Systemau Draenio Cynaliadwy

Mae systemau draenio cynaliadwy (SuDS) wedi'u cynllunio i ddynwared draeniad naturiol trwy reoli dŵr ffo wyneb mor agos at y ffynhonnell â phosibl.

Bellach mae'n ofynnol i bob datblygiad newydd gynnwys Systemau Draenio Cynaliadwy sy'n cydymffurfio â Safonau SuDS Statudol Cenedlaethol. Rhaid i ddatblygwyr gael cymeradwyaeth ar gyfer eu draenio gan Gorff Cymeradwyo SuDS (SAB) cyn dechrau adeiladu.

Mae SABau yn gweithredu o fewn pob awdurdod lleol.

Lawrlwythwch y Safonau SuDS Statudol Cenedlaethol o wefan Llywodraeth Cymru

Cymeradwyaeth SAB

Mae SABau yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio (codir tâl am hwn) i drafod gofynion y safle unigol a chynghori ar gyflwyno cais.
Dylid cyflwyno ceisiadau i'r SAB i'w dilysu a'u cyflwyno ynghyd â:

  • chynllun yn nodi'r ardal adeiladu a maint y system ddraenio
  • gwybodaeth am sut y bydd y gwaith adeiladu yn cydymffurfio â Safonau SuDS
  • gwybodaeth y gofynnir amdani yn rhestr wirio'r ffurflen gais
  • y ffi ymgeisio briodol

Bydd SAB yn ymateb o fewn 7 wythnos neu 12 wythnos os oes angen Asesiad Effaith Amgylcheddol.

Susdrain

Mae Susdrain yn wefan annibynnol ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â darparu draeniad cynaliadwy. Mae'n rhoi arweiniad, gwybodaeth ac astudiaethau achos i helpu gyda chynllunio, dylunio, cymeradwyo, adeiladu a chynnal SuDS.

Mae cefnogaeth ar gael i reolwyr perygl llifogydd, peirianwyr, cynllunwyr, dylunwyr, penseiri tirwedd a datblygwyr.

Darllenwch ragor am bob agwedd ar SuDS ar wefan Susdrain 

Arweiniad pellach ar SuDS

Mae CIRIA yn cynhyrchu Guidance on the Construction of SuDS' a 'The SuDS Manual', sydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim o'u gwefan (angen mewngofnodi).

Canllawiau SuDS Llywodraeth Cymru 

Diweddarwyd ddiwethaf