Dull o gymhwyso a chyfrifo ffioedd ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol

Dull o gymhwyso a chyfrifo ffioedd ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol

Disgwylir i ddatblygwyr dalu ein costau am ddarparu cyngor statudol ac anstatudol mewn perthynas â phrosiectau seilwaith arwyddocaol ar bob cam perthnasol o'r broses cydsyniad seilwaith. Mae'r gwasanaethau rydym yn codi tâl amdanynt a'r ffioedd sy'n daladwy wedi'u nodi isod. Mae'r ffioedd wedi'u cyfrifo yn seiliedig ar amcangyfrifon o amser staff a chostau eraill sy'n gysylltiedig ag asesu a chynghori ar gais prosiect seilwaith arwyddocaol.

Y cyfnod cyn ymgeisio

Gwasanaeth Rhagarweiniol Statudol

Wedi'i ddarparu yn unol ag adran 27(1) o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 a rheoliadau 9, 10, 11(2) a 12 o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025.

Swm

Safonol £750 (wedi'i dalu wrth gyflwyno – y tu allan i gwmpas TAW); £125 amrywiol ychwanegol yr awr (wedi'i anfonebu yn ddyledus – y tu allan i gwmpas TAW)

Gwasanaeth a ddarperir

Byddwn yn darparu cyngor ysgrifenedig, gan gynnwys:

  • datganiad o ystyriaethau amgylcheddol ar gyfer y datblygiad arfaethedig
  • datganiad o unrhyw asesiadau amgylcheddol a allai fod yn ofynnol mewn perthynas â'r datblygiad arfaethedig
  • manylion unrhyw ddatganiad posibl o dir cyffredin
  • cyngor ar unrhyw ymgynghoriad cyn ymgeisio a allai gael ei gynnal

Os yw cost darparu'r cyngor ysgrifenedig uchod yn debygol o fod yn fwy na'r ffi gwasanaeth rhagarweiniol safonol, byddwn yn rhoi gwybod i’r ymgeisydd o'r ffi ychwanegol sy'n daladwy ac yn gofyn am gadarnhad ganddo ei fod yn derbyn y ffi ychwanegol.

Bydd ffi ychwanegol hefyd yn daladwy pan fyddwn yn cytuno i gynnal cyfarfod cyn ymgeisio.

Sgrinio ar gyfer asesiad o'r effaith amgylcheddol

Swm

Amrywiol £125 yr awr (anfonebir yn ddyledus – y tu allan i gwmpas TAW)

Gwasanaeth a ddarperir

Cyngor a ddarparwyd i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i benderfynu a oes angen asesiad o'r effaith amgylcheddol.

Cwmpasu’r asesiad o'r effaith amgylcheddol

Swm

Amrywiol £125 yr awr (anfonebir yn ddyledus – y tu allan i gwmpas TAW)

Gwasanaeth a ddarperir

Cyngor a ddarparwyd i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i bennu cwmpas a chynnwys datganiad amgylcheddol.

Gwasanaeth cyngor dewisol ar gyfer cynllunio datblygu a chyngor morol

Swm

Amrywiol £125 yr awr (anfonebir yn ddyledus – yn destun TAW)

Gwasanaeth a ddarperir

Darllenwch fwy am ein gwasanaeth cyngor dewisol.

Ymgynghoriad a Chyhoeddusrwydd Cyn-ymgeisio Statudol

Swm

Amrywiol £125 yr awr (anfonebir yn ddyledus – y tu allan i gwmpas TAW)

Gwasanaeth a ddarperir

Byddwn yn darparu ymateb sylweddol a fydd:

  • yn nodi nad oes gennym unrhyw sylwadau i'w gwneud ac yn rhoi rhesymau dros yr ymateb hwnnw
  • yn nodi nad oes gennym unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig, gan gyfeirio'r ymgeisydd at ein cyngor sefydlog ar bwnc yr ymgynghoriad
  • yn hysbysu'r ymgeisydd am ein pryderon ynghylch y datblygiad arfaethedig a sut y gellir mynd i'r afael â'r rheini
  • yn hysbysu'r ymgeisydd fod gennym bryderon ynghylch y datblygiad arfaethedig ac y byddem yn gwrthwynebu cais a wneir dan yr un termau neu dan dermau sy’n debyg iawn, gan nodi'r rhesymau dros y gwrthwynebiadau hynny

Noder: ni fydd y ffi yn cynnwys y gost o gynghori ar unrhyw faterion sy’n gysylltiedig â thynnu gofynion cydsyniad neu gydsyniad tybiedig, pan fo’n berthnasol.

Cyfnod ymgeisio ac archwilio

Nid yw'r ffioedd perthnasol ar gael eto.

Cyfnod penderfynu

Nid yw'r ffioedd perthnasol ar gael eto.

Cyfnod ôl-benderfynu

Nid yw'r ffioedd perthnasol ar gael eto.

Taliad wrth gyflwyno

Telir ffi safonol y gwasanaeth rhagarweiniol statudol o £750 wrth gyflwyno cais a gellir talu'r ffi dros y ffôn drwy ein ffonio ni ar 03000 653770 rhwng 9yb a 5yp, dydd Llun i ddydd Gwener. Pan fyddwch yn talu, nodwch fod y taliad am y gwasanaeth rhagarweiniol statudol ar gyfer prosiect seilwaith arwyddocaol arfaethedig.

Anfonebu

Ar ôl i ni gwblhau gwasanaethau penodol, byddwn yn anfon anfoneb atoch. Bydd yr anfoneb yn cynnwys:

  • disgrifiad o'r gwasanaeth(au) a ddarparwyd
  • nifer yr oriau a dreuliwyd ar y gwasanaeth(au)
  • unrhyw TAW a godir

Rhaid i chi dalu'r anfoneb o fewn 28 diwrnod. Os yw'r taliad yn hwyr, byddwn yn anfon nodyn atgoffa. Os na fyddwn yn cael y taliad erbyn y dyddiad a nodir yn y nodyn atgoffa, efallai y byddwn yn anfon ail nodyn atgoffa atoch ac yn eich rhybuddio am gamau pellach y gallem eu cymryd i adennill costau.

Rhowch wybod i ni am unrhyw rif archeb brynu yr hoffech i ni ei ddefnyddio yn ein hanfonebau.

Anghydfodau

Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad dyledus, efallai y byddwn yn adennill y ffi fel dyled sifil. Efallai na fyddwn hefyd yn darparu gwasanaethau tebyg y gofynnir amdanynt wedi hynny nes bod y mater wedi'i ddatrys. Pan fo angen, byddwn yn hysbysu Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru a/neu'r awdurdod archwilio pa wasanaethau sy'n cael eu hatal a'r rhesymau dros wneud hynny.

Os ydych chi am herio anfoneb, cysylltwch â ni yn ysgrifenedig yma: online@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.  

Mae'r cyfeiriad e-bost hwn ar ein hanfonebau hefyd.

Diweddarwyd ddiwethaf