Partneriaeth Taclo Tipio Cymru: yr hyn rydyn ni'n ei wneud
Mae Taclo Tipio Cymru yn bartneriaeth a noddir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cael ei chydlynu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, i helpu i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon.
Pwy ydym ni
Mae'r bartneriaeth Cymru gyfan hon yn cynnwys ystod o fwy na hanner cant o sefydliadau sy'n gweithio gyda'i gilydd, gan gynnwys:
- 22 awdurdod lleol yng Nghymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cadwch Gymru'n Daclus
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
- Yr Heddlu a'r Gwasanaethau Tân
- Cymdeithasau Tai
- Rheolwyr tir preifat
Yr hyn rydym yn ei wneud
Mae Taclo Tipio Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol yn bennaf, er ei fod yn agored i weithio gydag unrhyw sefydliad.
Rydym yn darparu'r cymorth canlynol yn rhad ac am ddim:
- Mynediad i'n Rhaglen FlyMapper sy'n caniatáu mapio digwyddiadau tipio anghyfreithlon yn ofodol, uwchlwytho lluniau, gwylio mannau problemus
- Gall swyddogion gorfodi Taclo Tipio Cymru ddarparu cyngor ac arweiniad ar sut i fynd ar drywydd camau gorfodi drwy hyfforddiant, cymorth ar lawr gwlad, mynediad at gyngor cyfreithiol a benthyciad offer - fel camerâu a thracwyr
- Deunyddiau codi ymwybyddiaeth ac ymgyrchoedd cenedlaethol
- Cydlynu gweithgorau rhanbarthol i ddod â sefydliadau ynghyd sy'n gweithio tuag at leihau tipio anghyfreithlon yng Nghymru
- Darparu arwyddion i weithredu fel ataliad a rhoi cyngor ar atal tipio anghyfreithlon ar dir a reolir gan eich sefydliad (er enghraifft tynhau diogelwch y targed)
Rydym hefyd yn coladu ac yn dilysu'r ystadegau tipio anghyfreithlon cenedlaethol blynyddol ar gyfer Llywodraeth Cymru ac rydym yn dod â rhanddeiliaid at ei gilydd i fynd i'r afael ar y cyd â thipio anghyfreithlon drwy rannu adnoddau ac arfer gorau.
Os hoffech weithio gyda Taclo Tipio Cymru, cysylltwch â taclotipiocymru@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk