Asesiad Cydymffurfiaeth Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonydd Cymru yn erbyn Targedau Ffosfforws

Mae newidiadau i ganllawiau'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur wedi golygu ein bod yn adolygu'r amcanion cadwraeth ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAu) afonol yng Nghymru.

Mae targedau ffosfforws wedi cael eu tynhau yn sylweddol. Rydym wrthi'n diwygio Cynlluniau Rheoli Craidd ein ACAu dŵr croyw fel eu bod yn ymgorffori'r targedau newydd.

Mae'r adroddiad hwn yn asesu cydymffurfiaeth â'r targedau ffosfforws diwygiedig ar gyfer ACAu afonol Cymru.

Cafodd data crynodiadau ffosfforws eu tynnu o gronfa ddata ansawdd dŵr CNC am gyfnod o dair blynedd, o fis Ionawr 2017 i fis Rhagfyr 2019 ar gyfer pob pwynt sampl o fewn cyrff dŵr yn y naw ACA a ddynodwyd ar gyfer un neu fwy o nodweddion afonydd. Y rhain oedd:

  • Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd
  • Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn
  • Afon Teifi
  • Afon Tywi
  • Afonydd Cleddau
  • Coetiroedd derw Meirionnydd a Safloedd Ystlumod (Afon Glaslyn)
  • Afon Dyfrdwy a Llyn Bala
  • Afon Wysg
  • Afon Gwy

Cafodd pob afon ei rhannu’n gyrff dŵr (rhannau o afonydd). Roedd 125 corff dŵr i gyd o fewn y cwmpas. Cynhaliwyd proses sicrhau ansawdd drwyadl ar y data.

Cafodd 107 o gyrff dŵr eu hasesu a phasiodd 39% ohonynt y targedau newydd a methodd 61% ohonynt. Roedd y rhan fwyaf o’r cyrff dŵr a fethodd â chyrraedd y targedau yng Nghanolbarth a De Cymru.

Dod o hyd i dargedau ffosfforws wedi'u diweddaru ar gyfer 2022

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn nodi nifer o atebion ac argymhellion i fynd i’r afael â methiannau ffosfforws yn ein hafonydd gwarchodedig. Drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid, byddwn yn ceisio mynd i’r afael â’r rhain er mwyn gwella ansawdd ein hafonydd.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf