Mae'r wybodaeth yn rhan o Adroddiad oGyflwr Adnoddau Naturiol 2025 (SoNaRR)

Nôl i gynnwys adroddiad SoNaRR 2025

Mae’r map a gyflwynir yn dangos trosolwg o faint wyth ecosystem eang Cymru. Mae’r map yn seiliedig ar ddata a grëwyd gan Cymru Fyw, sef prosiect gan yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Dylid defnyddio’r mapiau fel canllaw cyffredinol at ddibenion rhoi darlun a dangos ble gellir dod o hyd i’r ecosystemau hyn ledled Cymru, ynghyd â ffiniau rheoli hysbys.

Rydym wedi ailddosbarthu set ddata Cymru Fyw i gynrychioli ecosystemau’r ymyl arfordirol a’r ardal drefol yn well. Mae’r data a ddefnyddiwyd ar gyfer yr ailddosbarthiad hwn yn cynnwys data agored CNC a data o’r Arolwg Ordnans, ochr yn ochr â barn arbenigwyr.

Diweddarwyd ddiwethaf