Cryodeb

Mae’r ardal forol wrth y lan yng Nghymru’n ymestyn o’r marc dŵr uchel cymedrig hyd 12 milltir forwrol. Mae’n gorchuddio ychydig o dan 15,000 cilometr sgwâr neu 41% o diriogaeth Cymru. Mae’r asesiad o’r ecosystem forol yn cynnwys ansawdd dŵr morol, cynefinoedd rhynglanw ac is-lanw a’r rhywogaethau sydd ynddyn nhw.

Mae adnoddau naturiol morol yn cyflwyno ystod o fanteision a chyfleoedd ac maent yn cynnal gweithgareddau economaidd gan gynnwys:

  • Cloddio am agregau (tywod a graean mân)
  • Porthladdoedd a llongau
  • Dyframaethu a physgota
  • Ynni morol adnewyddadwy o'r gwynt a'r llanw

Mae’r amgylchedd morol yng Nghymru’n darparu gwasanaethau hanfodol i iechyd a lles dynol gan gynnwys:

  • Dal a storio carbon mewn cynefinoedd morol
  • Amddiffyn rhag llifogydd a'u lliniaru mewn modd naturiol
  • Y potensial ar gyfer adfer cynefinoedd a'r manteision cysylltiedig

Mae gwerth cynhenid yr amgylchedd morol yn cysylltu’n uniongyrchol a chyfleoedd cymdeithasol a manteision lles yn sgil hamdden, twristiaeth a gweithgareddau eraill.

Ein hasesiad

Lawrlwytho SoNaRR2020: Pennod morol (Saesneg PDF)

Mae'r bennod yn tynnu sylw at y pwysau amrywiol sy'n effeithio ar statws, maint, cyflwr ac amrywiaeth yr amgylchedd morol, a'r cyfleoedd i wella gwydnwch ecosystemau morol a sicrhau manteision lles i gymdeithas.

Mae anghenion tystiolaeth y bennod morol wedi'u cynnwys yn y tabl anghenion tystiolaeth cyffredinol.

Dogfennau cysylltiedig i'w lawrlwytho

Data, mapiau ac adroddiadau sy’n gysylltiedig â SoNaRR 2020

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf