Cyngor i ddatblygwyr sy'n cynnig prosiectau seilwaith arwyddocaol

Gwasanaethau cyngor cyn ymgeisio a ddarparwn

Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cyngor cyn ymgeisio ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol yng Nghymru ac ardal forol Cymru (y môr ger Cymru hyd at y ffin y môr tiriogaethol sy’n wynebu’r môr). Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Gwasanaeth rhagarweiniol statudol y codir tâl amdano sy'n darparu datganiad lefel uchel ynghylch ystyriaethau amgylcheddol a gofynion asesu ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol arfaethedig, yn ogystal â chyngor eang ynghylch unrhyw Ddatganiad Tir Cyffredin posibl a chyngor arall sy'n ymwneud ag ymgynghori cyn ymgeisio yr ydym yn argymell eich bod yn ei gynnal gyda thimau arbenigol eraill yn CNC neu drydydd partïon. Argymhellir, os dewiswch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, eich bod yn gofyn amdano yn ystod camau cynnar datblygu'r prosiect.
  • Gwasanaeth cynghori dewisol y codir tâl amdano sy'n darparu cyngor pellach ar sawl pwnc amgylcheddol a mathau o ddatblygiad, gan gynnwys prosiectau seilwaith arwyddocaol. Er bod y gwasanaeth hwn fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyngor a thrafodaethau mwy manwl ar ôl cael cyngor gwasanaeth rhagarweiniol statudol neu unrhyw gyngor ar gyfarwyddyd cwmpasu asesiad o'r effaith amgylcheddol gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, gellir gofyn amdano ar unrhyw adeg yn ystod y cam cyn ymgeisio. Argymhellir hefyd eich bod yn defnyddio'r gwasanaeth hwn mewn perthynas ag unrhyw gais am Ddatganiad Tir Cyffredin yn ddiweddarach yn y cyfnod cyn ymgeisio, cyn cyflwyno eich cais prosiect seilwaith arwyddocaol arfaethedig i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.

Dysgwch fwy am sut i geisio cyngor pellach gennym ni ynghylch eich prosiect seilwaith arwyddocaol arfaethedig drwy ein gwasanaeth cyngor dewisol.

Cyngor arall a ddarparwn yn ystod y cyfnod cyn ymgeisio

Efallai y bydd angen asesiad o'r effaith amgylcheddol ar gyfer prosiect seilwaith arwyddocaol ac, os yw hynny’n wir a phan fyddwn yn cael ymgynghoriad ar gyfarwyddyd cwmpasu gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, byddwn yn rhoi cyngor i’r corff ynghylch cwmpas y datganiad amgylcheddol a'r methodolegau asesu cysylltiedig, yn ôl yr angen. Bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn cynnwys ein hymateb i'r ymgynghoriad fel rhan o'r cyfarwyddyd cwmpasu a gyhoeddir i'r datblygwr. Rydym yn adennill ein costau [hyperddolen i dudalen we'r ffi] am ddarparu'r cyngor hwn gan y datblygwr.

Rhaid i chi ymgynghori â ni ynghylch eich cais prosiect seilwaith arwyddocaol arfaethedig fel rhan o ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd cyn ymgeisio statudol yn unol ag adran 30 o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 a Rheoliad 8 o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025. Ar y cam hwn, dylai eich cais prosiect seilwaith arwyddocaol arfaethedig fod wedi'i ddatblygu'n dda ar ôl cael ei lywio gan ymgysylltiad cynharach â'n gwasanaeth rhagarweiniol statudol pan ofynnwyd amdano, unrhyw wasanaeth cyngor dewisol anstatudol a ddarparwyd gennym, ac unrhyw gyngor ar gyfarwyddyd cwmpasu a gafwyd.

Byddwn yn rhoi ymateb o sylwedd i chi o ran yr ymgynghoriad yn manylu ar a oes gennym y canlynol:

  • dim sylw, gan gynnwys rhesymau dros yr ymateb hwnnw
  • dim gwrthwynebiad mewn perthynas ag unrhyw gyngor sefydlog cyfredol
  • pryderon a nodwyd a sut y gellir mynd i'r afael â nhw
  • pryderon a nodwyd, gan ein harwain felly i wrthwynebu cais a wneir dan yr un termau neu dermau sy’n debyg iawn, gan gynnwys rhesymau dros y gwrthwynebiad(au)     

Anfonwch eich hysbysiad ymgynghori cyn ymgeisio ar gyfer y cais prosiect seilwaith arwyddocaol arfaethedig drwy neges e-bost i: infrastructure.planning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Byddwn yn darparu ymateb o sylwedd o fewn 42 diwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, oni bai fod estyniad amser yn cael ei gytuno. 

Rydym yn adennill ein costau am roi'r ymateb o sylwedd i chi.

Dysgwch fwy am y ffioedd a godwn mewn perthynas â'n gwasanaeth rhagarweiniol statudol, ein gwasanaeth cyngor dewisol, a swyddogaethau a gwasanaethau cydsyniad seilwaith eraill.

Sut i wneud cais am ein gwasanaeth rhagarweiniol statudol

Rydym yn darparu gwasanaeth rhagarweiniol statudol ar gyfer pob cynllun prosiect seilwaith arwyddocaol arfaethedig ar gais yr ymgeisydd yn unol ag adran 27 o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 a Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025. Rhaid i bob cais am y gwasanaeth rhagarweiniol hwn gael ei ategu gan y canlynol:

  • ffurflen gais am wasanaethau rhagarweiniol wedi'i chwblhau
  • ar gyfer datblygiad daearol yng Nghymru, cynllun wedi'i lunio i raddfa a nodwyd ac yn dangos cyfeiriad y gogledd
  • ar gyfer datblygiad yn ardal forol Cymru, cyfesurynnau sy'n nodi'r lleoliad y mae'r cais yn ymwneud ag ef
  • unrhyw gynlluniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy'n angenrheidiol i ddisgrifio'r datblygiad arfaethedig

Anfonwch eich cais am wasanaeth rhagarweiniol drwy neges e-bost i: infrastructure.planning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Yn amodol ar gyflwyno'r holl wybodaeth uchod a thalu'r ffi, bydd y cais yn cael ei dderbyn fel un dilys a byddwn yn rhoi hysbysiad i chi yn nodi ein bod wedi’i dderbyn. Os yw'n annilys, byddwn yn rhoi gwybod i chi am y rhesymau pam nad yw eich cais wedi'i dderbyn.

Darperir y gwasanaeth o fewn 29 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad dilysu oni bai fod estyniad amser yn cael ei gytuno.

 Fel rhan o'r gwasanaeth hwn, ac yn unol â gofynion statudol, byddwn yn darparu'r canlynol i chi:

  • datganiad o ystyriaethau amgylcheddol ar gyfer y datblygiad arfaethedig
  • datganiad o unrhyw asesiadau amgylcheddol a allai fod yn ofynnol mewn perthynas â'r datblygiad arfaethedig
  • manylion unrhyw ddatganiad posibl o dir cyffredin
  • cyngor ar unrhyw ymgynghoriad cyn ymgeisio a allai gael ei gynnal, gan gynnwys unrhyw bersonau y gellid ymgynghori â nhw

Gallwch hefyd wneud cais ysgrifenedig am gyfarfod cyn ymgeisio. Pan fyddwn yn cael cais o'r fath, byddwn yn rhoi gwybod i chi a gynhelir cyfarfod ai peidio o fewn 15 diwrnod.

Sylwch nad oes gofyniad statudol i ni dderbyn y cais am gyfarfod cyn ymgeisio a bydd unrhyw benderfyniad i fwrw ymlaen yn cael ei wneud fesul achos. Pan fyddwn yn derbyn cais, byddwn yn adennill ein costau am baratoi a darparu cyngor yn y cyfarfod.

Cyhoeddi cyngor gwasanaeth rhagarweiniol statudol

Rhaid inni gadw a chyhoeddi cofrestr [hyperddolen i’r tudalen we ar gyfer cofrestr pan fydd ar gael] o geisiadau am y gwasanaeth rhagarweiniol statudol, y mae'n rhaid iddi gynnwys:

  • copi o'r ffurflen gais am wasanaeth rhagarweiniol
  • unrhyw gynllun, dogfennaeth, adroddiadau neu wybodaeth arall a gyflwynwyd
  • ymateb gwasanaeth rhagarweiniol CNC

Fel arfer, rhaid i ni gyhoeddi'r wybodaeth a'r dogfennau hyn ar adeg darparu'r gwasanaeth. Os yw ymgeisydd yn dymuno gofyn i ni atal gwybodaeth benodol o'r gofrestr gyhoeddus, er enghraifft oherwydd cyfrinachedd masnachol, rhaid iddynt ddarparu rhesymau dros gynnal cyfrinachedd sy'n gorbwyso budd y cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth. Dim ond nes bod Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn cael hysbysiad o gais prosiect seilwaith arwyddocaol arfaethedig, neu dair blynedd ar ôl cyhoeddi'r cyngor, pa un bynnag sydd gyntaf, y gall unrhyw oedi cyn cyhoeddi fod.

Diweddarwyd ddiwethaf