Sut i osgoi neu leihau effeithiau datblygiad ar goetir hynafol
Rhestr Coetiroedd Hynafol
Dewch o hyd i bob ardal sydd wedi’i dynodi’n goetir hynafol yng Nghymru ar wefan Lle
Beth i’w wneud os yw eich datblygiad yn debygol o gynhyrchu amonia yn agos at goetir hynafol
Mae coetiroedd hynafol yn cael eu heffeithio er gwaeth oherwydd cynnydd mewn crynodiadau amonia yn yr aer a lefelau gwaddodi nitrogen – un o’r bygythiadau mwyaf yn erbyn ein coetiroedd hynafol yng Nghymru.
Ni ddylai datblygiadau newydd arwain at ddirywiad pellach mewn safleoedd coetir hynafol o ganlyniad i gynnydd sylweddol mewn crynodiadau amonia atmosfferig a chyfanswm y gwaddodi nitrogen. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd mewn ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau sy’n achosi allyriadau amonia, fel unedau da byw dwys, yn agos at safleoedd sensitif.
Mae coetir hynafol yn dod o dan y diffiniad o safle sensitif yng nghanllawiau CNC. Rydym wedi creu canllawiau ar asesiadau amonia y dylai ymgeiswyr a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau eu defnyddio fel ystyriaeth berthnasol allweddol.
Dylai’r ystyriaeth hon fod yng nghyd-destun pennu a allai safle coetir hynafol gael ei effeithio gan amonia o ddatblygiad h.y asesiad i sgrinio ar gyfer amonia a sut i ymgymryd â’r asesiad.
Dylai’r pwyntiau canlynol gael eu hystyried wrth ddefnyddio’r canllawiau asesu amonia ar gyfer effeithiau ar goetir hynafol:
- Dyrannwyd Lefelau Amonia Critigol (1 neu 3 µg/m3) i safleoedd dynodedig (ACA/SoDdGA), yn ôl eu nodweddion. Mae rhai o’r safleoedd ACA/SoDdGA hyn yn goetiroedd hynafol, ond nid pob un.
- Mae Coetiroedd Hynafol Lled-Naturiol (ASNW), y categori uchaf sy’n perthyn i goetir hynafol, yn ecolegol weithredol i’r fath raddau fel bod y cyfan ohonynt yn gymwys i’w gwarchod rhag llygredd amonia. Os oes gan CNC dystiolaeth o Gennau neu Bryoffytau sensitif i nitrogen mewn ASNW, yna caiff yr ASNW hwnnw ei fapio fel un sy’n gofyn cael ei asesu gyda Lefel Amonia Critigol o 1µg/m3 fel lefel briodol o amddiffyniad; os nad oes gan CNC unrhyw dystiolaeth ddiweddar o Gennau neu Bryoffytau sensitif i nitrogen, yna caiff yr ASNW hwnnw ei fapio fel un sy’n gofyn cael ei asesu gyda’r Lefel Gritigol o 3µg/m3 ar gyfer ‘amddiffyn planhigion fasgwlaidd’.
- Gallai Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS), Safleoedd Coetir Hynafol Wedi’i Adfer (RAWS) a Safleoedd Coetir Hynafol Anhysbys fod yn ecolegol weithredol, ond gallai gwaith coedwigo fod wedi tarfu gymaint arnynt yn y gorffennol fel nad ydynt yn gweithredu fel ecosystemau naturiol mwyach. Bernir nad yw’n ofynnol asesu’r safleoedd hyn ar gyfer Lefelau Amonia Critigol (1 neu 3 µg/m3).
- Caiff Parcdiroedd a Phorfeydd Coediog â thystiolaeth ddiweddar o Gennau sy’n sensitif i nitrogen hefyd eu mapio fel rhai sy’n gofyn cael eu hasesu gyda’r Lefel Amonia Gritigol amddiffynnol o 1µg/m3.
Sut i Osgoi a Lliniaru Effeithiau Datblygiadau ar Goetir Hynafol
Bydd mesurau lliniaru’n dibynnu ar y datblygiad a’r effaith andwyol bosibl. Dyma rai enghreifftiau:
- gwella cyflwr y coetir drwy reoli sympathetig e.e tynnu coed conwydd estron i wella iechyd coetir hynafol;
- gosod rhwystrau sgrinio o fewn y datblygiad ei hun i amddiffyn coetir neu goed hynafol rhag allyriadau o’r awyr fel llwch a llygredd;
- mesurau lleihau golau neu sŵn fel goleuadau cyfeiriedig a ffensio acwstig i leihau’r risg o darfu ar famaliaid ac adar sy’n nythu;
- amddiffyn coetiroedd hynafol drwy ddylunio mannau agored o’u hamgylch h.y dim gwaith datblygu o fewn cwmpas brigdyfiant y goeden i amddiffyn coed coetiroedd hynafol rhag difrod i’w gwreiddiau;
- nodi ac amddiffyn coed a allai ddod yn goed hynafol yn y dyfodol a’u hamddiffyn drwy orchymyn gwarchod coed;
- newid trywydd llwybrau i osgoi difrod i fflora coetiroedd hynafol ac osgoi tarfu ar fywyd gwyllt;
- cael gwared â rhywogaethau goresgynnol i amddiffyn iechyd ecosystemau coetiroedd hynafol;
- parthau clustogi neu amddiffyn i amddiffyn coetiroedd hynafol rhag allyriadau o’r awyr ac aflonyddwch oherwydd datblygiadau newydd.
Sut y gall gwaith datblygu effeithio ar goetir hynafol
Gallai cynigion datblygu effeithio’n andwyol ar goetiroedd hynafol a’r bywyd gwyllt maen nhw’n ei gefnogi oherwydd difrod uniongyrchol, darniad, neu drwy allyriadau o’r awyr. Gall hyn arwain at:
- ddifrodi neu ddifetha rhan o goetir hynafol neu’r cyfan ohono (gan gynnwys ei briddoedd, fflora’r ddaear neu ffyngau)
- newidiadau i gyfansoddiad fflora’r ddaear mewn coetir
- difrod i iechyd coed
- gwenwyno bywyd gwyllt
- colli micro-organebau’r pridd, sy’n effeithio ar y cylch maethynnau
- difrodi gwreiddiau a’r isdyfiant (yr holl lystyfiant o dan y coed talach)
- difrodi neu gywasgu pridd o amgylch gwreiddiau’r coed
- llygru’r tir o amgylch coetir hynafol
- newid y lefel trwythiad neu ddraeniad y coetir neu goed unigol
- torri neu ddinistrio cysylltiadau rhwng coetiroedd a choed hynafol
- lleihau faint o gynefinoedd lled-naturiol sydd i’w cael wrth ymyl coetiroedd hynafol
- newid i gymeriad y dirwedd yn yr ardal
- colli pridd a charbon uwchben y ddaear
Mae datblygiadau newydd yn agos at goetir hynafol yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd planhigion estron yn goresgyn y coetir oherwydd:
- newid yn yr amodau amgylcheddol
- newid yn y prosesau hydrolegol
- cynnydd yn nhrwch y boblogaeth ddynol
- mwy o achosion o ddarnio cynefinoedd
- gorfaethu
- agosrwydd gerddi preswyl
- aflonyddu ar y pridd
- mwy o ddefnydd er hamdden