Fforwm Pysgodfeydd Cymru
Pwrpas
Rydym am weld stociau pysgod a physgodfeydd yn ffynnu yng Nghymru, sy’n cael eu gwarchod, eu cefnogi a’u gwella gan yr amgylchedd naturiol y maent yn dibynnu arno
Bydd Fforwm Pysgodfeydd Cymru yn cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid sy’n dod at ei gilydd i rannu syniadau a gweithredu fel llysgenhadon ar gyfer pysgodfeydd Cymru.
Rydym am i’r grŵp newydd hwn gynrychioli pawb sy’n poeni am bysgod, nid dim ond deiliaid trwydded pysgota â gwialen a rhwydi; clybiau pysgota, perchnogion pysgodfeydd a glannau’r afon, ond hefyd sefydliadau cadwraeth; ymddiriedolaethau afonydd; gwirfoddolwyr a busnesau a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gysylltiedig â physgod a physgodfeydd.
Nid oes un ateb syml i ddatrys y materion a’r heriau niferus sy’n wynebu pysgodfeydd. Gellir dod o hyd i’r atebion drwy gyfuniad o wahanol newidiadau, y mae angen i bob un ohonynt gael eu hategu gan ffyrdd newydd o feddwl.
Drwy weithio gyda’n gilydd, bydd y fforwm yn sianel ar gyfer cyfnewid syniadau ac arfer gorau a bydd yn helpu i hysbysu gwaith pysgodfeydd CNC ar strategaeth, hyrwyddo a gweithio mewn partneriaeth, ymhlith meysydd eraill.
Aelodaeth
Y nod yw sicrhau bod ein stociau o bysgod dŵr croyw a mudol yn cael eu diogelu am genedlaethau i ddod.
Bydd y fforwm yn cynnwys cynrychiolwyr o CNC ac amrywiaeth o grwpiau a sefydliadau.
Mae gan aelodau ran i’w chwarae yn y ffordd y caiff pysgod a physgodfeydd eu rheoli yng Nghymru, ac maent wedi’u huno gan eu hawydd i weld pysgota yng Nghymru’n cael ei reoli mewn modd cynaliadwy sydd o fudd i bobl, amgylchedd ac economi Cymru.
I ddechrau, bydd y fforwm yn cynnwys y sefydliadau canlynol, ond bydd aelodaeth y dyfodol yn cael ei hadolygu. Yr aelodau yw:
- Afonydd Cymru
 - Angling Cymru
 - Angling Trust
 - Ymddiriedolaeth Eogiaid yr Iwerydd
 - Ymgyrch Amddiffyn Pysgodfeydd Cymru
 - Cynghrair Cefn Gwlad Cymru
 - Sefydliad Rheoli Pysgodfeydd – Cangen Cymru
 - Cadwraeth Eogiaid a Brithyll Cymru
 - Cymdeithas Genweirwyr Eog a Brithyll Cymru
 - Ymddiriedolaeth Brithyll Gwyllt
 
Yn ogystal, mae grwpiau eraill a allai fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y fforwm yn cynnwys Llywodraeth Cymru, rhwydwyr, sefydliadau bywyd gwyllt a grwpiau afonydd unigol yn ogystal â DEFRA ac Asiantaeth yr Amgylchedd, a fydd yn cyfrannu at drafodaethau trawsffiniol.
Cyfarfodydd
Byddwn yn anelu at gyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn mewn lleoliadau ledled Cymru.
27 Tachwedd 2023
5 Gorffennaf 2023
31 Ionawr 2023
31 Mai 2022
27 Medi 2022
13 Ionawr 2022
20 Medi 2021
1 Ebrill 2021, Skype
19 Tachwedd 2020, Skype
9 Ebrill 2020, Skype
14 Tachwedd 2019, Ivy Bush Royal Hotel, Caerfyrddin
- Agenda
 - Cyfraniadau (Saesneg yn unig)
Cyflwyniad Rheoli Tir yn Gynaliadw
Cyflwyniad grŵp cynghori radar sy’n bwyta pysgod
Briff canlyniad tymor caeedig pysgota bras EA
Gwerthiannau trwyddedau pysgota â gwialen
Hysbysebion tollau trwyddedau pysgota â rhwyd a gwialen Hydref 2019
Cynllun Gweithredu NASCO 2019Rhywogaethau estron a gyflwynwyd o Eogiaid pengrwm a Styrsiynod
Trwyddedu a Chydymffurfiaeth Ynni Dŵr CNC 
2 Mai 2019, Elephant and Castle Hotel, Broad Street, Newtown, Powys
- Agenda
 - Cyfraniadau
Stociau eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru 2018
Update on WLMF and its sub group on agricultural pollution (Saesneg yn unig
Environment Act Products (Saesneg yn unig) - Crynpdeb Cyfarfod (Saesneg yn unig)
 
31 Hydref 2018, Ty Cambria, Newport Road, Cardiff
- Agenda
 - Cyfraniadau
- Fforwm Pysgodfeydd Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru
 - Adroddiad Economaidd Gwerth Pysgota Cymru (Saesneg yn unig)
 - Hyrwyddo Pysgodfeydd Cymru – dull partneriaeth
 - Rhaglen Pysgodfeydd Cynaliadwy Adroddiad Interim 2002 – 2018
 - 13 Pysgodfeydd Mewndirol Cynaliadwy yng Nghymru Agenda ar gyfer Newid (Saesneg yn unig)
 - Grŵp Cynghori Cymru ar Adar sy'n Bwyta Pysgod
 - Diweddariad ar werthiannau trwyddedau pysgota â gwialen (Hydref 2018)
 
 - Crynodeb Cyfarfod
 
Cysylltwch â ni
Ebostiwch Fisheries.Wales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk am ragor o wybodaeth.