Cynlluniau rheoli perygl llifogydd
Mae cynlluniau rheoli perygl llifogydd yn nodi sut y byddwn yn rheoli perygl llifogydd mewn ardaloedd allweddol ledled Cymru dros y chwe blynedd nesaf.
Mae’r cynlluniau’n egluro’r blaenoriaethau a’r camau gweithredu yr ydym yn eu cynnig i reoli’r perygl o lifogydd ar lefel genedlaethol a lleol. Maen nhw hefyd yn ystyried sut y mae angen inni addasu a lliniaru yn erbyn newid hinsawdd.
Trosolwg cenedlaethol
Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Cenedlaethol
Cynllun perygl llifogydd yn ôl ardal
Asesiadau Amgylcheddol
Rydym wedi cynnal asesiadau amgylcheddol i sicrhau bod effeithiau amgylcheddol, gan gynnwys effeithiau cymdeithasol a diwylliannol, yn cael eu hystyried fel rhan o’n cynlluniau.
Mae’r atodiadau a restrir isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Asesiad Amgylcheddol Strategol — Adroddiad Amgylcheddol
Atodiad E: Mesurau Lleol Canolbarth Cymru
Atodiad F: Mesurau Lleol Gogledd-ddwyrain Cymru
Atodiad G: Mesurau Lleol Gogledd-orllewin Cymru
Atodiad H: Mesurau Lleol Canol De Cymru
Atodiad I: Mesurau Lleol De-ddwyrain Cymru
Atodiad J: Mesurau Lleol De-orllewin Cymru
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Sut mae’r cynlluniau’n cael eu datblygu
Cafodd y cynlluniau diweddaraf eu cynhyrchu yn unol â gofynion Rheoliadau Perygl Llifogydd (2009).
Maent yn cynnwys y perygl o lifogydd o afonydd, o gronfeydd dŵr ac o’r môr. Yr Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol sy’n arwain ar lifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr llai. Maen nhw’n cyhoeddi eu strategaethau eu hunain ynglŷn â sut maen nhw’n ymdrin â’r math hwn o lifogydd yn eu hardal.
Mae’r cynlluniau wedi cael eu hadolygu gan yr awdurdodau llifogydd lleol arweiniol a sefydliadau perthnasol sy’n llunio’r cynlluniau rheoli basn afon wedi’u diweddaru.
Rydym hefyd wedi gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau ein bod yn gydgysylltiedig ar gyfer unrhyw ddalgylchoedd a rennir.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau drafft rhwng mis Mawrth 2023 a mis Mai 2023. Darllenwch y ddogfen yn crynhoi ymatebion i’r ymgynghoriad Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd.
Cynllun rheoli perygl llifogydd 2015 - 2021
Cyhoeddwyd y cynllun rheoli perygl llifogydd cyntaf ym mis Rhagfyr 2015.