Cryodeb

Roedd glaswelltiroedd lled naturiol yn dominyddu tirwedd gwastadeddau Cymru lai na 100 mlynedd yn ôl.

Bu dirywiad o dros 90% yn ystod diwedd yr 20fed ganrif.

Daeth y dirywiad hwn yn sgil polisïau o ran defnyddio tir oedd yn canolbwyntio ar gynhyrchiant amaethyddol.

Mae’r ardaloedd sydd ar ôl yn yr ecosystem fel y cyfryw’n fach ac yn dameidiog iawn.

Mae glaswelltiroedd lled naturiol yn gorchuddio tua 9% o dir Cymru. Maent i’w canfod yn bennaf yn yr ardal wledig sydd yn cael ei ffermio, sy’n gysylltiedig â rheoli dwysedd isel, ac sy’n cynnwys ychydig iawn o ddefnydd o wrteithiau sydd wedi ei wneud gan ddyn neu dim defnydd ohono o gwbl. Fel arfer mae da byw yn pori arnyn nhw er mwyn cynhyrchu cig neu gynnyrch arall gan anifeiliaid.

Mae’r rhan fwyaf o ecosystemau’n uwch o ran glaswelltiroedd lled naturiol nag o ran glaswelltiroedd sydd wedi eu gwella’n amaethyddol, yn enwedig y rheini sy’n ymwneud ag amrywiaeth fiolegol, peillio cnydau, storio carbon, rheoli llygredd a threftadaeth ddiwylliannol.

Ein hasesiad 

Lawrlwytho SoNaRR2020: Pennod glaswelltiroedd lled naturiol (Saesneg PDF)

Mae'r bennod hon yn tynnu sylw at y cyfleoedd i leihau'r broses o ddarnio glaswelltir lled naturiol a gwella gwydnwch yr ecosystem. Mae'r cyfleoedd yn cynnwys diogelu safleoedd glaswelltir yn fwy, adfer glaswelltiroedd sydd wedi dirywio a chael eu hesgeuluso, a chreu ardaloedd newydd o laswelltiroedd.

Mae cynnal a gwella glaswelltir lled naturiol yn gwarchod carbon yn y pridd ac yn fanteisiol i fioamrywiaeth, gan gyfrannu felly at ymdrechion i fynd i'r afael ag argyfyngau'r hinsawdd a natur.

Mae anghenion tystiolaeth y bennod glaswelltiroedd lled naturiol wedi'u cynnwys yn y tabl anghenion tystiolaeth cyffredinol.

Dogfennau cysylltiedig i'w lawrlwytho

Data, mapiau ac adroddiadau sy’n gysylltiedig â SoNaRR 2020

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf