Rhwydi glanio

Ni ddylai fod ag unrhyw rwydau clymog na rhwyllau o ddefnydd metelaidd.

Rhwydi cadw

  • Ni ddylai fod ag unrhyw rwyllau clymog na rhwyllau o ddefnydd metelaidd.
  • Ni ddylai fod ag unrhyw dyllau yn y rhwyll sy’n fwy na 25mm o gylchedd mewnol. 
  • Rhaid iddo fod o leiaf 2.0m o hyd.
  • Rhaid iddo gael cylch neu fframiau ategol sy’n fwy na 40cm ar wahân (ac eithrio’r pellter o frig y ffrâm i’r ffrâm neu’r gylch ategol cyntaf).
  • Rhaid iddo gael cylchoedd ategol sy'n ddim llai na 120cm o gylchedd.

Sachau cadw

  • Rhaid i’r rhain fod wedi’u gwneud o ddefnydd meddal, lliw tywyll, heb fod yn ysgrafellog, sy’n gadael i ddŵr dreiddio trwyddo.
  • Rhaid iddo fod o leiaf 120cm wrth 90cm o faint os yw’n betryal, neu 150cm wrth 30cm wrth 40cm os y’i defnyddir gyda ffrâm neu os y’i cynlluniwyd gyda’r bwriad o ddefnyddio ffrâm.
  • Ni chaniateir cadw mwy nag un pysgodyn mewn un sach cadw ar unrhyw adeg.

Llyswennod

Nid yw’r is-ddeddfau hyn yn berthnasol i rwydi cadw neu sachau cadw a ddefnyddir i ddal llysywod sydd wedi’i cymryd yn gyfreithlon gydag offer heblaw gwialen a lein.

Defnyddio tryfer (gaff) neu cynffonwr

Gwaherddir defnyddio tryfer (gaff) neu cynffonwr bob amser wrth bysgota am eog, brithyll, pysgod dŵr croyw neu lysywod.

Diweddarwyd ddiwethaf