Gofyn i fusnesau a thrigolion y Drenewydd i archwilio tanciau olew yn dilyn gollyngiad olew i afon

Gofynnir i fusnesau a thrigolion y Drenewydd i archwilio tanciau olew am ollyngiadau ar ôl i olew ollwng i'r Dolfor, llednant sy'n ymuno ag Afon Hafren yn y dref.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eisoes wedi gwneud ymchwiliadau helaeth i ffynhonnell y gollyngiad ac wedi diystyru llawer o ffynonellau posibl, ond heb ddod o hyd i'r ffynhonnell wreiddiol.

Dywedodd David Lee, Arweinydd Tîm Amgylchedd Gogledd Powys ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Er gwaethaf ymdrechion parhaus ein tîm ar lawr gwlad, nid yw wedi bod yn bosibl eto i ddod o hyd i ffynhonnell yr olew sy’n gollwng i mewn i'r Dolfor.
“Yn y cyfamser, mae ein Tîm Gweithlu Integredig wedi gosod trawst amsugnol a phadiau yn y llednant i amsugno'r olew a’i rhwystro rhag lledu ymhellach.
"Er ein bod yn deall bod yr olew yn gwneud i'r afon edrych yn anatyniadol, mae'r effaith amgylcheddol ar system yr afon yn gymharol fach, yn enwedig ers i ni roi mesurau ar waith i amsugno'r olew.
"O'n hymchwiliad hyd yn hyn, rydym yn disgwyl bod ffynhonnell y gollyngiad yn dod o ardaloedd Park Lane a Park Road y dref, ac o ffynhonnell danddaearol. Mae hyn yn gwneud ymchwiliadau i achos y gollyngiad yn anodd oherwydd y cyfarpar arbenigol sydd angen i wneud y gwaith.
"Mae hwn yn ollyngiad sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers peth amser, sy'n golygu nad yw pobl sy'n cadw olew gartref yn debygol o fod wedi sylwi ar ostyngiad sydyn yn lefel yr olew. Felly, rydym yn gofyn i unrhyw fusnesau neu gartrefi mewn rhannau o'r dref ar Park Lane a Park Road yn y dref i weld a oes ganddynt ollyngiad yn eu tanciau olew neu bibellau ac i roi gwybod i ni amdanynt.”

Mae CNC yn annog unrhyw breswylwyr neu berchennog busnes sy'n amau bod eu tanc olew yn gollwng i gysylltu â’r Ganolfan Rheoli Digwyddiadau ar 0300 065 3000.