydd parcio yn ei safleoedd ledled Cymru ddydd Mercher 17 Mehefin.

Mae unrhyw benderfyniadau ynghylch pa safleoedd i’w hagor wedi cael eu gwneud gan reolwyr lleol yn CNC gan ystyried pob safle yn unigol, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill.

Hefyd, mae’r penderfyniadau wedi cael eu gwneud gan ystyried yn llawn anghenion y gymuned leol ac o dan arweiniad system goleuadau traffig Llywodraeth Cymru.

Caiff y meysydd parcio eu hagor yn raddol mewn ffordd ofalus ac atgoffir ymwelwyr na fydd pob cyfleuster ar gael ym mhob safle. Caiff tudalen we benodedig ei lansio ar wefan CNC ddydd Mercher 17 Mehefin lle bydd gwybodaeth ynghylch y safleoedd sydd ar agor ac ar gau.

Bydd y meysydd parcio yn parhau i gael eu harchwilio yn ystod y diwrnodau nesaf er mwyn sicrhau bod y safleoedd yn barod i ymwelwyr allu dychwelyd iddynt yn ddiogel yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae’r penderfyniadau ynghylch pa feysydd parcio sy’n gallu ailagor ar hyn o bryd wedi cael eu gwneud yn unol â chyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru, a chydag ystyriaeth ofalus o’r angen i gynnal diogelwch ein hymwelwyr, staff a’r gymuned leol drwy’r adeg. Hyn fydd ein prif flaenoriaeth o hyd.

Bydd y broses o agor ein meysydd parcio yn cael ei gwneud yn raddol ac mewn camau, ac ni fydd pob cyfleuster yn agor yr un pryd. Wrth ddefnyddio ein meysydd parcio, ac os yw llwybrau troed a llwybrau ar agor, rydyn ni’n annog ymwelwyr i barchu ei gilydd a’r gymuned leol trwy ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol a gwarchod yr amgylchedd naturiol trwy ddilyn y cod cefn gwlad.

Mae mwyafrif llwybrau cerdded CNC wedi aros ar agor yn ystod y misoedd diwethaf, ond bydd llwybrau beicio mynydd, canolfannau ymwelwyr a chaffis yn parhau i fod ar gau yn unol â chanllawiau’r llywodraeth.

Dim ond pan fo CNC yn sicr y gellir ei wneud yn ddiogel y bydd y cyfleusterau hyn yn agor, gan ystyried dull graddol Llywodraeth Cymru o lacio cyfyngiadau.
Ychwanegodd Clare Pillman:

Rydyn ni’n gwybod y bydd nifer o bobl yn awyddus i ddychwelyd i’n holl safleoedd, ond rydyn ni eisiau sicrhau ein bod ni’n ymdrin â hynny yn y ffordd fwyaf diogel a chyson posibl. Bydd y penderfyniadau hynny’n cael eu llywio gan Lywodraeth Cymru wrth i ni symud trwy gamau’r system goleuadau traffig, ac wrth weithio’n effeithiol mewn partneriaeth ag eraill ledled Cymru.

Bydd CNC yn parhau i ddefnyddio’r cyfnod hwn i gynllunio a pharatoi i ailagor ein safleoedd yn llawn pan fo’r llywodraeth yn cadarhnau bod gwneud hynny’n ddiogel. Am nawr, rydyn ni’n dal i ofyn yn daer i bobl Cymru aros yn lleol a chadw ein cymunedau a Chymru’n ddiogel, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i groesawu ymwelwyr yn ôl i’n holl safleoedd yn y dyfodol agos.